Enwi enillwyr Her Morlyn Llanw Llywodraeth Cymru, gwerth £750,000
Winners of Welsh Government’s £750,000 Tidal Lagoon Challenge named
Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, newydd gyhoeddi enwau'r sefydliadau sydd wedi ymgeisio’n llwyddiannus am her Llywodraeth Cymru gwerth £750,000 ar gyfer datblygu Morlynnoedd Llanw.
Cafodd yr her ei chyhoeddi gan y Prif Weinidog Mark Drakeford ym mis Mawrth 2023 pan ddywedodd y byddai'n neilltuo cyllid ar gyfer o leiaf tri phrosiect i ymchwilio i dechnoleg morlynnoedd llanw.
Mae'r tri sefydliad arwain llwyddiannus wedi'u henwi:
- Prifysgol Abertawe yng nghategori'r Amgylchedd
- Offshore Renewable Energy Catapult yn y categori Peirianneg a Thechnoleg
- Prifysgol Caerdydd yng nghategori'r Economi-gymdeithasol a Chyllid:
Wrth siarad heddiw yng nghynhadledd Ynni Morol Cymru, dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James: "Rydym yn frwd o blaid ynni morol a'r cyfleoedd anhygoel y mae arfordir Cymru'n eu cynnig.
"Llongyfarchiadau i bob un o'r prosiectau hyn. Rwy'n cyffroi wrth feddwl sut y bydd yr ymchwil yn helpu sector y lagŵn llanw yng Nghymru drwy ddatblygu'r cynlluniau hyn, gan gydnabod hefyd werth posibl y gwaith hwn er lles diwydiannau morol eraill."
Ychwanegodd un o'r enillwyr, Cyfarwyddwr Prosiect Prifysgol Abertawe, Dr David Clarke: "Dyma newyddion gwych. Byddwn yn defnyddio'r arian i astudio symudiadau eogiaid, sewin a gwangod sydd â thagiau acwstig wedi'u rhoi arnyn nhw er mwyn deall peryglon ynni adnewyddadwy morol i'r rhywogaethau hyn.
"Bydd hefyd yn ein helpu i ddatblygu a mireinio technegau lliniaru – atalfeydd acwstig - er mwyn diogelu'r asedau naturiol pwysig hyn yn well."
Yn y gynhadledd, cyhoeddodd y Gweinidog hefyd y bydd hyd at £1m o arian cyfatebol yn cael ei roi gan Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau i gynnal gwaith paratoi er mwyn gallu rhoi prosiectau gwynt arnofiol ar y môr ar waith yn y dyfodol o Benfro.
Mae hyn yn adeiladu ar grant tebyg o arian cyfatebol i Associated British Ports ar gyfer gwaith dechreuol ym Mhort Talbot a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2023.
Dywedodd Tom Sawyer, Prif Weithredwr Porthladd Aberdaugleddau:
"Mae croeso mawr i'r gefnogaeth hon gan Lywodraeth Cymru a bydd y buddsoddiad yn helpu Porthladd Aberdaugleddau yn ei genhadaeth i sicrhau bod Sir Benfro yn parhau'n geffyl blaen yn y maes trawsnewid ynni. Mae'n hanfodol gwybod pa fath a faint o gerrig, graean a siltiau sydd yma os ydym am ddeall beth fydd yn gysylltiedig â pheiriannu'r cam nesaf yn esblygiad Porthladd Penfro.
"Mae ynni adnewyddadwy ar y môr yn gyfle unwaith mewn oes i ddod â thwf economaidd cynaliadwy a gyrfaoedd gwerth chweil ar gyfer cenedlaethau heddiw ac yfory.
"Mae'r gwaith paratoi hwn yn gam cyntaf pwysig ar gyfer gwireddu ein huchelgais i greu porthladd ym Mhorthladd Penfro sy'n barod am ynni'r dyfodol, gan roi'r blaen i'r rhanbarth yn y ras fyd-eang i groesawu datblygwyr technoleg gwynt arnofiol ar y môr.
"Rydyn ni'n gwybod y bydd angen cyfleusterau dŵr dwfn helaeth ar ddatblygwyr i osod a chynnal a chadw ffermydd gwynt arnofiol yn y Môr Celtaidd. Gyda'r buddsoddiad ychwanegol hwn mewn seilwaith, Porthladd Penfro fydd y porthladd dyfnaf, mwyaf cysgodol, agosaf sydd â’r adnoddau gorau ar gyfer datblygwyr ffermydd gwynt arnofiol yn y Môr Celtaidd. Ar y cyd â chlwstwr peirianneg trwm Sir Benfro, seilwaith trawsyrru a dosbarthu ynni sy’n barod yn ei le, a chlwstwr busnes sydd o fri rhyngwladol gynyddol, gyda chymorth Ymchwil a Datblygu, mae potensial enfawr ar gyfer twf."
DIWEDD