Enwi Sharron Lusher yn Gadeirydd y Bwrdd Adolygu Cymwysterau Galwedigaethol
Sharron Lusher named Chair of Vocational Qualifications Review Board
Mae bwrdd newydd yn cael ei sefydlu i adolygu'r cymwysterau galwedigaethol sydd ar gael i ddysgwyr a chyflogwyr yng Nghymru.
Sharron Lusher, a fu’n Bennaeth Coleg Sir Benfro ac yn Gadeirydd Colegau Cymru, fydd yn cadeirio'r bwrdd.
Bydd yr adolygiad yn dechrau ym mis Gorffennaf 2022, a bydd yn ystyried y camau y mae angen eu cymryd i ehangu'n sylweddol yr ystod o gymwysterau galwedigaethol Cymreig sydd ar gael, yn ôl anghenion dysgwyr a'r economi yng Nghymru. Bydd yr adolygiad o gymwysterau galwedigaethol yn cael ei oruchwylio gan grŵp llywio o gyrff rhanddeiliaid, dan gadeiryddiaeth arweinydd yn y maes sydd wedi'i leoli yng Nghymru.
Mae'r adolygiad yn rhan o'r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.
Dywedodd Jeremy Miles, y Gweinidog Addysg:
"Dw i wrth fy modd bod Sharron Lusher wedi cytuno i gadeirio'r Bwrdd Adolygu Cymwysterau Galwedigaethol. Bydd ei harbenigedd mewn addysg bellach, busnes ac arweinyddiaeth yn werthfawr i'r adolygiad hwn.
"Fe fyddwn ni’n gweithio i sicrhau bod gyda ni’r cymwysterau galwedigaethol sydd eu hangen yng Nghymru, a’u bod ar gael i bob dysgwr yn ôl eu diddordebau, eu hanghenion a'u huchelgais addysgol.
"Bydd gwella'r ddarpariaeth a'r ystod o gymwysterau galwedigaethol Cymreig yn hanfodol i sicrhau ein bod ni’n cyflawni anghenion economi Cymru at y dyfodol, gan ofalu ar yr un pryd bod ein myfyrwyr yn ennill y sgiliau a'r cymwysterau sydd eu hangen arnyn nhw i ffynnu a symud ymlaen."
Dywedodd yr Aelod Dynodedig, Siân Gwenllian:
"Mae cymwysterau galwedigaethol yn rhan hanfodol bwysig o'n system addysg. Mae angen inni sicrhau eu bod nhw’n addas ar gyfer anghenion y Gymru fodern.
"Bydd yr adolygiad hwn yn chwarae rhan bwysig o ran ein helpu ni i ehangu'r ystod o gymwysterau galwedigaethol Cymreig sydd gyda ni i wasanaethu ein heconomi a'n cymdeithas."
Nodiadau i olygyddion
All public appointments are made on merit and political activity plays no part in the selection process. However, in accordance with the original Nolan recommendations, there is a requirement for the political activity of appointees (if any declared) to be published. No political activity has been declared.
The review is anticipated to take 40 days. The role will be for a period of 12 months. It is recompensed at £337 per day.
Sharron Lusher’s position as a Qualifications Wales Board member will be temporarily put-on-hold for the 12 month duration of the review.