English icon English
09.11.22 mh Darling Buds Nursery Ministers Visit 34-2

Ehangu’r Cynnig Gofal Plant wrth i wasanaeth digidol newydd gael ei lansio

Childcare Offer extended as a new digital service is launched

Mae gwasanaeth digidol cenedlaethol newydd wedi’i lansio, a fydd yn symleiddio'r Cynnig Gofal Plant i rieni a darparwyr gofal plant.

Mae'r Cynnig hefyd wedi'i ehangu i fwy o deuluoedd, a gall rhieni sydd mewn addysg a hyfforddiant nawr wneud cais am hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant wedi'u hariannu gan y llywodraeth ar gyfer eu plant tair a phedair oed.

Ar hyn o bryd mae'r Cynnig Gofal Plant yn cael ei ddarparu gan awdurdodau lleol sy'n defnyddio systemau gwahanol i brosesu ceisiadau rhieni ac i dalu darparwyr am yr oriau sy’n cael eu darparu o dan y Cynnig. Bydd y gwasanaeth digidol cenedlaethol yn disodli'r systemau hyn fel y bydd pob awdurdod lleol, rhiant a darparwr gofal plant yn defnyddio’r un gwasanaeth.

Mae'r platfform digidol cenedlaethol newydd ar gael yn ddwyieithog, ac mae modd mynd ato drwy ddyfeisiau symudol gan gynnwys cyfrifiaduron llechen a ffonau symudol, a bydd yn sicrhau bod rhieni a darparwyr gofal plant ledled Cymru yn cael yr un profiad, ble bynnag y maen nhw’n byw. 

Bydd rhieni sy'n gymwys i ddefnyddio’r Cynnig Gofal Plant o fis Ionawr 2023 yn gallu gwneud cais o hyn ymlaen drwy'r gwasanaeth newydd.

Ni fydd angen i rieni sydd eisoes yn defnyddio'r Cynnig wneud unrhyw beth, ac fe fyddan nhw yn aros o fewn system eu hawdurdod lleol. Ond os ydyn nhw am gael arian drwy’r Cynnig ar gyfer plentyn arall o fis Ionawr 2023, bydd angen iddyn nhw wneud cais drwy'r gwasanaeth digidol cenedlaethol.

Wrth lansio gwasanaeth digidol cenedlaethol y Cynnig Gofal Plant mewn meithrinfa yng Nghaerdydd, dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Mae ein Cynnig Gofal Plant arloesol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i rieni ledled Cymru, ac rydyn ni’n chwilio'n barhaus am ffyrdd o ehangu neu wella ein Cynnig. Mae’n bleser gen i gyhoeddi lansio gwasanaeth digidol newydd y Cynnig Gofal Plant. Bydd cael un system genedlaethol yn sicrhau gwasanaeth hwylus, symlach i rieni a darparwyr gofal plant ar draws Cymru. Dw i am ddiolch i bawb yn y sector gofal plant, awdurdodau lleol a rhieni sydd wedi ein helpu i gyflwyno’r gwasanaeth digidol.

“Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi teuluoedd sy'n gweithio gyda chostau gofal plant, ac mae'n wych gallu cynyddu nifer y teuluoedd sy'n manteisio ar y Cynnig. Dw i'n falch o ddweud bod dros 168 o deuluoedd ychwanegol hyd yma wedi cael eu helpu yn sgil ehangu’r Cynnig. Mae rhoi rhagor o gymorth gyda chostau gofal plant i rieni sy'n ymgymryd ag addysg a hyfforddiant yn adlewyrchu’r gwerth rydyn ni’n ei roi ar gefnogi pobl i wella eu cyfleoedd gwaith drwy ennill cymwysterau, ailhyfforddi neu newid llwybr gyrfa.

Dywedodd Claire Potter, Rheolwr Gweithrediadau Meithrinfa Darling Buds:

“Bydd gwasanaeth digidol newydd y Cynnig Gofal Plant yn cael effaith bositif ar ein lleoliadau, gan fod gennyn ni blant o sawl awdurdod lleol sy’n elwa o’r cyllid. Bydd y gwasanaeth newydd yn golygu bod modd inni ddefnyddio un porthol cenedlaethol i hawlio’r arian, pa awdurdod lleol bynnag sy’n awdurdodi’r trefniant.

Bydd y gwasanaeth hefyd yn cael effaith bositif ar ein rhieni/gofalwyr hefyd, gan y byddan nhw’n gallu defnyddio’r porthol, a gweld yr oriau a gytunwyd ac unrhyw oriau sy’n dal i fod ar gael iddyn nhw. Bydd hyn yn creu proses dryloyw a fydd yn cael gwared ag unrhyw ddryswch, i’r rhieni/gofalwyr ac i ni, yn enwedig pan fydd rhieni yn defnyddio gwasanaeth mwy nag un darparwr gofal plant.”

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol Plant, y Cyng Ash Lister:

“Rydyn ni am i’r broses o wneud cais am le o dan y Cynnig Gofal Plant fod mor syml â phosibl, fel y gall rhieni a theuluoedd sydd angen lle gael gafael yn hawdd ar yr hyn sydd ar gael iddyn nhw. Bydd lansio’r gwasanaeth digidol yn help i symleiddio’r broses gais, a bydd hefyd yn darparu ffordd effeithlon i ddarparwyr y gofal hawlio a derbyn y taliadau.

“Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi’r Cynnig Gofal Plant, sy’n parhau i helpu’r rheini sydd â gofal plant i ymgymryd â hyfforddiant a gwaith, a lleihau eu costau gofal plant. I’r plant eu hunain, mae mynychu lleoliad gofal plant cofrestredig yn cefnogi eu datblygiad ac yn eu paratoi ar gyfer yr ysgol, gan gynnig cyfleoedd i chwarae, dysgu a chymdeithasu gydag eraill o’r un oed.”

DIWEDD 

Nodiadau i olygyddion

Notes

The Childcare Offer for Wales provides 30 hours a week of government-funded early education and childcare for working parents of 3 and 4 year olds, for up to 48 weeks of the year.

As of June 2022, there were over 18,000 children accessing childcare funded by the Childcare Offer

Case Study: Accessing the Childcare Offer for Wales

Self-employed, single mother Alys from Swansea, says: “I wouldn’t be able to do the work that I do and work the hours that I do if I didn’t have the support of childcare in place.”

Alys first began accessing the Childcare Offer for Wales in January 2021. Prior to this, she was unable to afford childcare for her daughter and relied on her parents, who she lives with, for help, so that she could continue to work as a virtual assistant.

As a self-employed parent working from home, the support that Alys has received towards her childcare costs has hugely benefitted her. It has enabled her to increase her hours, work with less distractions and plan her workload further in advance. Knowing that her daughter is in good hands at her early education and childcare settings has also provided her with peace of mind. She explained: “It’s been essential for me to know that there is going to be somebody that will definitely be there to pick up my little one from school and look after her until I can fetch her later on in the day.”

The Offer has not only benefitted Alys’ work life, but her parents too. Although Alys’ parents were always happy to look after their granddaughter, they no longer feel the pressure to always be available and now have more time to themselves on their days home from work. While Alys hasn’t yet needed to use her allocated funding outside of term time, she plans to make use of it during the summer school holidays, which will enable both her and her parents to continue to earn an income.

Alys found the application process for the Offer to be straightforward and was pleased by how quickly her application was accepted. As a Welsh speaker, Alys was very keen for her daughter to attend a Welsh speaking nursery, so was delighted to find out that she could use her funding at a Welsh nursery near her.