English icon English

£150m ar gyfer inswleiddio, ynni glân a lleihau carbon mewn tai cymdeithasol

£150m for insulation, clean energy and carbon reduction in social homes

Mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Lee Waters wedi cyhoeddi £150m ychwanegol i ôl-osod tai cymdeithasol gyda thechnolegau newydd ac inswleiddiad i helpu i ffrwyno allyriadau Cymru.

Wrth siarad mewn cynhadledd i’r wasg eglurodd y Dirprwy Weinidog sut bydd ‘Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio’ Llywodraeth Cymru yn asesu pa dechnolegau sy’n gweithio orau mewn cartrefi unigol i sicrhau’r effeithlonrwydd ynni gorau, gwerth am arian a’r cymwysterau amgylcheddol gorau.

Bydd y rhaglen yn arwain at gartrefi yn cael eu hinswleiddio cystal fel na fydd gwres yn dianc yn wastraffus bellach.

Bydd y cyllid hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gosod technolegau clyfar yn eu lle fel bod tenantiaid yn gallu rheoli eu defnydd o ynni yn y ffordd orau ac i osod cymysgedd o dechnolegau glân fel pympiau gwres, paneli solar a storfeydd batri yn eu lle.

Mae tai ymhlith y pethau sy’n creu’r allyriadau mwyaf yng Nghymru, gan gyfrif am 9% o’r holl allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Yr haf yma, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru waharddiad ar danwydd ffosil i gynhesu tai cymdeithasol sy’n cael eu hadeiladu o’r newydd, gydag uchelgais i'r sector preifat wneud yr un peth erbyn 2025.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i adeiladu 20,000 o dai cymdeithasol carbon isel i'w rhentu yn ystod y pum mlynedd nesaf.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters:

“Heddiw, rydw i'n cyhoeddi £150m yn ychwanegol i wella effeithlonrwydd ynni tai cymdeithasol presennol yng Nghymru drwy ein Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio.

Bydd y buddsoddiad hwn nid yn unig yn lleihau allyriadau, ond hefyd yn lleihau biliau ynni'r bobl sy'n byw ynddynt.

Ac rydyn ni eisoes yn treialu pympiau gwres, systemau ynni deallus a phaneli solar gyda storfa batri.

Rydyn ni'n defnyddio dull tai cyfan o weithredu, sy'n asesu'r hyn a fydd yn gweithio orau mewn cartrefi unigol. Bydd y rhaglen yn arwain at dai sy'n cael eu hinswleiddio mor dda fel na fydd gwres yn dianc yn wastraffus mwyach.

Bydd y cyhoeddiad heddiw yn helpu miloedd yn rhagor o deuluoedd i fod yn gynnes yn eu cartrefi ac yn cefnogi pontio priodol tuag at ddatgarboneiddio.