English icon English

£2.7m i wella adrannau argyfwng ac unedau mân anafiadau ledled Cymru

£2.7m to improve emergency departments and minor injury units across Wales

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd adrannau argyfwng ac unedau mân anafiadau yng Nghymru yn cael cyfran o £2.7m i wella amgylcheddau a gwella profiad y claf a'r staff

Bydd y cyllid a rennir yn cefnogi gwahanol gynigion a gyflwynir gan bob bwrdd iechyd yng Nghymru ar gyfer amrywiaeth eang o faterion megis:

  • gwella hygyrchedd,
  • gwella mynediad at wybodaeth,
  • mesurau atal a rheoli heintiau,
  • gwella diogelwch,
  • addasiadau ar gyfer defnyddio gofod yn fwy effeithiol,
  • a gwelliannau cyffredinol i'r ystâd.

Bydd y buddsoddiad hwn yn cynnwys creu ardaloedd aros a chynyddu nifer y ciwbiclau asesu a thriniaeth, ychwanegu at gapasiti adrannau argyfwng ac unedau mân anafiadau drwy greu mwy o le a lleihau'r pwysau sy'n digwydd oherwydd bod ardal dan ei sang â phobl, er mwyn ei gwneud yn haws darparu gofal i gleifion mewn modd amserol.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:

"Fe gawson ni adborth hynod gadarnhaol oddi wrth staff a chleifion yn dilyn ein buddsoddiadau a'n huwchraddiadau mewn adrannau argyfwng ac unedau mân anafiadau y llynedd.

Rydyn ni’n bwriadu parhau i wneud hyn er mwyn helpu i wella gofal cleifion a staff.

Dylai ein buddsoddiad o £2.7 miliwn wella profiad y claf a'r staff mewn ystafelloedd aros, ac wrth iddynt gyrchu neu ddarparu gofal a thriniaeth ar draws yr adrannau.

Mae ein hadrannau argyfwng bob amser ar agor, ac yn barod i gefnogi'r rhai sydd â chyflyrau sy'n peryglu bywyd a chyflyrau sy'n gofyn am ymateb brys.

Serch hynny, gall pob un ohonom chwarae ein rhan drwy helpu i leihau rhywfaint o'r pwysau sydd ar ein gwasanaethau argyfwng, drwy ystyried a oes gwir angen inni fynd i adran argyfwng, neu a fyddai opsiwn gwell a chyflymach, fel defnyddio uned mân anafiadau pwrpasol neu wasanaeth am ddim GIG 111 Cymru a gwasanaethau fferyllwyr cymunedol."

Nodiadau i olygyddion

Sefydliad

Cyllid (gan gynnwys TAW) £m

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

0.145

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

0.523

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

0.528

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

0.580

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

0.397

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

0.180

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

0.347

Cyfanswm

2.700

Dyma rai o'r prosiectau i gyflwyno gwelliannau mewn adrannau argyfwng ac unedau mân anafiadau sydd wedi'u cymeradwyo ar gyfer cael cyllid:

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

  • Ysbyty Athrofaol y Faenor: ail-ddylunio i greu seddi ychwanegol, gosod banciau gwefru ffônau symudol, ystafell frysbennu newydd, ardal rheoli heintiau, trolïau cleifion ar gyfer brysbennu mamolaeth, ac unedau asesu gynae brys
  • Ysbyty Brenhinol Gwent: creu unedau meddygol acíwt, ardal aros i blant, gosod hysbysfyrddau mewn ystafelloedd aros, a sgriniau teledu.
  • Ysbyty Ystrad Fawr: trolïau cleifion ar gyfer yr uned mân anafiadau, seddi ychwanegol, ystafelloedd ar gyfer storio cyflenwadau

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

  • Uned Mân Anafiadau Ysbyty Bryn Beryl : defnyddio gofod mewn modd sy'n gwella gwasanaethau er mwyn ei gwneud yn haws i fwy o bobl fynychu'r uned
  • Ysbyty Gwynedd: uwchraddio man storio meddyginiaethau brys y fferyllfa ac ymestyn system larwm cloch y galwadau argyfwng
  • Uned Asesiadau Pediatrig Ysbyty Gwynedd: uned trin aer ac ardal adfywio
  • Ysbyty Glan Clwyd: uwchraddio mynedfeydd ambiwlans, gosod mynediad cerdyn allwedd at dderbynfa'r adran argyfwng, creu canolfan ar gyfer pob sgrin sy'n ymwneud â pherfformiad yr adran argyfwng, a mannau ar gyfer gwefru ffônau symudol yn yr ystafell aros.
  • Uned Mân Anafiadau – Dinbych/Yr Wyddgrug: gwelliannau i ystafelloedd triniaeth ac ardaloedd cyffredinol
  • Maelor Wrecsam: rhannu canolfan driniaeth frys i ddarparu gofod clinigol ychwanegol, a chanopi i fynedfa'r ganolfan driniaeth frys i sicrhau nad fydd unrhyw berygl llithro pan fydd cleifion yn dod i mewn.
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr cyfan: creu canolfan gofal brys a gofal mewn argyfwng i gefnogi'r gallu trosfwaol i fonitro pob un o'r 3 adran argyfwng a 7 uned mân anafiadau, i helpu gydag ailgyfeirio a rheoli'r llif – gan gysylltu ag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i sicrhau mynediad at yr holl wasanaethau mewn amser real a lleihau'r angen am gludiant estynedig.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

