Entrepreneuriaid Cymru yn allweddol i adferiad economaidd – Vaughan Gething
Wales’ Entrepreneurs key to economic recovery – Vaughan Gething
Mae mwy o bobl yng Nghymru yn dechrau menter fusnes newydd ac yn manteisio ar y newidiadau economaidd a ffordd o fyw sydd wedi'u gyrru gan bandemig Covid-19, meddai Gweinidog yr Economi Vaughan Gething heddiw wrth i wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang ddechrau.
Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyngor ac arweiniad i 3,020 o unigolion sy'n ystyried dechrau busnes ers mis Mawrth 2020, a oedd yn cefnogi creu 1,556 o fusnesau newydd yng Nghymru. Roedd hyn yn cynnwys 324 o entrepreneuriaid, a oedd gynt yn ddi-waith, a ddechreuodd fusnes gyda chymorth ariannol drwy'r grant rhwystrau Cychwyn Busnes.
Daw hyn yn dilyn y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf fod Busnes Cymru wedi cefnogi 25,000 o swyddi ym mentrau bach a chanolig Cymru ers 2016.
I ddathlu Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang, bydd Busnes Cymru a phartneriaid mewn Addysg Bellach ac Uwch yn cynnig dros 100 o ddigwyddiadau sy'n targedu pobl ledled Cymru i ddechrau busnes.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i annog diwylliant o entrepreneuriaeth ymysg pobl ifanc - ac i ddatblygu eu diddordeb mewn dechrau busnes. Mae hyn yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflawni'r Warant i Bobl Ifanc – gyda'r opsiwn i bobl ifanc gael cymorth i greu eu busnes eu hunain.
Mae Syniadau Mawr Cymru - sy'n rhan o Busnes Cymru - yn darparu cymorth penodol i bobl ifanc, lle mae rhwydwaith o dros 400 o berchnogion busnes o Gymru yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf fel Modelau Rôl. Maent wedi rhannu profiadau drwy weithdai gyda dros 310,000 o bobl ifanc o dan 25 oed ac wedi helpu dros 3,000 i ymchwilio i'w syniadau a chael help gyda'u cynlluniau, ers 2016.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig, mae'r gwasanaeth wedi cefnogi Georgina James, 25 o Dorfaen, a lansiodd ei brand dillad ffitrwydd ei hun a dosbarthiadau dawns i rymuso menywod ifanc; Olaitan Olawande, 21, o Fangor a'i busnes siarad cyhoeddus sy'n magu hyder pobl ifanc; a Tom Lancaster, 22, ac Emily Stratton, 25, o Aberystwyth sydd wedi lansio cwmni twristiaeth beicio mynydd yn Nyffryn Dyfi.
Meddai Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
"Er bod y pandemig wedi bod yn heriol iawn i lawer o fusnesau newydd, rydym hefyd wedi gweld iddo fod yn gyfnod o fyfyrio, a gyda newidiadau mewn ffordd o fyw a'r economi rydym bellach yn gweld cynnydd yn nifer y busnesau newydd.
"Mae rhan o'm gweledigaeth ar gyfer symud economi Cymru yn ei blaen wedi'i hanelu at greu economi lle mae mwy o bobl yn teimlo'n hyderus am gynllunio eu dyfodol yng Nghymru gan gefnogi creu swyddi ac economïau lleol mwy deinamig. Fy uchelgais yw gwneud Cymru'n lle lle mae mwy o bobl ifanc yn teimlo'n hyderus wrth gynllunio eu dyfodol yma. Nid oes rhaid i chi adael i lwyddo, gwnewch eich dyfodol yma yng Nghymru – ac mae ein hentrepreneuriaid yn chwarae rhan allweddol yn y weledigaeth hon."
Person ifanc arall sydd wedi elwa o'r gwasanaeth a gynigir gan Syniadau Mawr Cymru yw Lydia Hitchings, 24 o Gaerdydd, dylunydd dillad nofio y mae ei dyluniadau wedi'u gwisgo gan sêr sioe realiti Channel 4 Made in Chelsea.
Gan wneud defnydd da o’i gradd mewn tecstilau o Brifysgol Metropolitan Caerdydd, dechreuodd Lydia Rosy Cheeks, i ddylunio printiau cyfoes ar gyfer ei bikinis o'i hystafell wely, rhwng swydd ran-amser mewn derbynfa a hyfforddiant gyda thîm Pêl-rwyd Cenedlaethol Cymru.
Datblygodd Lydia ei syniadau fel myfyriwr blwyddyn olaf gyda chymorth gan Brifysgol Fetropolitan Caerdydd a hefyd cafodd gymorth gan Syniadau Mawr Cymru i greu ei chynllun busnes, gyda chyfarfodydd un-i-un rheolaidd gyda chynghorydd busnes wrth law i gynnig cyngor ac arweiniad.
Wrth siarad am y gefnogaeth a gafodd, dywedodd Lydia:
"Roedd dechrau busnes yn y cyfnod clo yn bendant yn her ar adegau ond roedd yn haws o wybod fod Syniadau Mawr Cymru ar ben arall y ffôn. I unrhyw un sydd â syniad busnes, waeth pa mor dda y mae wedi'i ddatblygu, mae'n gymorth amhrisiadwy. Gall credu yn eich syniadau deimlo'n frawychus ar adegau, felly gyda Syniadau Mawr Cymru wrth law, gallwch hogi eich sgiliau entrepreneuraidd a chael y cyngor cywir. Byddwn yn annog unrhyw un sydd ag angerdd neu syniad busnes i gysylltu â Syniadau Mawr Cymru a mynd amdani."
Dylai unrhyw un sydd â diddordeb dechrau eu busnes eu hunain edrych ar Dechrau a Chynllunio Busnes | Busnes Cymru (llyw.cymru) am syniadau a chyngor. Ariennir gwasanaeth Busnes Cymru yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.