Ehangu gwasanaethau fferylliaeth gymunedol yn helpu i wella mynediad at ofal sylfaenol
Increased availability of community pharmacy services helping improve access to primary care
Mae'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan wedi cyhoeddi bod ehangu gwasanaethau fferylliaeth gymunedol wedi arwain at gannoedd o filoedd o bobl yn osgoi'r angen am ymgyngoriadau gan feddyg teulu.
Mae'r diwygiadau sylweddol a gyflwynwyd ym mis Ebrill 2022 yn golygu bod ystod ehangach nag erioed o wasanaethau clinigol yn cael eu cynnig gan fferyllwyr cymunedol yng Nghymru.
Heddiw, mae adroddiad newydd 'Presgripsiwn Newydd – Flwyddyn yn Ddiweddarach' wedi dangos effaith gadarnhaol y gwasanaethau hynny ar bobl sydd angen gofal sylfaenol.
O ganlyniad i'r Gwasanaeth Fferylliaeth Gymunedol Glinigol newydd, mae bron pob fferyllfa ledled Cymru bellach yn rhoi cyngor a thriniaeth ar gyfer anhwylderau cyffredin am ddim, yn rhoi'r bilsen bore wedyn a dulliau atal cenhedlu drwy'r geg, yn rhoi cyflenwadau meddyginiaethau brys ac yn rhoi brechiadau rhag y ffliw.
Mae'r adroddiad yn dangos bod dros hanner miliwn o ymgyngoriadau wedi'u cynnal ar draws holl wasanaethau'r Gwasanaeth Fferylliaeth Gymunedol Glinigol yn y flwyddyn gyntaf ar ôl ei lansio. Roedd hyn yn cynnwys mwy na 160,000 o frechiadau ffliw tymhorol y GIG a bron i 240,000 o ymgyngoriadau ar gyfer ystod o anhwylderau cyffredin megis dolur gwddf, adweithiau alergaidd a phoen cefn - cynnydd o 73.9% o'r flwyddyn flaenorol a mwy na phum gwaith yn fwy na phum mlynedd yn ôl.
Dywedodd bron i 80% o bobl a aeth i fferyllfa ac a ddefnyddiodd y Gwasanaeth Fferylliaeth Gymunedol Glinigol y byddent wedi mynd at feddyg teulu neu ddefnyddio'r gwasanaeth y tu allan i oriau pe na bai'r gwasanaeth ar gael. Mae hyn felly wedi rhyddhau dros 400,000 o apwyntiadau i alluogi eraill i fynd at eu meddyg teulu.
I lawer, mae hyn yn golygu cael gofal yn agosach at ble maen nhw'n byw a gweithio, fel arfer heb fod angen gwneud apwyntiad. Mae mwy na 2,800 o fferyllwyr a thechnegwyr fferyllfa wedi cwblhau'r hyfforddiant ychwanegol sy'n eu galluogi i ddarparu'r gwasanaethau hyn.
Cynhaliwyd 46,000 o ymgyngoriadau pellach mewn 119 o fferyllfeydd, gyda fferyllwyr-bresgripsiynwyr a oedd wedi cwblhau hyfforddiant ychwanegol yn eu galluogi i drin ystod ehangach o anhwylderau megis heintiau'r llwybr wrinol, y glust a'r croen na ellid bod wedi'u trin fel arall ond gan feddyg teulu.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:
"Yn ystod y flwyddyn gyntaf ers ein diwygiadau, mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud o ran defnyddio sgiliau, arbenigedd a hygyrchedd fferyllwyr yn ein cymunedau yn fwy effeithiol.
"Mae hyn yn rhoi ffocws cryfach ar ddarparu gwasanaethau clinigol, ar ddatblygu'r gweithlu, ac ar hyrwyddo integreiddio fferyllfeydd o fewn gofal sylfaenol, a hyn oll ochr yn ochr â'n buddsoddiad mwyaf erioed yn y sector.
"Rwy'n falch iawn o weld bod hyn yn helpu i sicrhau bod mwy o bobl yng Nghymru yn cael gafael ar y gofal sydd ei angen arnyn nhw drwy'r Gwasanaeth Iechyd gan weithwyr proffesiynol medrus priodol, yn agosach at eu cartrefi, pryd bynnag y maen nhw ei angen."
Dywedodd y Prif Swyddog Fferyllol, Andrew Evans:
"Mae fferyllwyr yn arbenigwyr ym maes meddyginiaethau ac maen nhw'n cael hyfforddiant eang i ddarparu gofal clinigol gan gynnwys rhoi cyngor a thriniaeth ar gyfer cyflyrau cyffredin, atal cenhedlu a brechiadau."
"Nid yn unig y mae ein diwygiadau ym maes fferylliaeth gymunedol yn gwella mynediad at ofal ond maen nhw hefyd yn sicrhau ein bod yn defnyddio sgiliau ac arbenigedd clinigol fferyllwyr a thechnegwyr fferyllfa i'r eithaf ym mhob cwr o Gymru. Mae'r cymorth rydyn ni'n ei ddarparu yn golygu bod mwy o fferyllwyr nag erioed yn cwblhau hyfforddiant ychwanegol fel y gallan nhw roi presgripsiynau am feddyginiaethau i bobl gan barhau i ostwng ymhellach nifer y bobl sydd angen mynd at eu meddyg teulu."
"I'r rhan fwyaf o bobl, eu fferyllfa gymunedol fydd y lle mwyaf hwylus i gael cyngor dibynadwy a thriniaeth pan fyddan nhw'n teimlo'n sâl. Mae galluogi fferyllwyr i ddarparu ystod ehangach o wasanaethau clinigol drwy'r Gwasanaeth Iechyd yn golygu bod mwy o bobl yng Nghymru yn gallu cael gafael ar y gofal sydd ei angen arnyn nhw, a hynny o'u fferyllfa, pan fyddan nhw ei angen."