Dyfroedd ymdrochi Cymru yn cydymffurfio 100% am y bedwaredd flwyddyn yn olynol
Wales’ bathing waters deliver 100% compliance record for fourth year running
Mae traethau ar draws Cymru wedi cydymffurfio 100% â safonau dŵr ymdrochi o ansawdd uchel am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.
O'r 105 o ddyfroedd ymdrochi a samplwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), cyrhaeddodd 85 y categori uchaf, sef ansawdd dŵr rhagorol. Roedd 14 yn dda a chwech yn ddigonol, gan sicrhau bod arfordiroedd Cymru yn parhau i fodloni rhai o'r safonau mwyaf llym yn Ewrop ar gyfer ansawdd dŵr.
Ansawdd dŵr rhagorol yw un o'r prif ofynion ar gyfer gwneud cais am wobr y Faner Las ar gyfer 2021.
Fel rhan o'i Rhaglen Lywodraethu, bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio efelychu'r llwyddiant hwn pan fydd yn dechrau dynodi mwy o ddyfroedd mewndirol, er enghraifft, llynnoedd ac afonydd, yn ddyfroedd ymdrochi yng Nghymru.
Dywedodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd:
“Dw i wrth fy modd bod Cymru, sy'n adnabyddus yn rhyngwladol am ei harfordir trawiadol, yn parhau i fod â rhai o'r dyfroedd ymdrochi gorau yn Ewrop am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.
“Dw i’n hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi’n helpu i lwyddo, yn enwedig Cyfoeth Naturiol Cymru, sydd, er gwaethaf yr anawsterau a achoswyd gan y pandemig, wedi parhau i fwrw ’mlaen â’u rhaglen brofi er mwyn helpu i gynnal y safonau uchaf yn ein dyfroedd."
Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi:
“Ry’n ni’n gwybod bod llawer o bobl wedi penderfynu aros yng Nghymru ar gyfer eu gwyliau eleni – a’u bod wedi darganfod yr hyn sydd gan ein harfordir anhygoel i'w gynnig. Mae'r canlyniadau hyn yn arwydd ardderchog o hyder yn ansawdd ein dŵr ymdrochi, ac yn yr ymdrech a wnaed gan gymunedau, rheoleiddwyr a phartneriaid eraill i weithio fel tîm er mwyn diogelu’n hasedau naturiol."
Un o'r llwyddiannau mwyaf yng nghanlyniadau eleni yw Bae Cemaes yn Ynys Môn. Yn 2017, roedd ansawdd dŵr Cemaes yn 'wael'. Fodd bynnag, ar ôl cryn ymdrech ar y cyd rhwng y Cyngor, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r gymuned leol i wella ansawdd dŵr ymdrochi, mae Bae Cemaes wedi bod yn gwella o’r naill flwyddyn i’r llall. Eleni, mae ansawdd y dŵr yno wedi cyrraedd y safon uchaf, ac mae’n 'rhagorol'.
Mae Derek Owen, Cadeirydd Cyngor Cymuned Llanbadrig, wedi chwarae rhan helaeth yn y gwaith o wella ansawdd dŵr ymdrochi yng Nghemaes. Dywedodd:
“Mae'r gwelliant hwn yn ansawdd y dŵr ymdrochi yn newyddion ardderchog i'r economi leol, ac mae gan amgylchedd o ansawdd da fanteision amlwg hefyd i iechyd y cyhoedd.
“Mae cymunedau arfordirol fel ein cymunedau ni yn dibynnu'n drwm ar dwristiaeth, ac mae pobl yn dod yma i fwynhau traethau glân a dŵr ymdrochi da. Felly, bydd busnesau lleol a phobl sy'n byw yng Nghemaes a'r cyffiniau yn rhoi croeso mawr i'r sgôr ragorol hon.”