English icon English

£2.4m i brosiectau i leihau allyriadau GIG Cymru

£2.4m for projects to reduce NHS Wales emissions

Bydd syniadau ar gyfer prosiectau uchelgeisiol i leihau allyriadau carbon ar draws GIG Cymru yn cael cyfran o £2.4 miliwn fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.

Bydd Rhaglen Genedlaethol Argyfwng yr Hinsawdd Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ariannu prosiectau gan fyrddau iechyd a chyrff y GIG mewn ymgais i sicrhau lleihad o fwy na thraean mewn allyriadau carbon erbyn 2030.

Mae GIG Cymru yn cynhyrchu allyriadau sy’n gyfwerth â thua 1 miliwn tunnell o CO2 y flwyddyn. Mae’n cynhyrchu mwy o allyriadau na’r un corff arall yn sector cyhoeddus Cymru.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Gynllun Cyflenwi Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru y llynedd. Roedd yn cynnwys 46 o fentrau i helpu GIG Cymru i chwarae ei ran tuag at uchelgais 2030. Bydd hyn yn helpu Cymru i gyrraedd ei tharged deddfwriaethol cyffredinol, sef Sero Net erbyn 2050.

Roedd y strategaeth yn cynnwys trydaneiddio cerbydau fflyd, defnyddio goleuadau carbon isel yn holl adeiladau’r GIG, lleihau’r defnydd o nwyon niweidiol a dylunio system iechyd a gofal cymdeithasol y dyfodol i fod mor garbon isel â phosibl.

Dywedodd Prif Weithredwr GIG Cymru Judith Paget:

“Gan fod Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru yn cynhyrchu mwy o CO2 na’r un corff arall yn y sector cyhoeddus, mae angen iddo chwarae ei ran i ddiogelu iechyd a lles cenedlaethau’r dyfodol.

“Gallwn ni i gyd helpu’r ymdrech hon drwy ddychwelyd meddyginiaeth sydd heb ei defnyddio i’r fferyllfa, gofyn am anadlydd mwy cynaliadwy neu gerdded, beicio neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i fynd i apwyntiadau.

“Rydym hefyd yn annog ceisiadau gan gyrff y Gwasanaeth Iechyd am hyd at £60,000 yn y flwyddyn gyntaf ar gyfer mentrau bach a chanolig i leihau allyriadau carbon neu helpu’r sector i addasu i effeithiau’r newid yn yr hinsawdd.”

Un o’r ffyrdd y mae GIG Cymru yn mynd ati i leihau allyriadau carbon yw drwy leihau’r defnydd o anadlyddion sydd â photensial cynhesu byd-eang (GWP) uchel, o dros 70 y cant i lai nag 20 y cant erbyn 2025.

Gall pobl sy’n defnyddio anadlyddion ofyn i’w presgripsiynydd newid eu hanadlydd arferol am un carbon isel.

Dywedodd Dr Thomas Downs, Meddyg Iau, sylfaenydd Grŵp Gwyrdd Ysbyty Gwynedd, un o Gymrodyr Comisiwn Bevan ac aelod o dîm Iechyd Gwyrdd Cymru:

“Hyd yma, mae llawer o’r gwaith i wneud ein gofal iechyd yng Nghymru yn fwy cynaliadwy ac yn fwy doeth o ran yr hinsawdd wedi bod yn wirfoddol, gyda grwpiau gwyrdd ysbytai a rhwydweithiau gwyrdd arbenigol yn cael eu datblygu ar draws Cymru, fel rhan o’n rhwydwaith Iechyd Gwyrdd Cymru. Bydd y cyllid hwn gan Lywodraeth Cymru yn cael ei groesawu’n fawr gan y dylai gynyddu gallu gweithwyr iechyd i weithredu. Y gobaith yw y bydd hyn yn ein galluogi i drosi’n gynt at ofal iechyd mwy amgylcheddol gynaliadwy a chadarn.

 “A ninnau’n weithwyr iechyd, rydym yn cydnabod bod iechyd a lles pobl, a’n gallu i ddarparu gofal iechyd cynaliadwy, yn dibynnu ar hinsawdd a byd natur iach. O ganlyniad, mae ein dyletswydd broffesiynol i “wneud dim niwed” yn mynd y tu hwnt i’n clinigau a’n hysbytai i’r amgylchedd yr ydym yn ei rannu ac y mae iechyd a lles ein cleifion yn dibynnu arno.”

Rhaid i brosiectau sy’n gymwys am y £2.4 miliwn o gyllid gyfrannu at yr uchelgais i sector cyhoeddus Cymru yn ei gyfanrwydd fod yn Sero Net erbyn 2030 a/neu gynyddu gallu i ymdopi ag effeithiau’r newid yn yr hinsawdd, drwy wneud y canlynol:

  • Cefnogi gweithgareddau cyfathrebu, ymgysylltu neu newid ymddygiad sy’n helpu i ymwreiddio’r agenda newid hinsawdd o fewn y sefydliad, a/neu
  • Ysgogi’r gwaith o weithredu cynlluniau datgarboneiddio ar lefel sefydliad, gan gynnwys drwy ariannu mentrau neu swyddi penodol, a/neu
  • Ariannu mentrau neu weithgarwch arloesol bach a chanolig ar lawr gwlad.

Gall cyrff y GIG gael rhagor o wybodaeth neu ofyn am ffurflen gais ar gyfer y cyllid drwy e-bostio igc.argyfwnghinsawdd@llyw.cymru