Diwedd blwyddyn brysur arall i ffilm a theledu yng Nghymru
That’s a wrap on another busy year for film and TV in Wales
Mae wedi bod yn flwyddyn wych i ffilm a theledu yng Nghymru gyda chynyrchiadau o stiwdios mwya'r byd yn dod i Gymru.
Dywed asiantaeth greadigol Llywodraeth Cymru, Cymru Greadigol bod £14.2m o gyllid cynhyrchu wedi cael ei ddyfarnu'n llwyddiannus i 22 o brosiectau ers ei sefydlu ym mis Ionawr 2020, ac mae gwariant gan frandiau fel Lucasfilm, Netflix a Bad Wolf wedi cynhyrchu dros £155.6m o wariant cynhyrchu ar gyfer Economi Cymru.
Gyda’r ffilmio ar gyfer cynyrchiadau mawr fel Havoc a ddaeth i ben yn ddiweddar a chyfresi a wnaed yng Nghymru fel Willow, His Dark Materials 3 a phedwerydd tymor Sex Education ar fin cyrraedd, mae'r economi greadigol leol yn tyfu'n gyfrannol o flwyddyn i flwyddyn.
Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf yn unig, mae Sgrîn Cymru, gwasanaeth lleoliadau Cymru Greadigol, wedi derbyn dros 900 o ymholiadau cynhyrchu gan griwiau ffilm a theledu sydd am fanteisio ar gyfleusterau o'r radd flaenaf yn y wlad.
Yn 2021, gwelodd sector sgrin Cymru drosiant o £575 miliwn, cynnydd o 36% ers y flwyddyn flaenorol. Dangosodd Adroddiad y British Film Institute yn 2021 fod buddsoddi mewn ffilmiau gan sefydliadau fel Cymru Greadigol wedi arwain at gynnydd naw gwaith yn allbwn economaidd y wlad.
Mae Cymru'n cystadlu ar lwyfan y byd gyda tai cynhyrchu a ffilm rhyngwladol oherwydd ei dewis helaeth o leoliadau ffilmio, 822,705 troedfedd sgwâr o leoliadau ffilmio wedi'u rhannu ar draws saith stiwdio, a gweithlu medrus.
Mae memorandwm dealltwriaeth gyda BBC Cymru ac S4C yn gweld mwy o waith partneriaeth yng Nghymru i adrodd straeon unigryw Gymreig a chefnogi cwmnïau cynhyrchu annibynnol. Mae'r partneriaethau wedi arwain at lawer o ddatblygiadau cadarnhaol o ran datblygu cynnwys a gweithredu ar yr agenda sgiliau sydd yn anelu at adeiladu ar gyfraniad y sector creadigol i dwf economaidd.
Bydd Wolf (Hartswood / BBC) yn cyrraedd ein sgriniau y flwyddyn nesaf, stori gyffrous oriau brig o Gymru a Steeltown Murders (Severn Screen) sef yr hanes i ddal llofrudd tair menyw ifanc yn ardal Port Talbot.
Yn dilyn cyhoeddi Cronfa Ffilm Cymru yn gynharach eleni, cydweithrediad rhwng Cymru Greadigol a Ffilm Cymru - cafodd pum cynhyrchiad ffilm annibynnol eu cymeradwyo'n ddiweddar - gyda gwaith ar y prosiect cyntaf 'Timestalker' ar y gweill.
Mae hwb ariannol o £180,00 hefyd ar gael i gefnogi datblygiad ffilmiau yn y Gymraeg ac i ddarparu cefnogaeth ariannol i ddatblygu doniau a syniadau. Mae'r ymrwymiad yn rhan o'r Cytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.
Gan edrych i'r economi greadigol ehangach, mae Cymru Greadigol hefyd yn cynnig cymorth trwy ddulliau datblygu, sgiliau a chronfeydd cerddoriaeth. Mae ffigurau o 2019 yn dangos trosiant blynyddol o fwy na £2.2 biliwn, gan gyflogi mwy na 56,000 o ddinasyddion Cymru, mae tyfu a chefnogi'r economi greadigol yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru.
Yn 2022, fe ail-lansiodd Cymru Greadigol gyllid cynhyrchu, ac am y tro cyntaf roedd yn cynnwys cefnogaeth i'r diwydiant gemau. Bydd hyn yn caniatáu inni gystadlu'n rhyngwladol am gyfran fwy o'r sector twf uchel hwn, gan gynnig cefnogaeth ariannol i gwmnïau sy'n dewis cynhyrchu gemau yng Nghymru neu i fusnesau brodorol ddatblygu Eiddo Deallusol newydd. Lansiwyd y ffrŵd ariannu newydd hwn yn y Gynhadledd Datblygu Gemau ym mis Mawrth fel rhan o'n taith flynyddol i ddigwyddiad San Francisco sydd wrth galon y diwydiant.
Uchafbwynt y sector cerddoriaeth oedd Gŵyl BBC Radio 6 Music - gyda Cymru Greadigol yn rheoli'r ŵyl ymylol wnaeth arddangos 150 o artistiaid mewn 29 o ddigwyddiadau mewn 12 lleoliad ledled dinas Caerdydd.
Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden: "Rydym wedi gweld twf digynsail yn y sectorau creadigol dros y blynyddoedd diwethaf ac mae wedi bod yn hyfryd gweld lleoliadau unigryw Cymru ar y sgrin – a hefyd dangos rhagoriaeth ein talent, criwiau a'n cyfleusterau. Bydd ein ffocws ar sgiliau yn parhau yn y flwyddyn newydd - er mwyn sicrhau y gallwn ddarparu'r sgiliau a’r doniau ar gyfer y sector hwn sy’n datblygu’n barhaus."