English icon English
wrexham -12

Ffocws ar Amgueddfeydd yng Nghymru

Welsh Museums in the Spotlight

Mae adroddiad a gyhoeddwyd heddiw yn dangos y cyfraniad pwysig y mae amgueddfeydd yn ei wneud i fywyd diwylliannol ac economi Cymru.

Mae’r Arolwg Sbotolau ar Amgueddfeydd, sy’n cael ei gyhoeddi heddiw, yn monitro ac yn asesu iechyd parhaus y sector amgueddfeydd yng Nghymru – ac mae wedi bod yn cael ei gynnal ers 2006.  

Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos, yn 2022, y bu 3 miliwn o ymweliadau â’r amgueddfeydd yng Nghymru a gwblhaodd yr arolwg; mae hyn o’i gymharu â 4.3 miliwn o ymweliadau yn 2019. Ar y cyfan, mae nifer yr ymwelwyr ag amgueddfeydd wedi adfer i 69% o’r lefelau a welwyd cyn COVID-19.

Mae amgueddfeydd yn gwneud cyfraniad pwysig i economi Cymru yn ogystal ag i economi leol yr amgueddfa. Maent yn denu pobl leol a thwristiaid fel ei gilydd ac yn ysgogi ymwelwyr i wario arian. Mae’r gwariant hwn yn fuddiol i fusnesau eraill, yn enwedig yn y diwydiant lletygarwch ac i ddarparwyr llety.

Un o brif rolau ein hamgueddfeydd yw grymuso dysgu ac ysbrydoli. Er yn 2022 y croesawyd 320,000 o gyfranogwyr dysgu i amgueddfeydd yng Nghymru, nid yw nifer y bobl sydd wedi mynychu sesiynau dysgu ffurfiol ac anffurfiol wedi adfer i’r lefelau a welwyd cyn y pandemig eto.

Mae amgueddfeydd ledled Cymru yn drysorfeydd hanes a diwylliant lleol a chenedlaethol, a chanfu’r adroddiad fod gan amgueddfeydd dros 6,300,000 o wrthrychau yn eu casgliadau ac, er mwyn sicrhau bod y casgliadau hyn ar gael i bawb, mae bron pob amgueddfa yn cynnig rhywfaint o fynediad ar-lein i’w casgliadau.

Nid yw nifer y gwirfoddolwyr wedi adfer yn llawn i’r lefelau cyn y pandemig eto ychwaith. Yn 2022, roedd 1,893 o wirfoddolwyr yn cyfrannu 180,137 awr o gefnogaeth gwirfoddolwyr, sydd 32% o wirfoddolwyr yn llai yn y gweithlu nag a oedd yn 2019. 

Dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Hoffen ni ddiolch i’r holl amgueddfeydd hynny a gyfrannodd at yr Arolwg Sbotolau, sy’n werthfawr o ran taflu goleuni a rhoi gwybodaeth bwysig inni er mwyn deall y sector yn well. Mae Sbotolau 2022 yn dangos yn glir fod y broses o adfer ar ôl y pandemig yn mynd rhagddi, ond ei bod yn bell o fod yn gyflawn nac yn unffurf ar draws y gwahanol fathau o amgueddfeydd ar draws y wlad. Rydyn ni, fel Llywodraeth Cymru, yn cydnabod pwysigrwydd ein sector amgueddfeydd lleol a chenedlaethol fel elfen allweddol o’n bywyd diwylliannol yng Nghymru, a’r hyn y maent yn ei ddarparu i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Rydyn ni eisoes yn darparu cymorth i helpu amgueddfeydd i wynebu rhai o’r heriau a gafodd eu codi yn yr adroddiad, ac yn edrych ymlaen at weithio gyda’r sector yn y dyfodol.”

Gellir dod o hyd i’r adroddiad llawn yma: Arolwg Sbotolau ar Amgueddfeydd: 2022 | LLYW.CYMRU

Nodiadau i olygyddion

Comisiynodd Llywodraeth Cymru Emma Chaplin Heritage and Museum Services i gynnal Arolwg Sbotolau ar Amgueddfeydd 2022. Yn ystod yr arolwg, casglwyd data ar gyfer 2022 oddi wrth yr amgueddfeydd hynny yng Nghymru sydd wedi’u hachredu neu sy'n gweithio tuag at gael eu hachredu. 

Mae’r canfyddiadau’n darparu tystiolaeth i lywio penderfyniadau cynllunio a chyllido a phenderfyniadau strategol eraill gan Lywodraeth Cymru a’r sector amgueddfeydd yng Nghymru. Mae’r adroddiad yn defnyddio data cymharol o rowndiau arolwg blaenorol – yn enwedig data a gasglwyd yn 2019 – er mwyn ystyried tystiolaeth cyn ac ar ôl pandemig COVID-19.

O’r 111 o arolygon a anfonwyd, daeth 77 ymateb i law, sy’n cyfateb i gyfradd ddychwelyd o 69%.