Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2024: Disgyblion yn dod at ei gilydd i wneud gwahaniaeth ar-lein
Safer Internet Day 2024: Pupils get together to make a difference online
Seiberfwlio, camwybodaeth a rheoleiddio annigonol o apiau - dyna yw rhai o'r materion sy'n peri'r mwyaf o boen meddwl i bobl ifanc o ran diogelwch ar-lein, yn ôl grŵp o bobl ifanc o Gymru.
I nodi Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, bydd Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad ag Undeb Rygbi Cymru, yn croesawu grwpiau ysgol o bob rhan o Gymru i ddigwyddiad yn Stadiwm Principality Caerdydd. Bydd gweithgareddau a sesiynau yn rhoi llwyfan i bobl ifanc rannu eu barn a mynegi pryderon am y byd ar-lein sy'n newid yn barhaus.
Fel rhan o'r digwyddiad, a gyda phencampwriaeth y Chwe Gwlad yn ei anterth, bydd disgyblion yn cwrdd â staff Undeb Rygbi Cymru i drafod y gwaith sy'n cael ei wneud ganddynt i gadw chwaraewyr a'u teuluoedd yn ddiogel ar-lein ac i rannu eu profiadau eu hunain.
Byddant yn cael cyfle i glywed gan E-Chwaraeon Cymru ac YGAM, elusen i atal niwed yn sgil hapchwarae a gamblo ar-lein, am bwysigrwydd ymddygiad cyfrifol a pharchus ar-lein, yn dilyn lansiad diweddar cynghrair E-Chwaraeon Cymru.
Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:
"Mae Llywodraeth Cymru yn falch o gefnogi Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel. Mae diogelwch ar-lein yn fater sy'n esblygu, ac mae'n hanfodol ein bod yn parhau i gefnogi'r sgwrs bwysig hon.
"Un o'r ffyrdd gorau o ddiogelu ein pobl ifanc yw drwy godi ymwybyddiaeth, addysgu a gwrando ar bobl ifanc. Mae'r digwyddiad heddiw yn galluogi pobl ifanc i siarad am yr hyn sydd bwysicaf iddyn nhw".
Yn ogystal â'r digwyddiad heddiw, cynhelir gweithgareddau drwy gydol yr wythnos i hyrwyddo'r defnydd cyfrifol a chadarnhaol o dechnoleg ddigidol yn yr ysgol a'r tu allan.
Mae'r adnoddau Diogelwch Ar-lein sydd ar gael ar Hwb yn cynnwys:
- Gwasanaeth ysgol y gellir ei lawrlwytho, a gynlluniwyd i gychwyn sgyrsiau am ddiogelwch ar-lein
- Canllawiau ynghylch Apiau i rieni a gofalwyr - risgiau, rhybuddion oedran a sut i alluogi mesurau rheolaeth rhieni – ar gyfer rhai o'r apiau mwyaf poblogaidd o Roblox i TikTok
- Pecynnau addysg dwyieithog ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd
- Gweminarau mewn partneriaeth ag Estyn, Childnet, SWGfL ac Adobe ar gyfer athrawon ac ymarferwyr.