  • Ysbyty Athrofaol Cymru: creu ystafell iechyd meddwl, adnewyddu coridorau rhwng unedau argyfwng a lifftiau, uwchraddio nwy meddygol, larymau ffrwgwd newydd ar gyfer ystafelloedd brysbennu i wella diogelwch cleifion, staff ac ymwelwyr, sgriniau rhannu ar gyfer mannau cadeiriau unigol ar gyfer triniaeth fewnwythiennol er mwyn gwella urddas cleifion, a gosod arwyddion cliriach.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

  • Ysbyty'r Tywysog Siarl: cyfleusterau cawod yn ardal gofal triniaethau dydd yr adran argyfwng, sgriniau digidol ar gyfer system gwybodaeth i gleifion er mwyn rhoi'r wybodaeth berthnasol i gleifion yn ystafell aros i blant yr adran argyfwng, ystafell frysbennu yn y brif dderbynfa.
  • Ysbyty'r Tywysog Siarl ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg: Intercom a theledu cylch cyfyng ar gyfer yr ardal damweiniau ac achosion brys, a system galw nyrs mewn baeau triniaeth yr adran argyfwng.
  • Tywysoges Cymru: goleuadau allanol i wella diogelwch cleifion a staff wrth fynd i mewn ac allan o'r adran argyfwng y tu allan i oriau.
  • Ysbyty Brenhinol Morgannwg: gwaith celf i wella'r amgylchedd i blant a phobl ifanc yn yr adran argyfwng.
  • Uned Mân Anafiadau Ysbyty Cwm Rhondda: capasiti ychwanegol yn yr ardal aros gyda seddi cyfforddus.
  • Ysbyty'r Tywysog Siarl, Tywysoges Cymru, Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Ysbyty Cwm Cynon, ac Ysbyty Cwm Rhondda: darpariaeth bwyd a diodydd poeth y tu allan i oriau ar gyfer yr adran argyfwng a'r uned mân anafiadau, ac arwyddion digidol i ddangos pa wasanaeth sydd ar gael a ble i ddod o hyd iddo, a hefyd darparu gwell Wi-Fi a chyfleusterau gwefru.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

  • Ysbyty Cyffredinol Bronglais:  ailaddurno ardal aros y cleifion ac ardal y staff, gosod system newydd yn lle'r system wrth gefn sy'n heneiddio er mwyn sicrhau bod cyflenwad pŵer di-dor.
  • Ysbyty Cyffredinol Glangwili: socedi trydan ychwanegol ar gyfer offer clinigol ac ystafell newydd ar gyfer cyflenwadau.
  • Uned Mân Anafiadau/Uned Asesiadau Meddygol Acíwt Ysbyty'r Tywysog Philip: adfer ystafelloedd gwlyb er mwyn i gleifion sy'n aros am welyau meddygol allu cael cawod.
  • Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg : trolïau bwyd a diod
  • Pob safle:  Rhoi goleuadau visualite synhwyraidd a lles gweledol yn y nenfwd i greu amgylchedd tawelu, yn enwedig i blant â phroblemau synhwyraidd neu anableddau dysgu.

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

  • Ysbyty Coffa'r Rhyfel Aberhonddu: lloriau a dodrefn newydd, gwell deledu cylch cyfyng a diogelwch, a sgrin gwybodaeth i gleifion
  • Ysbyty Cymunedol Ystradgynlais Adnewyddu ystafell driniaeth yr uned mân anafiadau

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

  • Adran Argyfwng Ysbyty Treforys: gwelyau archwilio i wella ergonomeg ac effeithlonrwydd o fewn ardal y bae, a gosod silffoedd.
  • Adran Argyfwng Ysbyty Treforys: ail-ddylunio'r gofod i ddarparu gofod diogel i'r glasoed ac ad-drefnu baeau i wella effeithlonrwydd a rheoli'r llif.
  • Uned Asesu Pediatreg Ysbyty Treforys: lledaenu'r ystafell asesu i'w gwneud yn haws symud claf ar wely mewn argyfwng os bydd claf yn dirywio.
  • Uned Mân Anafiadau Ysbyty Castell-nedd Port Talbot: ad-drefnu'r ystafelloedd i ddarparu lle ar gyfer 2 ymgynghorydd newydd, ac offer arbenigol i hwyluso gwaith radiograffwyr sy'n gweithio o gartref.