Fframwaith newydd ar gyfer gwella ysgolion i ganolbwyntio ar gynnydd dysgwyr
New framework for school improvement to focus on learner progression
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi fframwaith newydd ar gyfer gwella ysgolion, gan sicrhau bod cynnydd a lles dysgwyr yn cael lle canolog ym mhob ymdrech i gyrraedd safonau uchel a gwireddu uchelgais.
Mae hyn yn golygu y bydd categoreiddio cenedlaethol yn dod i ben ac yn cael ei ddisodli gan system hunanwerthuso gadarn lle gellir rhannu arferion da a mynd i'r afael â methiant ar frys.
Bydd rhieni nawr yn gallu cael gwybodaeth fwy diweddar, manwl a chynhwysfawr. Wrth symud oddi wrth gategoreiddio, caiff crynodeb o flaenoriaethau gwella a chynllun datblygu pob ysgol ei ddarparu a'i gyhoeddi.
Mae adolygiadau wedi dangos bod y gwahaniaeth rhwng asesiadau disgyblion a systemau atebolrwydd ysgolion wedi bod yn aneglur yn rhy aml, gan arwain at ganlyniadau anfwriadol yn yr ystafell ddosbarth.
Adnodd i’w ddefnyddio er budd y disgyblion yw asesiadau, gan alluogi athrawon i addasu strategaethau addysgu i gefnogi eu cynnydd. Mae systemau atebolrwydd, ar y llaw arall, dan arweiniad Estyn, yn sbarduno gwelliant drwy sicrhau mwy o dryloywder a’i gwneud yn bosibl pennu dyfarniad ar berfformiad. Mae'r fframwaith a gyhoeddwyd heddiw yn gwahanu'r ddau mewn ffordd bendant.
Cynhelir arolygiadau Estyn yn fwy rheolaidd hefyd. O fis Medi ymlaen, bydd Estyn yn arolygu ysgolion o dan eu fframwaith newydd, ac mae cynlluniau i gynyddu nifer yr arolygiadau o fis Medi 2024.
Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:
"Drwy roi’r lle canolog i ddysgwyr yn ein camau diwygio, fe fyddwn ni’n cefnogi pob dysgwr i gyrraedd ei lawn botensial.
"Mae asesu ac atebolrwydd yn hanfodol i godi safonau – ond mae gan y naill a’r llall rôl wahanol iawn i'w chwarae – mae asesu'n ymwneud â deall anghenion disgybl unigol ac mae atebolrwydd yn ymwneud â sut mae perfformiad cyffredinol yr ysgol yn cael ei werthuso. Ond mae'r gwahaniaeth rhwng y ddau wedi mynd yn aneglur, a hynny’n gallu cael effaith andwyol ar yr addysgu a’r dysgu.
"Drwy ddod â chategoreiddio cenedlaethol i ben, rydyn ni’n gwneud dau beth. Yn gyntaf, gosod fframwaith yn lle’r hen system sy'n nodi disgwyliadau clir fel bod pob disgybl yn cael ei gefnogi'n briodol.
"Ac yn ail, darparu gwybodaeth well a mwy diweddar am gynlluniau gwella pob ysgol, fel bod y ffocws ar gynnydd dysgwyr yn hytrach nag ar y disgrifiad pennawd. Dw i'n hyderus y bydd y fframwaith hwn yn annog mwy o gydweithio rhwng ysgolion, a fydd yn helpu i gyrraedd safonau uchel a gwireddu uchelgais ar gyfer ein holl ddysgwyr, ac yn cefnogi eu lles."
Dywedodd Owen Evans, Prif Arolygydd Estyn:
"Rydyn ni’n croesawu canllawiau Llywodraeth Cymru i ddarparwyr ledled Cymru ar wella ysgolion, ac rydyn ni’n cyd-fynd yn llwyr â'r dull gweithredu.
"Mae cynnydd a lles dysgwyr yn gwbl ganolog i’n gwaith ni yn Estyn, ac mae'r penderfyniad i symud oddi wrth werthuso ar sail pwyslais anghymesur ar nifer fach o fesurau perfformiad yn cael ei adlewyrchu yn ein dull newydd o arolygu ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion.
"Fe fyddwn ni’n parhau i arolygu ysgolion a phennu dyfarniadau ar sail ystod eang o dystiolaeth a gwybodaeth, gan edrych ar holl weithgarwch yr ysgol. Rydyn ni yma i sicrhau atebolrwydd pob darparwr addysg yng Nghymru, ac fe fyddwn ni’n parhau i weithio'n galed i sicrhau bod pob dysgwr yn cael yr addysg a'r hyfforddiant y mae’n ei haeddu – gan fonitro ysgolion drwy waith dilynol os nad yw’r safonau'n ddigon uchel.
"Rydyn ni wedi gwneud nifer o newidiadau i'n dull o arolygu ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion, gan gynnwys cyflwyno adroddiadau arolygu heb raddau crynodol, ond sy’n cynnwys trosolwg allweddol o ganfyddiadau sy'n canolbwyntio ar gryfderau ysgol a meysydd i'w datblygu. Rydyn ni’n hyderus y bydd hyn yn cynnig mewnwelediad ystyrlon a fydd yn helpu darparwyr i wella heb dynnu sylw at ddyfarniad."
Nodiadau i olygyddion
Notes
Schools Improvement Guidance will be available soon - please contact us for an embargoed copy of the full guidance.
The national resource: evaluation and improvement - Hwb (gov.wales)
Robust self-evaluation
National Categorisation will be replaced with a robust self-evaluation system with schools identifying strengths as well as areas for improvement.
Schools’ self-evaluation will be the starting point for all evaluation and improvement work, with their self-evaluation supported by both the ‘National Resource: evaluation and improvement’ and their improvement partners. Schools are also encouraged to incorporate peer review into their self-evaluation to further develop a culture of partnership. Regional consortia and local authorities will work with all schools to agree the level of support that schools need, and will confirm to schools’ governing bodies the support they will provide or broker.
International experts the OECD have identified a prominent role for self-evaluation as a feature of high-performing school systems. They have also previously described how replacing National Categorisation with a robust self-evaluation system will provide “a much more detailed overview of the actual strengths and areas for improvement of a school, compared to the colour coding [system]”.
Schools will be supported to complete self-evaluations by improvement advisers, with a suite of information and support available through the National Resource on Hwb. Schools will continue to receive flexible and tailored support which responds to their development plan.
Improved data and information
In line with the new curriculum and the ambition for all learners to achieve their aspirations, these changes will also see wider information being available to show learner progress beyond test results and qualifications. A Direction to support a shared understanding of progression is also published today which will require schools to work together within and across clusters in Wales, to support learner progression.
Together this is expected to lead to more collaboration and engagement between schools, parents and carers, as well as parents and carers receiving better information. Parents will continue to have access to up to date information on their school and will receive more detailed and informative information than was the case under categorisation through the publication of a summary of schools’ improvement priorities and development plan on their website.
Accountability and inspections
Accountability within the school system will be maintained through effective school governance and more regular Estyn inspection of schools. From September, Estyn will inspect schools under their new framework which supports the new Curriculum, with plans to increase the number of inspections from September 2024.
The commitment to increase inspections will reduce the gap between reporting on individual schools, as well as ensuring that parents and learners have access to up-to-date independent information about their school.