English icon English

£20.8 miliwn i wella trafnidiaeth gyhoeddus a chefnogi twf economaidd yn y gogledd

£20.8m to improve public transport and support economic growth in north Wales

Mae Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth, wedi cyhoeddi bod dros £20.8 miliwn yn cael eu buddsoddi i wella trafnidiaeth gyhoeddus a hyrwyddo twf economaidd.

Gwahoddwyd yr awdurdodau lleol i gyflwyno cynigion i Lywodraeth Cymru er mwyn iddynt gael mynd ati i wella trafnidiaeth leol yn eu hardaloedd mewn ffordd a fydd o gymorth i wireddu'r blaenoriaethau a'r amcanion yn Strategaeth Drafnidiaeth Cymru - Llwybr Newydd. Dyma rai o'r blaenoriaethau hynny: 

  • Mynd i'r afael ag achosion o dywydd garw yn tarfu ar y rhwydwaith priffyrdd 
  • Gwella diogelwch ar y ffyrdd 
  • Darparu llwybrau cerdded a beicio 
  • Gwella amseroedd teithio ar fysiau a gwella cyfleusterau aros  
  • Darparu seilwaith gwefru cerbydau trydan fydd ar gael i'r cyhoedd

Mae'r cymorth sylweddol hwn, y bwriedir iddo helpu cynghorau lleol i wella trafnidiaeth yn eu hardal, yn cynnwys cyllid ar gyfer Teithio Llesol a Llwybrau Diogel, Diogelwch ar y Ffyrdd, cyfleusterau gwefru cerbydau trydan, gwella gallu ffyrdd i ymdopi â thywydd garw, trafnidiaeth leol, a ffyrdd heb eu mabwysiadu.  

Yn y gogledd, bydd £20.8 miliwn yn cael eu buddsoddi mewn prosiectau fel gwella cysylltiadau cerdded a beicio i Orsaf Llandudno, creu llwybr mwy diogel er mwyn cerdded neu fynd ar sgwter neu feic i Ysgol Gynradd Treffynnon ac Ysgol Gynradd Maes y Felin yn Nhreffynnon. Bydd buddsoddiad hefyd mewn llwybr teithio llesol i gysylltu Gorsaf Reilffordd a Therfynfa Fferïau Caergybi â safleoedd cyflogaeth a manwerthu Penrhos,  y ganolfan hamdden, Parc Cybi a Bae Trearddur.  

Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio hefyd i barhau â gwasanaeth bws Sherpa'r Wyddfa o amgylch Eryri.  

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth: “Mae'r grantiau 'ma'n fuddsoddiad sylweddol i gefnogi twf cynaliadwy yn yr economi leol, i wella cyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus, ac i greu a gwella llwybrau a fydd yn galluogi ac yn annog rhagor o bobl Cymru i gerdded a beicio. 

“Mae'r prosiectau 'ma'n enghreifftiau penigamp o'r atebion ymarferol rydyn ni wedi gofyn i'r awdurdodau lleol eu dylunio er mwyn ei gwneud yn haws i drigolion gyrraedd eu gweithleoedd a'u busnesau, ac i wneud hynny mewn ffordd fwy cynaliadwy.” 

Mae'r cyllid hwn hefyd yn ychwanegu at ddyraniadau a roddwyd mewn blynyddoedd blaenorol ar gyfer camau gwahanol rhai o'r prosiectau.