English icon English

Newyddion

Canfuwyd 17 eitem, yn dangos tudalen 1 o 2

Welsh Government

Ken Skates yn croesawu addewid rheilffyrdd Llywodraeth y DU

Mae Ysgrifennydd Cabinet Gogledd Cymru a Thrafnidiaeth, Ken Skates wedi croesawu cynlluniau gan Lywodraeth y DU i ddechrau'r broses o ddod â gwasanaethau rheilffyrdd i berchnogaeth gyhoeddus ym Mhrydain Fawr

Welsh Government

Fframwaith newydd i gefnogi cynghorau ar 20mya

Mae canllawiau newydd i gefnogi awdurdodau priffyrdd wrth wneud penderfyniadau ar derfynau cyflymder lleol wedi'u cyhoeddi heddiw.

Construction2

'Adeiladu’n allweddol i greu Cymru gynaliadwy' – Jeremy Miles

Bydd angen 11,000 o weithwyr adeiladu ychwanegol ar Gymru i gefnogi economi sy'n tyfu, meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg mewn Uwchgynhadledd Adeiladu yng Nghyffordd Llandudno.

Welsh Government

Ffair swyddi a chynhadledd i gyn-filwyr yn y Gogledd gyntaf

Mae'r ffair swyddi a'r gynhadledd gyntaf ar gyfer cyn-filwyr, y rhai sy'n gadael y lluoedd arfog a'u teuluoedd yn y Gogledd wedi cael ei chynnal yn Wrecsam. Roedd yn meithrin cysylltiad uniongyrchol rhwng cymuned y Lluoedd Arfog a chyflogwyr lleol a chenedlaethol.

Cynhaliwyd y ffair swyddi ochr yn ochr â chynhadledd i gyflogwyr, a thynnwyd sylw at y llu o fanteision y gall cyn-filwyr eu cynnig i'r gweithle.

Roedd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth, sydd â chyfrifoldeb dros y lluoedd arfog, yn y digwyddiad.

Dywedodd: "Mae'n bleser arbennig i mi fod yn y digwyddiad hwn yn y Gogledd, ac i gwrdd â rhai o'r cyn-filwyr a'r cyflogwyr sydd wedi dod yma.  

"Mae 25 o gyflogwyr yn y  digwyddiad hwn  ac mae ganddynt swyddi ar hyn o bryd. Mae'n dda gweld sut y gallant feithrin cysylltiadau â chyn-filwyr.  Mae'r gynhadledd, sy'n cael ei chynnal ochr yn ochr â'r ffair, hefyd yn rhoi cyfle i gyflogwyr glywed am y manteision y gall cyflogi cyn-filwyr a'r rhai sy'n gadael y lluoedd arfog eu cynnig i fusnesau.

"Mae'r cyflogwyr sydd wedi dod i'r digwyddiad yn cynnwys, er enghraifft, Trafnidiaeth Cymru, deiliaid Gwobrau Aur yn y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr, a chwmni sy'n hynod gefnogol i'r syniad o ddatblygu amgylchedd gwirioneddol gynhwysol i gymuned y Lluoedd Arfog.

"Mae gan ein cyn-filwyr sgiliau a phrofiad unigryw a all fod o fudd gwirioneddol i gyflogwyr.  Rwy'n falch bod 172 o gyflogwyr yn y Gogledd, hyd yma, wedi addo cefnogi hyn, trwy lofnodi cyfamod y Lluoedd Arfog."

Dywedodd Julianne Williams o elusen Cyflogaeth y Lluoedd Arfog: "Yn bersonol, Ffair Gyflogaeth Cymru yw uchafbwynt y flwyddyn i mi, gan fy mod yn cael ymwneud â chronfa o dalent o Gymru, boed hynny yn y cwmnïau yng Nghymru, neu ymhlith y rhai sy'n dal i wasanaethu yn y lluoedd arfog neu'n gyn-filwyr. Rwy'n gyn-filwr gyda'r Awyrlu Brenhinol a bûm yn gwasanaethu am 25 mlynedd a dewisais ddod yn ôl adref a dod o hyd i waith yng Nghymru.   Hoffwn pe bai rhywbeth fel hyn wedi bod ar gael i mi pan adewais i'r lluoedd arfog."

 

Welsh Government

Gwaith hanfodol ar yr A465 am bum wythnos

Cynghorir modurwyr y bydd rhan yr A465 rhwng cyffordd yr A470 (Cefn Coed) a'r gylchfan dros dro yn Ystâd Ddiwydiannol Pant ar gau yn llawn am bum wythnos yr haf hwn, er mwyn caniatáu i waith pwysig gael ei gwblhau yn gynt a gyda llai o ansicrwydd i'r cyhoedd sy'n teithio.

Welsh Government

"Mae'r data diweddaraf am wrthdrawiadau ffyrdd yn dangos bod pethau'n symud i'r cyfeiriad cywir", medd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth.

Mae data  newydd a gyhoeddwyd heddiw am wrthdrawiadau ffyrdd yn dangos bod anafiadau wedi lleihau ar ffyrdd ers cyflwyno'r terfynau cyflymder newydd o 20mya ym mis Medi'r llynedd.

Welsh Government

Cymru yn 'barod' i ddiwygio'r rheilffyrdd ac yn galw ar Lywodraeth y DU i fod yn fwy uchelgeisiol

Yn ei ymddangosiad cyntaf ym Mhwyllgor Trafnidiaeth Senedd y DU fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth, nododd Ken Skates ei dri chais i Lywodraeth y DU yn ogystal â'i uchelgais am system gwbl integredig, effeithlon sy'n diwallu anghenion teithwyr Cymru.

Welsh Government

'Gadewch i ni benderfynu gyda'n gilydd ar y cyflymder iawn ar y ffyrdd iawn,' meddai Ysgrifennydd Cabinet Gogledd Cymru a Thrafnidiaeth yn ystod ei ymweliad â Bwcle

Mae Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros y Gogledd a Thrafnidiaeth, wedi bod yn ymweld â Bwcle heddiw (dydd Gwener 10 Mai) i wrando ar gynghorwyr yn siarad am y teimladau lleol am y terfyn 20mya yn y dref a'r cyffiniau.

Welsh Government

Cyfleuster cerbydau nwyddau trwm Parc Cybi i ailagor yr wythnos nesaf

Mae disgwyl i'r cyfleuster parcio cerbydau nwyddau trwm (HGV) sy'n cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru ym Mharc Cybi, Caergybi, ailagor ddydd Llun Mai 13, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth, Ken Skates, wedi cadarnhau.

Welsh Government

20mya: Yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth yn disgrifio cynllun ar gyfer targedu newid

Bydd Llywodraeth Cymru'n gwrando ar bobl Cymru ac yn gweithio gyda chynghorau i dargedu newidiadau i'r terfyn cyflymder 20mya, meddai Ysgrifennydd y Cabinet Ken Skates.

Welsh Government

Yr Ysgrifennydd Cabinet yn amlinellu blaenoriaethau trafnidiaeth

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth yn amlinellu ei flaenoriaethau trafnidiaeth, gan gynnwys cynlluniau ar gyfer 20 mya, yn y Senedd yfory (23 Ebrill).