Gall cynlluniau ar gyfer safle Trawsfynydd roi hwb enfawr i ogledd Cymru
Plans for Trawsfynydd site could bring a huge boost for North Wales
Mae gan Gwmni Egino rôl hanfodol i’w chwarae wrth wireddu potensial safle Trawsfynydd, dywedodd Gweinidog Gogledd Cymru, Lesley Griffiths, yn dilyn ymweliad â’r ardal.
Cafodd Cwmni Egino ei sefydlu yn 2021 gan Lywodraeth Cymru, a nod ei waith yw datblygu prosiectau newydd posibl i gynhyrchu trydan, a rhagor opsiynau ar gyfer manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd mae’r safle yn eu darparu.
Yn rhan o’r gwaith hwn, cyhoeddodd Cwmni Egino yn ddiweddar y byddai’n dechrau ar raglen i ddod â thechnoleg niwclear ar raddfa fach i safle Trawsfynydd, gyda’r nod o ddechrau gwaith ar y safle yn 2027.
Mae hefyd gan y safle’r potensial i gynnwys adweithydd ymchwil radioisotop meddygol i gynhyrchu radioniwclidau ar gyfer diagnosteg a thrin canser.
Mae’r cwmni yn gweithio gyda pherchennog y tir, yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear, i ddatblygu’r cynigion i ddefnyddio Trawsfynydd yn lleoliad ar gyfer y datblygiadau niwclear newydd.
Ymwelodd Gweinidog Gogledd Cymru, Lesley Griffiths, â’r safle yn ddiweddar, a chlywodd hi ragor am y datblygiadau ar gyfer y dyfodol, a fyddai o fudd i’r gymuned leol a’r ardal ehangach.
Dywedodd y Gweinidog: “Mae gan ogledd Cymru y potensial i fod yn arweinydd gwirioneddol ym maes cynhyrchu ynni carbon isel, ac mae cynlluniau Cwmni Egino yn rhan hanfodol o hyn, gan ddod â swyddi o ansawdd uchel a chyfleoedd i’r ardal.
“Rwyf wedi cael y pleser o gwrdd â’r tîm ar y safle, a chlywed am y cynnydd sy’n cael ei wneud ar gynigion a fyddai’n golygu mai Trawsfynydd fyddai’r safle cyntaf ar gyfer adeiladu adweithydd modiwlar bach yn y DU.
“Mae llawer o waith o’n blaenau, ond mae’r rhain yn gynlluniau cyffrous ac uchelgeisiol a all roi hwb i ddatblygu sgiliau a sicrhau manteision gwirioneddol ar gyfer yr ardal.”
Dywedodd Prif Weithredwr Cwmni Egino, Alan Raymant: “Roedd yn bleser gwrdd â’r Gweinidog yn Nhrawsfynydd yr wythnos diwethaf, ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn am gymorth parhaus Llywodraeth Cymru.
“Yn ogystal â helpu i fodloni’r galw am ynni a thargedau sero net, mae gennyn ni gyfle cyffrous i sicrhau manteision parhaol i gymunedau lleol, yn ogystal â hyrwyddo’r gadwyn gyflenwi, datblygu sgiliau a thwf economaidd-gymdeithasol yn ardal ehangach gogledd Cymru a’r tu hwnt.
“Byddwn ni’n parhau i ganolbwyntio yn gryf ar sicrhau’r manteision hyn wrth inni ddatblygu ein hachos busnes ar gyfer datblygu a buddsoddi yn y rhaglen.”
Nodiadau i olygyddion
Llun: Alan Raymant Prif Weithrediwr Cwmni Egino, y Gweinidog, John Idris Jones