English icon English

Ffyrdd Cymru’n fwy diogel y gwanwyn hwn o'u cymharu â'r un cyfnod llynedd

Roads in Wales were safer this Spring compared to last, latest stats show.

Mae ystadegau Ebrill - Mehefin 2024, sef y rhai diweddaraf a gyhoeddwyd gan yr heddlu, yn dangos bod gwrthdrawiadau (24%) ac anafusion (24%) ar ffyrdd 20mya a 30mya (gyda'i gilydd) wedi gostwng bron i chwarter o'u cymharu â'r un cyfnod yn 2023. Dyma'r isaf erioed y tu allan i'r pandemig.

Rydym yn gwybod hefyd, ers cyflwyno'r terfyn 20mya ym mis Medi 2023, bod nifer y gwrthdrawiadau (26%) a'r anafusion (28%) ar ffyrdd 20mya a 30mya (gyda'i gilydd) wedi gostwng mwy na chwarter. Y tri gostyngiad chwarterol yn y cyfnod hwn yw'r tri gostyngiad chwarterol mwyaf erioed y tu allan i gyfnod y pandemig.

Gan fod ffactorau tymhorol, fel swm y traffig ac amodau'r tywydd, yn effeithio ar y data, mae'n well ac yn fwy ystyrlon cymharu ystadegau â rhai'r un cyfnod o flwyddyn i flwyddyn yn hytrach nag â chyfnodau olynol. Er enghraifft, mae data Ebrill-Mehefin (Ch2) fel arfer yn tueddu i fod yn uwch na rhai Ionawr-Mawrth (Ch1). Dyna sut y bu yn 11 o'r 15 mlynedd diwethaf.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a'r Gogledd, Ken Skates:

"Mae'r data a gyhoeddwyd heddiw yn arwydd calonogol bod pethau'n symud i'r cyfeiriad cywir, gyda gostyngiad o flwyddyn i flwyddyn yn nifer y gwrthdrawiadau a’r anafusion - yr isaf sydd wedi'u cofnodi y tu allan i gyfnod pandemig Covid.

 "Ond mae tipyn o ffordd i fynd eto. Rydym bob amser wedi dweud y bydd angen blynyddoedd lawer i ni weld unrhyw effaith arwyddocaol, ond mae'r ffigurau hyn yn dangos tuedd gadarnhaol at wneud ein ffyrdd yn fwy diogel i bawb.

 "Ar hyn o bryd mae Awdurdodau Lleol yn adolygu'r adborth gan eu dinasyddion ac yn ei asesu yn erbyn ein canllawiau diwygiedig i sicrhau eu bod yn pennu'r cyflymder iawn ar y ffyrdd iawn, gyda diogelwch y ffyrdd yn sail i bob penderfyniad a wneir."