English icon English

‘Ffyniant Bro yn gwneud cam â Chymru’ meddai Gweinidog yr Economi

‘Wales being failed by Levelling Up’, says Economy Minister

Heddiw (dydd Mawrth 16eg Ionawr) bydd Gweinidog yr Economi yn dweud mewn dadl yn y Senedd fod cynlluniau Ffyniant Bro Llywodraeth y DU yn gwneud cam â phobl, busnesau a chymunedau Cymru wrth i swm y cyllid o’r UE nad oes cyllid wedi dod yn ei le gynyddu gyda chwyddiant.

Bydd Vaughan Gething yn dadlau bod Cymru bellach, mewn termau real, yn brin o bron i £1.3bn  mewn cyllid strwythurol a gwledig gan yr UE nad oes cyllid wedi dod yn ei le rhwng 2021 a 2025 oherwydd effaith barhaus chwyddiant yn ystod y cyfnod hwn.

Mae’r diffyg hwn ar ben y gyllideb gyffredinol yng Nghymru bellach hyd at £1.3bn yn llai mewn termau real na phan gafodd ei gosod yn Adolygiad o Wariant Llywodraeth y DU yn 2021 oherwydd penderfyniadau sydd wedi’u gwneud gan Lywodraeth y DU a chwyddiant cynyddol.

Bydd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, yn dweud:

“Mae gan bob un o gynlluniau Llywodraeth y DU – boed y Gronfa Ffyniant Bro, y Gronfa Ffyniant Gyffredin, neu’r Gronfa Trefi – yr un pethau’n gyffredin: Maen nhw wedi cael eu taflu at ei gilydd heb gydlynu a gydag ychydig iawn o gynllunio, ymgynghori na rhesymeg economaidd.

“Maen nhw’n cael eu gweithredu’n anhrefnus gan adael rhanddeiliaid yn ddryslyd neu wedi’u heithrio’n gyfan gwbl, gan roi pwysau aruthrol ar lywodraeth leol i wario arian yn gyflym er gwaethaf oedi gan Lywodraeth y DU a therfynau amser sydd ddim yn argyhoeddi.

“Hefyd, maen nhw’n cymryd arian a phwerau oddi ar Gymru gan eu rhoi yn nwylo Gweinidogion Llywodraeth y DU yn Llundain, sy'n golygu bod gan Gymru lai o lais dros lai o arian.”

Y canlyniad yw na fydd Merthyr Tudful, Sir y Fflint na Chasnewydd yn gweld unrhyw arian o’r Gronfa Ffyniant Bro, er gwaethaf defnyddio amser ac adnoddau ar gynigion sydd wedi cael eu gwrthod gan Lywodraeth y DU.

Bydd y Gweinidog yn ychwanegu: “Mae oedi gan Lywodraeth y DU wrth wneud penderfyniadau wedi gyrru costau’n uwch hefyd yn ystod cyfnod o chwyddiant sydd wedi codi’n aruthrol, ac y mae hyn wedi rhoi pwysau mawr ychwanegol ar ein cynghorau.”

Yn flaenorol mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio cyllid yr UE i helpu i fynd i'r afael â diweithdra, cyflwyno prentisiaethau a hyfforddiant, creu a thyfu busnesau, a buddsoddi mewn seilwaith a phrosiectau mawr fel Metro De Cymru a'r sector ynni adnewyddadwy yng Ngogledd a Gorllewin Cymru.

Cefnogwyd prifysgolion hefyd i gyflwyno rhaglenni sgiliau a thwf lefel uchel mewn partneriaeth â diwydiant a gweithio gyda busnesau ar Ymchwil a Datblygu blaengar.

O dan agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, amcangyfrifir bod tua 1,000 o swyddi o ansawdd uchel ym maes ymchwil ac arloesi yn cael eu colli yng Nghymru gan na all prifysgolion gael mynediad at y cronfeydd hyn ar yr un raddfa.

Bydd y Gweinidog yn ychwanegu:

“Mae Cymru yn wynebu’r sefyllfa ariannol anoddaf ers dechrau datganoli. Gwaddol ei dulliau gweithredu gyda ffyniant bro yw ffyrdd bach, cymhleth a thameidiog o fuddsoddi gyda bach iawn o effaith economaidd gwerthfawr.

“Drwy anfedrusrwydd a difaterwch, mae Llywodraeth y DU wedi achosi niwed parhaol i’n heconomi ni ac wedi gwastraffu’r cyfle i greu’r newid ystyrlon y mae Cymru a gweddill y DU angen ei weld yn ddirfawr.”