English icon English

Ehangu cymorth trochi yn y Gymraeg i ddysgwyr ledled Cymru

Welsh language immersion support for learners to be expanded Wales-wide

Mae darpariaeth trochi hwyr yn y Gymraeg yn mynd i gael ei hehangu ledled Cymru, o Gonwy i Gaerffili, diolch i gyllid Llywodraeth Cymru. 

Bydd wyth ardal awdurdod lleol yn creu eu canolfannau trochi hwyr cyntaf yn y Gymraeg, a bydd holl awdurdodau lleol Cymru yn cael cyllid ychwanegol i ganolbwyntio ar sefydlu darpariaeth trochi hwyr newydd lle nad oedd yn bodoli o gwbl o’r blaen, neu i ehangu eu darpariaeth i ymateb i’r galw cynyddol.

Daw hyn yn dilyn buddsoddiad o £2.2m gan Lywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ym mis Medi.

Mae darpariaeth trochi hwyr yn helpu dysgwyr sy’n ymuno ag addysg Gymraeg yn ddiweddarach, – dweder ar ôl saith oed –, a disgyblion nad oedd y Gymraeg yn rhan o’u bywyd bob dydd efallai, i feithrin y sgiliau a’r hyder sydd eu hangen er mwyn parhau i ddysgu drwy’r Gymraeg.

Bydd y buddsoddiad hwn hefyd yn cefnogi dysgwyr a allai fod wedi colli amser dysgu hanfodol neu rai o’u sgiliau iaith yn ystod y pandemig. 

Mae’r weledigaeth i ehangu’r rhaglen drochi i ddisgyblion yn un o ymrwymiadau’r maniffesto ac yn rhan o Raglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru. Bydd yn cyfrannu at y nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac o gynyddu’r defnydd a wneir o’n hiaith bob dydd. Mae’r system addysg yn chwarae rôl allweddol yn y broses o greu siaradwyr newydd.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio ag awdurdodau lleol i sefydlu rhwydwaith trochi hwyr ar gyfer Cymru gyfan, i rannu gwybodaeth ac arferion gorau.

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:

“Mae’r Gymraeg yn perthyn inni i gyd, a dw i wedi ymrwymo i ddarparu’r gefnogaeth sydd ei hangen i gyflawni amcanion strategaeth ‘Cymraeg 2050’ ac i helpu mwy ohonom i ddysgu a defnyddio ein hiaith.

“Mae’r ceisiadau a ddaeth i law gan awdurdodau lleol ledled Cymru am gymorth trochi hwyr yn dangos gwir frwdfrydedd dros ehangu’r rhaglen hon. Dw i wrth fy modd â’r ymrwymiad gwirioneddol ym mhob cwr o’r wlad i gefnogi ein dysgwyr i ymuno ag addysg Gymraeg, hyd yn oed os yw hynny’n digwydd yn ddiweddarach, a’u helpu i ddatblygu sgiliau byw dwyieithog.”

Yr wyth ardal awdurdod lleol lle caiff darpariaeth trochi hwyr newydd ei chreu yw Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Torfaen, Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot, Powys, a Bro Morgannwg. 

Bydd pob rhan o Gymru yn cael cyllid, a fydd yn ehangu rhaglenni trochi hwyr sydd eisoes yn bodoli, ac yn gymorth ychwanegol i drochi hwyr mewn ysgolion Cymraeg yn dilyn y pandemig.

DIWEDD