Esblygiad dull cyllidebu ar sail rhyw yng Nghymru
Evolving approach to gender budgeting in Wales
Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu ei dull cyllidebu ar sail rhyw, gyda chynlluniau peilot ac ymchwil yn helpu i greu Cymru sy’n rhoi pwyslais ar gydraddoldeb rhwng y rhywiau.
Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid, fod cyllidebu ar sail rhyw yn tanlinellu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fod yn llywodraeth ffeministaidd.
Dadansoddi sut y mae polisïau a chyllidebau cysylltiedig yn effeithio ar y gwahanol rywiau yw cyllidebu ar sail rhyw. Nid yw'n golygu gwahanol gyllidebau i fenywod a dynion. Yn hytrach, mae'n golygu mynd ati i nodi effaith gwariant ar gydraddoldeb rhwng y rhywiau, gan arwain at benderfyniadau cyllid sydd wedi’u targedu’n well ac, yn eu tro, at ganlyniadau gwell hefyd.
Mae tri chynllun peilot cyllidebu ar sail rhyw yn cael eu cynnal yng Nghymru, ym meysydd sgiliau, cyflogaeth a theithio llesol. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi datgelu ei chynlluniau i fwrw ymlaen â gwaith ymchwil rhywedd sy'n gysylltiedig ag iechyd, er mwyn mynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau a chefnogi'r gwasanaeth iechyd i ddarparu gofal iechyd o ansawdd i fenywod a merched.
Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:
"Rydyn ni wedi ymrwymo i fod yn llywodraeth ffeministaidd ac mae cyllidebu ar sail rhyw yn rhan bwysig o'r ymdrech hon. Mae'n cydnabod nad yw anghenion holl bobl Cymru bob amser yr un fath. Drwy feithrin dealltwriaeth well o effaith ein penderfyniadau gwariant, bydd ein polisïau yn dod yn fwy effeithiol hefyd.
"Mae dau o'n cynlluniau peilot yn cael eu cynnal mewn meysydd sy'n canolbwyntio ar wella sgiliau pobl. Mae Fforwm Economaidd y Byd wedi amlygu’r her sy’n ein hwynebu oherwydd nad oes cynrychiolaeth ddigonol o fenywod mewn rolau newydd sy'n dod i’r amlwg. Rydyn ni hefyd yn gwybod nad oes dal digon o fenywod yn dilyn gyrfaoedd ym meysydd STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg).
"Mae cyllidebu ar sail rhyw yn cyd-fynd â'n cynllun i hybu cydraddoldeb rhwng y rhywiau, ac mae'r cynlluniau peilot hyn yn ein helpu i ddysgu gwersi hanfodol am sut gall ein penderfyniadau gwariant a pholisi gyflawni'r amcan hwn. Megis dechrau y mae ein gwaith i weithredu’r dull hwn, a byddwn yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid a grwpiau allanol wrth inni geisio datblygu’r dull cyllidebu ar sail rhyw yn y dyfodol."
Mae Cyfrifon Dysgu Personol yn rhoi cymorth i unigolion sy’n gweithio ac sy’n derbyn cyflogau is na'r cyfartaledd i ennill sgiliau lefel uwch, gan eu helpu i fanteisio ar amrywiaeth ehangach o gyfleoedd gwaith. Targedwyd y cyllid yn benodol at feysydd lle mae prinder o weithwyr a lle mae bylchau mewn sgiliau – mewn sectorau â blaenoriaeth fel iechyd a gofal cymdeithasol, logisteg, adeiladu gwyrdd ac ynni adnewyddadwy. Un o brif amcanion y cynllun peilot cyllidebu ar sail rhyw yw helpu pobl i ddatblygu sgiliau mewn meysydd nad ydynt yn nodweddiadol o’r gwahanol rywiau.
Mae'r Warant i Bobl Ifanc yn cynnig cymorth sy'n gysylltiedig â gwaith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth i bobl ifanc 16-24 oed. Fel rhan o'r gwaith hwn, mae cyllidebu ar sail rhyw yn cydnabod y rhwystrau cymhleth y gallai rhai unigolion eu hwynebu wrth geisio cael gafael ar gymorth. Bydd hyn yn helpu Llywodraeth Cymru i dargedu cyllid yn well a chymryd camau lliniaru yn erbyn effeithiau anfwriadol.
Mae teithio llesol yn rhan allweddol o weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth Cymru. Un o’r cynlluniau peilot cyllidebu ar sail rhyw sydd ar waith yw’r cynllun hwnnw sy’n canolbwyntio'n benodol ar raglen E-Symud Cymru. O dan y rhaglen hon, mae cynlluniau llogi a benthyca e-feiciau am gost isel yn y gymuned yn cael eu cynnal mewn pum ardal yng Nghymru – a’r rhan fwyaf o’r ardaloedd hynny yn profi lefelau uchel o amddifadedd. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ochr yn ochr â Sustrans Cymru, sy'n rhedeg y cynllun, i ddeall yn well sut y gallai dull cyllidebu ar sail rhyw ychwanegu gwerth a llywio camau gweithredu yn y dyfodol.