English icon English

£2.1m i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol mewn addysg bellach

£2.1m for young people with additional learning needs in further education

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, wedi cyhoeddi cyllid newydd dros dair blynedd i wella profiadau myfyrwyr addysg bellach ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).

Bydd y cyllid yn cael ei roi i bob coleg addysg bellach yng Nghymru i'w helpu i weithredu'r Ddeddf ADY, sy'n cael ei chyflwyno'n raddol dros dair blynedd gan gymryd lle y system anghenion addysgol arbennig (AAA) bresennol.

Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i wella profiadau addysgol ac i helpu colegau i ddarparu cymorth wedi'i deilwra i fyfyrwyr drwy eu cynlluniau datblygu unigol. Bydd hefyd yn cefnogi dull mwy cyson o ymdrin ag ADY mewn colegau ledled Cymru drwy eu helpu i ddatblygu partneriaethau ag awdurdodau lleol, byrddau iechyd, colegau eraill ac ysgolion.

Mae prosiect Camu Mlaen Coleg Ceredigion yn enghraifft o sut y bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio. Yn hanesyddol, mae’r bobl ifanc â'r anghenion mwyaf cymhleth a difrifol wedi bod yn gorfod gadael eu cymuned leol i gael mynediad at addysg a hyfforddiant. Mae Coleg Ceredigion a Chyngor Sir Ceredigion wedi cydweithio i newid hyn drwy’r prosiect Camu Mlaen, felly gall pobl ifanc yn awr gael addysg sgiliau bywyd yn eu hardal leol. Bydd y cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd heddiw yn helpu'r coleg i ddatblygu'r prosiect hwn a bydd yn creu cyfleoedd i golegau eraill weithio ar brosiectau tebyg.  

Dywedodd Jeremy Miles:

"Mae pob person ifanc yng Nghymru yn haeddu mynediad at addysg o ansawdd uchel. Rwyf am sicrhau bod pob dysgwr yn gallu gwireddu ei botensial.

“Bydd y buddsoddiad hwn yn creu gwahaniaeth go iawn i bobl ifanc ac yn cynyddu'r cyfleoedd a'r opsiynau sydd ar gael iddynt yn eu coleg lleol.”

Ychwanegodd Chris Denham, Arweinydd Trawsnewid ADY, ColegauCymru:

“Mae ColegauCymru o’r farn y dylai pob person ifanc gael mynediad at addysg bellach a hyfforddiant o ansawdd uchel ac y dylai hyn, pan fo modd, fod ar gael yn eu cymuned eu hunain. Bydd yr ymrwymiad diweddaraf hwn gan Lywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau hyn.

“Mae gweithredu system ADY ym maes addysg ôl-16 wedi rhoi ffocws a chyfle i golegau wella profiad addysg bellach i bobl ifanc. Mae pob un o'r 13 o golegau yng Nghymru wedi bod yn gweithio'n galed i sicrhau y bydd eu darpariaeth yn eu galluogi nhw i gyflawni eu dyletswyddau newydd o dan y Ddeddf ADY.”