£2.5m yn ychwanegol i helpu mwy o bobl ifanc i gael gwaith neu hyfforddiant pellach
Extra £2.5m to support more young people into work or further training
Mae rhaglen sy'n darparu'r sgiliau, y cymwysterau a'r profiad sydd eu hangen ar bobl ifanc i gael swydd, neu barhau â'u hyfforddiant neu ddychwelyd i addysg yn cael £2.5m o gyllid ychwanegol.
A’r rhaglen honno yw Twf Swyddi Cymru+ sy’n cynnig cyfleoedd i bobl ifanc 16-19 oed gael cyngor, hyfforddiant ac addysg, fel eu bod yn ennyn yr hyder i wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth ynghylch cael hyfforddiant, gwaith teg neu ddechrau busnes.
Drwy’r rhaglen mae pobl ifanc yn cael cymorth wedi'i dargedu i hybu eu hyder, gan sicrhau bod ganddynt bopeth sydd ei angen arnynt i fanteisio ar gyfleoedd – sy'n cynnwys oriau hyfforddi hyblyg, yn ogystal â help gyda chostau teithio, costau gofal plant ac offer arbenigol.
Mae hyfforddiant yn y gwaith hefyd ar gael, gan roi cyfle iddynt gael eu troed yn y drws a chael blas ar waith a allai fod o ddiddordeb iddynt – ac mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cymorthdal cyflogau o hyd at 50% o gyflogau'r chwe mis cyntaf.
Mae cyllid ychwanegol wedi'i gyhoeddi mewn ymateb i'r galw mawr am y rhaglen newydd boblogaidd a lansiwyd yn 2022.
Wrth ymweld â darparwr dysgu seiliedig ar waith Twf Swyddi Cymru+ – sef Itec – yn eu canolfan sgiliau a chyflogaeth yng Nghwmbrân, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi y bydd £2.5m o gyllid yr UE yn helpu i gynyddu'r ddarpariaeth ledled Cymru am weddill y flwyddyn ariannol.
Mae Teagon Mallon eisoes wedi cael cymorth, a dywedodd:
"Mae Itec yn lle anhygoel a diogel i bobl ifanc fynd am help. Cwrddais i â phobl wych yno a oedd yn helpu ei gilydd i dyfu mewn sawl ffordd.
"Mae Itec bob amser yn chwilio am bethau hwyliog newydd i'w gwneud gyda myfyrwyr ac yn cynnig llawer o gyfleoedd i chi wneud pethau nad oeddech chi erioed wedi meddwl y byddech chi'n eu mwynhau. Fe wnaethon nhw fy helpu i gael swydd, ac mae honno’n swydd rwy'n ei charu'n llwyr."
Mae Twf Swyddi Cymru+ yn elfen allweddol o gynllun Llywodraeth Cymru, sef y Warant i Bobl Ifanc.
Nod y Warant i Bobl Ifanc yw cynnig cymorth i bobl ifanc rhwng 16-24 oed yng Nghymru ennill lle mewn addysg neu hyfforddiant, dod o hyd i swydd neu ddod yn hunangyflogedig.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
"Mae wedi bod yn wych cwrdd â phobl ifanc yma heddiw sy'n neidio am y cyfleoedd y mae ein rhaglen Twf Swyddi Cymru + yn eu cynnig.
"Mae Llywodraeth Cymru o ddifrif am fuddsoddi mewn pobl ifanc a'u sgiliau i'w helpu i gynllunio dyfodol mwy uchelgeisiol yng Nghymru. Mae pobl ifanc wedi wynebu caledi gwirioneddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac er bod cyllideb Llywodraeth Cymru dan bwysau aruthrol, mae'r cyllid ychwanegol hwn yn dangos sut rydyn ni'n gwneud y mwyaf o'r hyn y gallwn ni ei wneud gyda'r arian sydd gennym.
"Drwy roi help i fanteisio ar y cyfleoedd cywir ar yr adeg iawn, rydyn ni'n helpu pobl ifanc, a fyddai fel arall yn cael eu dal yn ôl, i gael mwy o reolaeth dros eu dyfodol. Rwy'n falch iawn bod ein rhaglen Twf Swyddi Cymru + wedi bod mor boblogaidd, a'n bod ni'n gallu buddsoddi mwy drwy fanteisio ar yr arian sy'n weddill gan yr UE – fel y gall mwy o bobl ifanc oresgyn rhwystrau ac adeiladu dyfodol mwy disglair."