English icon English
Llwyn Yr Eos primary school 2-2

Disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn ffynnu mewn ysgol gynhwysol

Pupils with additional learning needs thrive at inclusive school

Mae diwygiadau addysg yng Nghymru yn creu profiad addysg cynhwysol lle mae dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu cefnogi i ffynnu ym mywyd ysgol brif ffrwd.

Ar ymweliad ag ysgol gynradd Llwyn yr Eos yn Aberystwyth, cafodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle, weld drosti ei hun sut mae dysgwyr ag ystod eang o anghenion dysgu ac anghenion meddygol cymhleth, yn cael eu cefnogi mewn cyfleusterau addysgu arbenigol yn yr ysgol brif ffrwd.

Cafodd yr Ysgrifennydd Cabinet gwrdd â Gethin, 10 oed, a chanddo anabledd dwys, sy'n ddieiriau ac yn defnyddio technoleg llwybr llygad i gyfathrebu. Mae'n cymryd rhan mewn gweithgareddau ysgol gyfan fel y cyngerdd ysgol lle mae'n defnyddio ei dechnoleg llwybr llygad i weithredu'r system oleuadau.

Mae technoleg llwybr llygad yn galluogi rhywun i reoli cyfrifiadur neu lechen drwy edrych ar eiriau neu orchmynion ar sgrin.

Dywedodd rhieni Gethin:

"Mae mor bwysig bod Gethin yn gallu mynd i'r ysgol, i brofi'r byd a chael ffrindiau. Po hiraf y mae wedi bod yn yr ysgol, y mwyaf rydyn ni wedi deall ei alluoedd. Ei gynorthwyydd dysgu a'i athrawon sydd wedi gwireddu ei botensial, mae wedi gwneud cynnydd aruthrol yn yr hyn y mae wedi gallu ei wneud, gyda mathemateg yn arbennig - mae'n anhygoel."

Diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru, mae cyfleusterau'r ysgol wedi'u haddasu wrth i anghenion dysgwyr newid, er enghraifft ehangu uned Enfys, canolfan adnoddau arbenigol ar gyfer plant awtistig rhwng 3 ac 11 oed, ei hysgol goedwig ac offer i ddysgwyr fel celfi pwrpasol i blant ag anghenion synhwyraidd, teganau ffidlan, peli straen a gwrthrychau cyffwrdd. Mae'r offer hyn yn ddefnyddiol ar gyfer hunanreoleiddio a chynnal ffocws.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:

"Mae gweld sut mae ein diwygiadau yn creu system wirioneddol gynhwysol yn ysbrydoliaeth go iawn. Yma yn Llwyn yr Eos mae'n amlwg bod pob dysgwr yn elwa ar y dull gweithredu hwn, gan sicrhau bod y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu cynnwys ym mhob rhan o fywyd yr ysgol.

"Roedd yn hawdd gweld eu hagwedd gadarnhaol, eu dull dysgu arloesol a sut mae hyblygrwydd y cwricwlwm newydd yn sail i fywyd yr ysgol.

"Mae pob plentyn yng Nghymru yn haeddu cael addysg o safon uchel. Mae ein diwygiadau, ynghyd â'r cyllid sylweddol yr ydym yn ei fuddsoddi mewn adeiladau ysgolion, yn galluogi ein hysgolion i gefnogi dysgu cynhwysol a helpu pob plentyn i gyrraedd ei botensial llawn."

Dywedodd Bethan Payne, Pennaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghyngor Ceredigion:

"Mae cydweithio rhwng Llwyn yr Eos ac awdurdod lleol Ceredigion bob amser wedi bod yn rhan annatod o ddatblygu darpariaeth well i ddysgwyr. Mae'r ysgol yn rhoi o'i gorau i gynorthwyo'r awdurdod lleol i wireddu ei weledigaeth ar gyfer arferion cynhwysol. 

"Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae cyllid Llywodraeth Cymru wedi cael ei ddefnyddio i ddatblygu darpariaeth allgymorth newydd ar gyfer cefnogi dysgwyr sy'n cael trafferth hunanreoleiddio yn eu hysgolion prif ffrwd."

Mae'r system ADY a'r Cwricwlwm i Gymru yn cael eu cyflwyno gyda'i gilydd i greu system addysg gynhwysol i sicrhau bod dysgwyr yn cael eu hysbrydoli, eu hysgogi a'u cefnogi i gyrraedd eu potensial llawn.