Dweud eich dweud ar wella trafnidiaeth yn eich ardal
Have your say on improving transport in your area
Bydd pobl yn cael cyfle i ddweud eu dweud ynghylch gwariant ar drafnidiaeth rhanbarthol fel rhan o gynlluniau newydd sy'n cael eu hamlinellu.
Bydd Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol yn canolbwyntio ar gyflwyno dull mwy strategol o wella trafnidiaeth ym mhob rhanbarth o Gymru er mwyn ei gwneud yn fwy hygyrch, cynaliadwy ac effeithlon i gymunedau.
Bydd y dull newydd hwn yn grymuso arweinwyr lleol i gymryd mwy o reolaeth dros fuddsoddiadau mewn trafnidiaeth yn yr ardal. I ategu'r gwaith yma, bydd nifer o grantiau trafnidiaeth gan Lywodraeth Cymru yn cael eu datganoli o flwyddyn ariannol 2026/27 ymlaen fel y gall rhanbarthau unigol bennu eu blaenoriaethau eu hunain.
Mae timau yn y Gogledd, y Canolbarth, De-ddwyrain a De-orllewin Cymru wedi bod yn datblygu eu cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol ac maent bellach yn ymgynghori â phobl leol i gael eu barn ar bolisïau a phrosiectau arfaethedig neu'n bwriadu gwneud hynny'n fuan.
Bydd cynlluniau terfynol o ran yr hyn a fydd yn cael ei gyflawni ym mhob rhanbarth dros y pum mlynedd nesaf yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach yr haf hwn.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:
"Grymuso cynghorau lleol ar y lefel fwyaf priodol i gyflawni'r cynlluniau trafnidiaeth ar gyfer eu rhanbarth yw'r peth iawn i'w wneud.
"Gyda'u gwybodaeth a'u dealltwriaeth leol, nhw sydd yn y sefyllfa orau i ddeall anghenion lleol a sicrhau bod y buddsoddiadau a wneir yn rhoi pobl a chymunedau yn gyntaf."