English icon English

Diwygio’r dreth gyngor “i gyflawni system decach”

Council tax reform “to deliver fairer system”

Dywedodd Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru y bydd pecyn o ddiwygiadau i’r dreth gyngor yn mynd i’r afael ag annhegwch yn y system bresennol.

Rhoddodd Rebecca Evans y wybodaeth ddiweddaraf i’r Senedd am y cynlluniau heddiw.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig diwygiadau gan gynnwys bandiau mwy blaengar sy’n adlewyrchu’r data diweddaraf, ailbrisiadau rheolaidd, ac adolygiad o drefniadau ar gyfer gostyngiadau i sicrhau y caiff pobl eu cefnogi yn y ffordd fwyaf effeithiol bosibl.

Mae disgwyl i'r newidiadau gael eu cyflwyno o fis Ebrill 2025 ymlaen, a bydd mwy o fanylion ynghylch sut fydd y system newydd yn edrych yn cael eu cadarnhau tuag at ddiwedd y flwyddyn hon. Bydd y dreth gyngor yn parhau i ariannu gwasanaethau hanfodol fel ysgolion a gofal cymdeithasol, ond nid yw'r diwygiadau wedi'u cynllunio i godi mwy o refeniw yn gyffredinol na'r hyn sy'n cael ei godi ar hyn o bryd.

Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd Rebecca Evans:

“Mae'r dreth gyngor yn dal i fod yn anflaengar o ran y ffordd y mae wedi'i chynllunio. Mae'n rhoi baich trymach ar aelwydydd sydd â llai o gyfoeth. Mae’r system fel ag y mae ar hyn o bryd yn ugain oed.

“Daw mwy o annhegwch gyda phob blwyddyn y byddwn yn parhau o dan y trefniadau presennol, a rhai o'r bobl tlotaf mewn cymdeithas sy'n cario’r baich. Mae'r dystiolaeth a'r arbenigwyr yn cytuno mai dyma un o'r camau mwyaf buddiol y gallwn eu cymryd er mwyn lleihau anghydraddoldebau o ran cyfoeth, a gaiff effaith ar bocedi'r rhai sydd ei angen fwyaf erbyn diwedd tymor y llywodraeth hon.”

Mae diwygio’r dreth gyngor yn ymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Dywedodd Cefin Campbell, Aelod Dynodedig Plaid Cymru:

“Ar y cyd, mae Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddiwygio’r system drethiant hen ffasiwn hon i’w gwneud yn decach. Mae’r system dreth gyngor bresennol bron yn ugain oed, ac mae’n cyfrannu at anghydraddoldebau o ran cyfoeth ac yn effeithio’n anghymesur ar ardaloedd tlotach Cymru.”