Ffermwyr o Gymru i elwa ar adolygiad biwrocratiaeth
Welsh farmers to benefit from bureaucracy review
- Llywodraeth Cymru yn cyflawni'r cyntaf o'i hymrwymiadau yn ei maniffesto 100 diwrnod i'r sector ffermio
- Lansio adolygiad annibynnol i archwilio'r baich biwrocrataidd ar fusnesau fferm Cymru.
- Penodi’r ffermwr profiadol a chyn-Lywydd NFU Cymru, John Davies, i arwain y gwaith
Bydd ffermwyr yng Nghymru yn cael dweud eu dweud ar fiwrocratiaeth, wrth i'r Gweinidog dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, Llŷr Gruffydd, benodi cadeirydd annibynnol i arwain adolygiad i'r baich biwrocrataidd ar ffermydd teuluol.
Bydd John Davies, ffermwr cig eidion a defaid o gyffiniau Aberhonddu a chyn-Lywydd NFU Cymru, yn arwain yr adolygiad naw mis o hyd. Bydd yn siarad yn uniongyrchol â'r rhai sy'n llenwi ffurflenni - ffermwyr ac asiantiaid sydd â phrofiad bywyd o ofynion ar ffermydd. Bydd yr adolygiad yn asesu effaith gronnol gofynion ar fusnesau fferm ac yn archwilio lle mae posibilrwydd o newid, a’r angen amdano.
Gwnaeth Llywodraeth Cymru yr adolygiad hwn yn un o'i brif ymrwymiadau 100 diwrnod. Dywedodd Llŷr Gruffydd, y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd: "Wrth ffurfio'r Llywodraeth fe wnaethon ni ddweud y byddai gan ffermwyr Weinidog ar eu hochr nhw. Dyma ni'n rhoi geiriau hynny ar waith. Rydyn ni'n deall mai ffermio yw blaenoriaeth ffermwr. Mae rheoleiddio yn rhan angenrheidiol o gynnal ein safonau o'r radd flaenaf, ond rhaid i ofynion fod yn gymesur, ac ni ddylent rwystro'r broses o reoli tir a chynhyrchu bwyd yn gynaliadwy. Er y gall rhai newidiadau gymryd amser, rydw i wedi gofyn i John nodi llwyddiannau cyflym lle bynnag y bo modd, er mwyn inni ddechrau gwneud newidiadau cyn gynted ag y gallwn."
Wrth ymgymryd â'r rôl, dywedodd John Davies: "Rwy'n croesawu'r cyfle i arwain yr adolygiad hwn ac edrychaf ymlaen at ddechrau arni. Rwy'n gwybod o brofiad am y pwysau y mae ffermwyr yn ei wynebu wrth ddelio â gofynion rheoleiddio, archwiliadau a gweinyddu. Byddaf yn gweithio'n agos gyda'r rhai ar lawr gwlad yn y sector er mwyn deall ble y gellir gwneud gwelliannau. Mae hyn yn golygu dod o hyd i ffyrdd ymarferol o wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n ffermwyr."
Nodiadau i olygyddion
- Mae John Davies yn ffermio ar Fferm Pentre ger Aberhonddu ac wedi gwasanaethu fel Llywydd NFU Cymru. Yn ystod ei lywyddiaeth cynrychiolodd ffermwyr Cymru ar faterion gan gynnwys polisi amaethyddol ôl-UE, newid hinsawdd, a rheoleiddio amgylcheddol.
- Penodir Cadeirydd trwy Benodiad Gweinidogol Uniongyrchol (DMA). Byddai'r rôl yn gyfyngedig o ran amser ac yn gynghorol ei natur, yn arwain adolygiad â ffocws i nodi camau ymarferol i leihau'r baich biwrocrataidd ar ffermydd teuluol.