Dweud eich dweud ar cynllun adnewyddu Pont Afon Dyfrdwy'r A494

Have your say on A494 River Dee Bridge Replacement Scheme

Mae ymgynghoriad yn agor heddiw ar restr fer o opsiynau ar gyfer amnewid Pont Afon Dyfrdwy ar yr A494 yn Sir y Fflint

Mae'r bont yn darparu cysylltiad hanfodol ar gyfer traffig sy'n croesi'r ffin rhwng gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr, ac mae'n bwynt mynediad allweddol i Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, un o ystadau diwydiannol mwyaf Ewrop.

Mae angen pont newydd gan fod y gofyn am waith atgyweirio ar y bont bresennol yn cynyddu. Mae'r gwaith archwilio a monitro a wnaed hyd yn hyn wedi dod i'r casgliad bod amlder atgyweiriadau a'r risg o atgyweirio ac ymyrraeth sylweddol a fyddai'n golygu cau'r bont yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn.

Mae'r opsiwn a ffefrir a nodwyd yn 2019 wedi'i adolygu i sicrhau ei fod yn cyd-fynd yn well â pholisïau cyfredol, gan wella gwerth am arian a gwytnwch ar hyd y coridor strategol bwysig hwn a lleihau aflonyddwch yn ystod y gwaith adeiladu.

Mae'r bont yn cario tua 68,400 o gerbydau'r dydd, ac mae pum opsiwn ar gyfer amnewid y cyswllt pwysig hwn wedi'u cyflwyno yn destun ymgynghoriad*. Caiff y cyhoedd a rhanddeiliaid eu gwahodd i roi eu barn ar yr opsiynau ar y rhestr fer.

Mae'r pum opsiwn i gyd yn cynnwys cynnig i ddarparu pont newydd ynghyd â llwybr newydd a rennir ar gyfer cerddwyr a beicwyr. Byddai'r opsiynau'n sicrhau y gallai traffig barhau i ddefnyddio'r bont bresennol tra bod gwaith yn mynd rhagddo.  Yn dilyn yr ymgynghoriad, bydd yr opsiwn a ffefrir yn cael ei ddatblygu.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a'r Gogledd, Ken Skates: "Mae trwsio ein ffyrdd yn flaenoriaeth i'r llywodraeth hon, ac mae amnewid croesfan Pont Dyfrdwy yn gynllun allweddol yr ydym yn ei ddatblygu.

"Mae'n borth hanfodol i ogledd Cymru, ac mae'n allweddol ar gyfer traffig sy'n croesi'r ffin.  Mae'r strwythur presennol yn heneiddio a byddai cau'r bont yn ysbeidiol ar gyfer atgyweiriadau a monitro yn amharu ar draffig. Bydd hefyd yn cael effaith niweidiol yn y tymor hir gan y bydd angen gwneud mwy o waith.

"Felly, mae angen pont newydd yn lle'r hen un.  Mae gan bawb gyfle nawr i ddweud eu dweud ar yr opsiynau posibl.  Byddwn yn gwrando'n astud ar farn pobl ac rydym yn disgwyl amlinellu'r ffordd ymlaen ym mis Mai y flwyddyn nesaf."

Mae'r ymgynghoriad yn dechrau heddiw (9 Rhagfyr) tan 4 Mawrth, a bydd arddangosfa gyhoeddus yn cael ei chynnal rhwng 10am a 7pm ddydd Mawrth 21 Ionawr yn Eglwys Sant Andreas, Garden City.

Gellir gweld yr opsiynau a chyflwyno adborth gan ddefnyddio'r holiadur ar-lein drwy ymweld â'r dudalen ymgynghori yn y ddolen hon: https://www.llyw.cymru/cynllun-adnewyddu-pont-afon-dyfrdwyr-a494

Mae modd cysylltu â thîm y prosiect hefyd drwy A494RiverDeeBridgeConsultation@llyw.cymru neu drwy amlen wedi'i chyfeirio at 'Freepost A494'.

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £1bn i drwsio ffyrdd ar 1100 milltir o rwydwaith ers 2021, gan gynnwys £250m y flwyddyn ariannol hon. 

 

Nodiadau i olygyddion

*Mae'r ymgynghoriad yn rhan o Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG) Cam 2.  Bydd y dolen ar y we yn fyw am 00.01 9 Rhagfyr

Mae'r camau nesaf yn cynnwys

Mai 2025 – dewis yr opsiwn a ffefrir / achos busnes amlinellol

Medi 2025 – Cyhoeddi Gorchmynion Drafft

Gwanwyn / Haf 2026 – ymchwiliad cyhoeddus

Haf 2026 – Penderfyniad y Gweinidog i fwrw ymlaen

Gaeaf 26-27 / Gwanwyn 2027 – Gwaith yn dechrau

Haf / Hydref 2029 – Gwaith wedi'i gwblhau