Dwy filiwn o bigiadau atgyfnerthu COVID wedi’u rhoi wrth i strategaeth frechu’r gaeaf gael ei chyhoeddi
COVID boosters hit two million as new winter vaccination strategy published.
Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi bod dwy filiwn o frechiadau atgyfnerthu COVID-19 wedi’u darparu yng Nghymru ac y bydd pawb sy’n gymwys yn cael cynnig pigiad atgyfnerthu’r hydref erbyn diwedd mis Tachwedd.
Ar ôl ymgyrch lwyddiannus i gynnig pigiadau atgyfnerthu COVID-19 yn y gwanwyn, gydag 85% o oedolion 75 oed a hŷn a bron i 84% o breswylwyr cartrefi gofal wedi manteisio ar y cynnig hyd yma, bydd pawb cymwys yn cael cynnig brechiad COVID erbyn diwedd mis Tachwedd a brechiad rhag y ffliw erbyn diwedd mis Rhagfyr.
Mae strategaeth frechu genedlaethol y gaeaf yn erbyn feirysau anadlol yn amlinellu sut y bydd brechiadau rhag COVID-19 a’r ffliw yn cael eu cynnig dros fisoedd y gaeaf. Y nod yw y bydd o leiaf 75% yn manteisio ar y ddau frechlyn.
I gyflawni’r nod hwn, bydd rhai pobl, gan gynnwys y rhai â chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint sy’n fwy agored i niwed os byddant yn dal y ffliw neu’r coronafeirws, yn cael cynnig y ddau frechlyn yn yr un apwyntiad.
Yn dechrau yn gynnar ym mis Medi, bydd pigiad atgyfnerthu’r hydref ar gyfer COVID-19 ar gael i breswylwyr a staff sy’n gweithio mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen, pawb sy’n 50 oed a hŷn a'r rhai rhwng 5 a 49 oed mewn grwpiau risg clinigol, gan gynnwys menywod beichiog a chysylltiadau cartref pobl ag imiwnedd gwan neu ofalwyr rhwng 16 a 49 oed.
Unwaith eto, bydd y brechiad rhag y ffliw ar gael i bawb sy’n wynebu risg uwch, gan gynnwys oedolion 50 oed a hŷn yng Nghymru, plant rhwng 2 a 15 oed, staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen, gan gynnwys y rhai sy’n gweithio mewn cartrefi gofal, a phobl rhwng 6 mis a 49 mlwydd oed mewn grwpiau risg clinigol.
Bydd y brechiadau rhag COVID-19 a’r ffliw ar gael i bawb sy’n 50 oed a hŷn yn unol â chyngor diweddaraf y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu.
Bydd y rhai sy’n gymwys am bigiad atgyfnerthu’r hydref ar gyfer COVID-19 yn cael eu gwahodd yn eu tro. Bydd y rhai sy’n gymwys am frechiad rhag y ffliw eisoes yn gyfarwydd, o bosib, â’r trefniadau ar gyfer cael eu brechiad. Mae gwybodaeth am bwy sy’n gymwys a sut i gael brechiad rhag y ffliw ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:
“Rydyn ni unwaith eto'n gweld cynnydd mewn achosion o COVID-19 a phwysau cynyddol ar ein Gwasanaeth Iechyd. Rydyn ni’n disgwyl y bydd COVID-19 a’r ffliw ar led yn eang y gaeaf hwn a rhaid inni fod yn barod ar gyfer gweithgarwch ffliw llawer uwch neu weithgarwch ffliw annhymhorol.
“Mae brechlynnau’n hanfodol inni gyd, er mwyn diogelu ein hunain ac eraill wrth inni ddysgu byw gyda COVID-19. Mae'r strategaeth hon yn nodi ein cynlluniau ar gyfer hydref a gaeaf 2022-2023 a sut y byddwn ni’n cynnig brechlynnau rhag y ffliw a COVID-19 i'r rhai sy'n gymwys, gan fod yn barod i gynyddu ein capasiti'n gyflym, pe bai angen, mewn ymateb i unrhyw don pandemig coronafeirws sylweddol yn y dyfodol neu mewn ymateb i amrywiolyn newydd.
“Rwy’n awyddus i sicrhau bod cynifer â phosib o’r rhai sy’n gymwys yn manteisio ar y brechlynnau rhag y ffliw a COVID-19, a byddwn ni’n parhau i weithio i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Mae cael eich brechu pan gewch eich gwahodd yn benderfyniad y gallwn ni gyd ei wneud i ddiogelu ein hunain, ein teuluoedd, a’n cymunedau. Rwy’n annog pawb i dderbyn eu gwahoddiad yn yr hydref i ddiogelu eu hunain a diogelu Cymru.”
Mae strategaeth frechu’r gaeaf yn erbyn feirysau anadlol wedi’i seilio ar y dystiolaeth a’r cyngor clinigol a gwyddonol diweddaraf gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu.
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
Notes
- It is usual for different vaccines to be given in different places, due to a variety of reasons, such as patient age, vaccine type and available workforce.
- The majority of flu vaccinations will be given by primary care, this includes GP surgeries and pharmacies.
- Health boards will give the majority of COVID-19 vaccinations at vaccination centres.
Our NHS has plans in place to offer a COVID-19 autumn booster to the following adults in line with JCVI advice:
- Residents in a care home for older adults and staff working in care homes for older adults
- Frontline health and social care workers
- All adults aged 50 years and over
- Persons aged 5 to 49 years in a clinical risk group, including pregnant women
- Persons aged 5 to 49 years who are household contacts of people with immunosuppression as defined in the Green Book.
- Persons aged 16-49 who are carers.
The JCVI also issues advice for the flu vaccine and our NHS has plans in place to offer the flu vaccine to the following adults in line with the advised eligibility criteria:
- People aged 50 years and older
- Staff in nursing homes and care homes with regular client contact
- Staff providing domiciliary care
- Staff providing frontline NHS/Primary care services, healthcare workers with direct patient contact
- Healthcare workers (including healthcare students) with direct patient contact
- People aged six months to 49 years in a clinical risk group
- Individuals experiencing homelessness
- All adults resident in Welsh prisons
- Pregnant women
- Carers
- People with a learning disability
- People with a severe mental illness
- Children aged two and three years.
- Children in primary school from reception class to Year 6 (inclusive).
- Children and young people in secondary school Year 7 to Year 11 (inclusive)