
£13.7m i drawsnewid gwasanaethau a lleihau amseroedd aros ADHD ac awtistiaeth
£13.7m to transform services and cut ADHD and autism waiting times
Bydd £13.7m arall yn cael ei fuddsoddi i wella gwasanaethau niwrowahaniaeth a lleihau amseroedd aros ar gyfer asesiadau ADHD ac awtistiaeth ledled Cymru.
Mae'r galw am wasanaethau niwrowahaniaeth wedi tyfu'n gyflym yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda mwy o ymwybyddiaeth o gyflyrau niwrowahanol yn arwain at filoedd o bobl yn ceisio asesiadau a chymorth.
Bydd y cyllid newydd yn ymestyn gwaith y Rhaglen Gwella Gwasanaethau Niwrowahaniaeth Genedlaethol i drawsnewid gwasanaethau a chefnogi'r Tîm Niwrowahaniaeth Cenedlaethol tan fis Mawrth 2027. Bydd hyn yn adeiladu ar y £12m a fuddsoddwyd dros y tair blynedd diwethaf a'r £3m a dargedwyd i leihau'r amseroedd aros hiraf ar gyfer asesiadau plant ym mis Tachwedd.
Wrth nodi dechrau Wythnos Iechyd Meddwl Plant (3-9 Chwefror), dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy y bydd y cyllid newydd yn helpu i drawsnewid gwasanaethau niwrowahaniaeth dros y ddwy flynedd nesaf.
"Rydyn ni'n gwybod bod angen newid radical yn y sector hwn ac rydyn ni'n gweithio gyda'r Gwasanaeth Iechyd a gwasanaethau i wella cymorth hirdymor i blant ac oedolion niwrowahanol, a'u teuluoedd," meddai.
"Yn wyneb y galw digynsail am ddiagnosis a thriniaeth, rydyn ni wedi gwneud cynnydd sylweddol i ddatblygu gwasanaethau integredig.
"Bydd y buddsoddiad pellach hwn yn helpu i leihau amseroedd aros ar gyfer asesiadau wrth sicrhau bod cymorth cynaliadwy ar gael i'r rhai sydd ei angen."
Mae'r Rhaglen Gwella Gwasanaethau Niwrowahaniaeth eisoes wedi cyflawni gwelliannau sylweddol, gan gynnwys:
- Ymestyn hyfforddiant ar gyfer y gweithlu ar draws y meysydd iechyd, gofal cymdeithasol, addysg ac arbenigeddau
- Treialu offer proffilio arloesol a arweinir gan anghenion
- Gwella systemau casglu a chofnodi data
- Sefydlu perthnasoedd cydweithredol cryfach rhwng sefydliadau
- Treialu modelau cyflenwi gwasanaethau integredig newydd
- Cynnal digwyddiad dylunio carlam Cymru gyfan
Mae prosiect Chwalu Mythau Bwrdd Niwroamrywiol Gorllewin Morgannwg yn enghraifft o wasanaeth cymorth newydd. Nod y prosiect yw hybu dull sy'n seiliedig ar gryfderau a arweinir gan anghenion i gefnogi disgyblion niwrowahanol, gan symud i ffwrdd o gymorth sy'n ddibynnol ar ddiagnosis.
Drwy fentrau fel sesiynau Amser i Siarad, deunyddiau adnoddau a chynnwys digidol, mae'n sicrhau bod gan ysgolion a rhieni yr offer a'r strategaethau ymarferol i greu amgylcheddau dysgu mwy cynhwysol.
Ychwanegodd y Gweinidog: "Rydyn ni'n canolbwyntio ar greu dull sy'n cael ei arwain gan anghenion i ddarparu cymorth a chefnogaeth yn gynnar, wrth weithio i leihau amseroedd aros. Mae'r buddsoddiad hwn yn dangos ein hymrwymiad i ddatblygu gwasanaethau cynaliadwy ac integredig sy'n gwasanaethu pobl niwrowahanol yn well ledled Cymru."
Dywedodd Julie Davies, cadeirydd Rhaglen Niwroamrywiol Gorllewin Morgannwg a Phennaeth Gwasanaethau Oedolion a Phlant Cyngor Abertawe:
"Rydyn ni'n falch iawn o glywed bod y Rhaglen Niwrowahaniaeth wedi cael ei hymestyn. Bydd y cyllid parhaus yn allweddol wrth fynd i'r afael ag anghenion penodol unigolion, ein hymdrechion i leihau amseroedd aros, a datblygu dulliau arloesol o gefnogi cymunedau niwroamrywiol."