English icon English
PO 200521 Miles 25-3

Diwrnod canlyniadau: y Gweinidog Addysg yn llongyfarch myfyrwyr ar ôl cyfnod heriol

Results day: Education Minister congratulates students after a challenging time

Mae Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, wedi llongyfarch dysgwyr ledled Cymru wrth iddynt gael canlyniadau Safon Uwch, Uwch Gyfrannol, Diploma Uwch Bagloriaeth Cymru a chymwysterau galwedigaethol fore heddiw.

Cynhaliwyd arholiadau ac asesiadau Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol eleni gyda chymorth ychwanegol gan gynnwys peth gwybodaeth am gynnwys yr arholiadau ymlaen llaw a dull graddio cefnogol.

Yn fras, mae canlyniadau eleni hanner ffordd rhwng y canlyniadau a ddyfarnwyd yn 2019 (y flwyddyn olaf cyn y pandemig) a 2022 (y flwyddyn gyntaf i fyfyrwyr sefyll arholiadau ar ôl y pandemig).

Roedd llawer o ddysgwyr galwedigaethol yn cael eu canlyniadau Lefel 3 heddiw hefyd.

Bydd canlyniadau TGAU eleni yn cael eu cyhoeddi ddydd Iau nesaf, 24 Awst.

Roedd y Gweinidog ar ymweliad â Choleg Gwent yng Nghlynebwy fore heddiw, lle bu’n cyfarfod â myfyrwyr a oedd yn casglu eu canlyniadau. Dywedodd:

“Llongyfarchiadau i bawb sy’n cael eu canlyniadau heddiw. Mae’n ddiwrnod mawr i chi, ac yn benllanw blynyddoedd o waith caled, ac rwy’n gobeithio bydd heddiw yn wobr am eich holl ymdrechion.

“Rydym yn gwybod bod y cyfnod yma wedi bod yn heriol. Ein nod wrth ddarparu cefnogaeth ychwanegol eleni oedd gwneud yn siŵr fod yr arholiadau’n deg, er gwaetha’r heriau rydych wedi’u hwynebu.

“I unrhyw un nad ydych wedi cael y canlyniadau yr oeddech eisiau, neu sy’n ansicr o’ch camau nesaf, peidiwch â bod yn rhy siomedig, a pheidiwch â rhoi amser caled i chi’ch hun. Mae digon o opsiynau o’ch blaen, gan gynnwys mynd i brifysgol trwy’r system glirio, prentisiaeth neu efallai ddechrau eich busnes eich hun. Mae  Gyrfa Cymru yn fan cychwyn gwych er mwyn cael cyngor, a bydd eich ysgol neu goleg yno i’ch cefnogi hefyd. 

“Mae ein Gwarant i Bobl Ifanc yn rhoi cyfle i bawb sy’n iau na 25 oed gofrestru mewn addysg neu hyfforddiant, i ganfod gwaith neu i ddod yn hunan gyflogedig, felly mae gennych chi lawer o ddewisiadau wrth fynd ati i ddilyn eich llwybr gyrfa.

“Rwy’n gobeithio bod staff a myfyrwyr yn falch o’u gwaith caled, yn mwynhau gweddill yr haf a’r cyfleoedd cyffrous sydd o’ch blaen.”