English icon English
PO 200521 Miles 25-3

Diwrnod Canlyniadau TGAU 2023: y Gweinidog Addysg yn llongyfarch myfyrwyr

GCSE Results Day 2023: Education Minister congratulates students

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, wedi llongyfarch pobl ifanc ledled Cymru wrth iddynt dderbyn eu canlyniadau TGAU, Bagloriaeth Cymru a chymwysterau galwedigaethol.

Cafodd arholiadau TGAU ffurfiol eu cynnal eleni gyda rhywfaint o gefnogaeth dal mewn lle i gydnabod effaith y pandemig ar ddysgwyr. Roedd y gefnogaeth yn cynnwys gwybodaeth ymlaen llaw am gynnwys arholiadau a dull cefnogol o raddio.

Yn ystod ymweliad ag Ysgol Morgan Llwyd yn Wrecsam lle cyfarfu â myfyrwyr a oedd yn derbyn eu canlyniadau, dywedodd Jeremy Miles:

"Llongyfarchiadau i bawb sy’n cael eu canlyniadau heddiw. Dylech i gyd fod yn falch o gyrraedd y garreg filltir bwysig hon yn eich addysg.

"Rwy'n croesawu'r canlyniadau hyn wrth i'n taith yn ôl at drefniadau cyn y pandemig barhau.

"Mae'n ysbrydoledig gweld beth mae ein dysgwyr wedi'i gyflawni. Bu'n rhaid i'r dysgwyr yma wynebu heriau anferth a wnaeth effeithio ar eu cyfleoedd dysgu dros y blynyddoedd diwethaf wrth iddynt symud drwy eu haddysg uwchradd ac ymlaen i'w TGAU.

"Peidiwch â bod yn rhy siomedig nac yn rhy feirniadol ohonoch chi’ch hun os nad aeth pethau fel yr oeddech yn ei ddisgwyl heddiw. Mae Cymru'n Gweithio yn fan gwych i weld y dewisiadau sydd ar gael i chi i gynllunio'ch camau nesaf, neu gallwch gael cyngor a chefnogaeth gan eich ysgol.

"Hoffwn ddiolch yn fawr i'n gweithlu addysg am eu gwaith caled a'u hymroddiad i helpu myfyrwyr i gyflawni eu potensial."

Efallai y bydd gan bobl ifanc hawl i gymorth ariannol wrth iddynt barhau â'u haddysg, p'un a yw hynny’n golygu dechrau Safon Uwch, hyfforddiant galwedigaethol neu'n cofrestru ar brentisiaeth. Dysgwch fwy.