English icon English

Dyfodol y dreth gyngor yng Nghymru

The future of council tax in Wales

Bydd Llywodraeth Cymru heddiw [dydd Mawrth 14 Tachwedd] yn cyhoeddi ymgynghoriad ar ddulliau posibl o ailgynllunio system y dreth gyngor.

Mae'r Rhaglen Lywodraethu a'r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru yn ymrwymo i ddiwygio'r system dreth gyngor bresennol.

Bydd yr ymgynghoriad yn gofyn barn pobl am sut i wneud y dreth gyngor yn decach, gan gynnwys ychwanegu bandiau treth gyngor newydd, o bosibl, a newid y cyfraddau treth. Bydd yr ymgynghoriad hefyd yn gofyn pa mor gyflym yr hoffai pobl weld newid yn digwydd.

Bydd yr ymgynghoriad yn mynd yn fyw am 10am heddiw.