
Cymorth creadigol ar gyfer ymddangosiad cyntaf Cymru yn Ewros y Menywod
Creative support for Cymru Women’s Euro debut
Wrth i fenywod Cymru baratoi i chwarae yn y Swistir y penwythnos hwn ar gyfer eu hymddangosiad cyntaf ym mhencampwriaeth Ewro 2025, mae llawer o brosiectau yn digwydd ledled y wlad a thu hwnt i ddathlu'r cyflawniad enfawr hwn.
Mae Cronfa Cymorth i Bartneriaid Ewro 2025 Llywodraeth Cymru gwerth £1 miliwn yn cefnogi 16 sefydliad i gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau, prosiectau creadigol ac adnoddau dysgu i dynnu sylw at dalent Cymru, gan adeiladu gwaddol a fydd yn ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol ac yn ysgogi mwy o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon a diwylliant.
Mae tri phrosiect blaenllaw yn dod â'r dathliad hwn yn fyw:
Mae Llenyddiaeth Cymru wedi comisiynu'r bardd Sarah McCreadie i gofnodi taith Cymru yn yr Ewro gyda phedair ar ddeg o gerddi gwreiddiol. Mae Sarah, a fydd yn teithio gyda'r tîm i'r Swistir, yn dod â'i hangerdd am bêl-droed a barddoniaeth i'r rôl.
"Dyma fy mreuddwyd!" meddai Sarah. "Dw i'n angerddol am bêl-droed a barddoniaeth ac maen nhw'n cydblethu - yn enwedig yng Nghymru. Llên gwerin y gêm, ein hunaniaeth, ergyd fedrus Fishlock, caneuon y Wal Goch – barddonol bob un! Mae'n fraint cael cofnodi ein hantur drwy farddoniaeth."
Mae ffilm newydd bwerus gan y cyfarwyddwr Aaliyah MacKay yn dathlu Eleeza a Rosheen Khan, dyfarnwyr a hyfforddwyr Mwslimaidd benywaidd cyntaf Cymru. Mae'r chwiorydd, sy'n disgrifio eu hunain fel 'actifyddion pêl-droed', yn chwalu ffiniau yn y gêm ac yn ysbrydoli menywod o bob cymuned.
"Wrth wraidd y prosiect hwn mae cwestiynau o ran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant," esboniodd Aaliyah. "Trwy ddangos sut mae dwy fenyw Fwslimaidd wedi herio stereoteipiau, rydyn ni eisiau dangos bod pêl-droed yn perthyn i bob un ohonom."
Ychwanegodd Rosheen Khan: "Yn niwylliant De Asia nid ydych chi'n gweld llawer o ddynion neu fenywod yn y byd pêl-droed ac rydyn ni eisiau creu gwaddol yn y gêm ac ysbrydoli pobl fel ni i gymryd rhan."
Mae murlun nodedig mawr o Jess Fishlock wedi trawsnewid Parc Pêl-droed y Sblot yng Nghaerdydd, gan greu hanes fel y murlun maint cae llawn cyntaf i bêl-droediwr benywaidd yn Ewrop. Wedi'i greu gan yr artist o Gymru Regan Gilflin a stiwdio UNIFY Caerdydd, mae'r gwaith celf yn dathlu gwaddol Fishlock fel y pêl-droediwr sydd wedi ennill y nifer mwyaf o gapiau i Gymru.
Dywedodd Jess Fishlock: "Mae'n anrhydedd enfawr cynrychioli Cymru a bod yn rhan o furlun cyntaf o'i fath sy'n dathlu ein hymddangosiad hanesyddol yn yr Ewros. Dw i mor falch o weld y murlun yn yr ardal y cefais fy magu ynddi ac yr oeddwn i'n chwarae ynddi pan oeddwn i'n iau. Dw i'n gobeithio y bydd yn ysbrydoli bechgyn a merched i syrthio mewn cariad â'r gêm."
Bydd y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, Jack Sargeant, yn mynd i'r Swistir i ddangos ei gefnogaeth i Dîm Cymru. Dywedodd:
"Mae'r penwythnos hwn yn drobwynt i bêl-droed Cymru wrth i dîm cenedlaethol y menywod fynd ar y cae ar gyfer eu Pencampwriaeth Ewropeaidd gyntaf erioed. Nid yw'r balchder rydyn ni'n ei deimlo fel cenedl yn ymwneud â'r hyn sy'n digwydd ar y cae yn unig – mae'n ymwneud â'r hyn y mae'r cyflawniad hwn yn ei gynrychioli i Gymru a chenedlaethau'r dyfodol.
"Dw i'n falch iawn bod ein Cronfa Cymorth i Bartneriaid Ewro 2025 gwerth £1 miliwn yn dod â phrosiectau amrywiol yn fyw sy'n dathlu'r garreg filltir hanesyddol hon drwy ein lens Gymreig unigryw. Mae pob prosiect yn dal ysbryd Cymru o ran creadigrwydd, cynhwysiant a phenderfyniad.
"Mae'r mentrau hyn yn fwy na dathlu cyflawniad heddiw. Maent yn ymwneud ag adeiladu gwaddol parhaol a fydd yn ysbrydoli rhagor o bobl ifanc i ymwneud â chwaraeon. Dw i'n edrych ymlaen at gefnogi ein tîm yn y Swistir a gweld drosof fy hun sut y gall chwaraeon uno cymunedau ac arddangos talent Cymru ar lwyfan rhyngwladol. Pob lwc!"