English icon English

"Mae'r data diweddaraf am wrthdrawiadau ffyrdd yn dangos bod pethau'n symud i'r cyfeiriad cywir", medd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth.

“Latest road collision data shows things are moving in the right direction”, says Transport Secretary

Mae data  newydd a gyhoeddwyd heddiw am wrthdrawiadau ffyrdd yn dangos bod anafiadau wedi lleihau ar ffyrdd ers cyflwyno'r terfynau cyflymder newydd o 20mya ym mis Medi'r llynedd.

Mae'r data, sy'n nodi cyfanswm nifer y rhai a anafwyd mewn gwrthdrawiadau a gofnodwyd gan yr heddlu, yn dangos bod nifer yr anafiadau ar y ffyrdd 20mya a 30mya wedi gostwng 218,  o 681 yn 2022 i 463 yn 2023.

Cyfanswm nifer yr anafiadau ar ffyrdd 20mya a 30mya yn Ch4 oedd y ffigwr chwarterol isaf a gofnodwyd y tu allan i gyfnod pandemig COVID.

Yn gyffredinol, yn 2023  cofnododd yr heddlu yng Nghymru gyfanswm o 3,262 o wrthdrawiadau ar y ffyrdd, gostyngiad o 1.6% o'i gymharu â 2022 a 24.7% yn is nag yn 2019 (cyn pandemig COVID).

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth:

"Mae'r data a gyhoeddwyd heddiw yn dangos yn glir bod anafiadau ar ffyrdd 20mya a 30mya wedi lleihau ers cyflwyno 20mya - yr isaf erioed y tu allan i gyfnod pandemig COVID.

“Mae lle I wella o hyd, ac rydym yn disgwyl I’r niferoedd amrywio dros y blynyddoedd nesaf wrth I yrwyr addasu I’r cyflymder newydd, ond mae’n galonogol gweld bod pethau’n symud I’r cyfeiriad cywir. Mae unrhyw leihad yn nifer y bobl sy’n cael eu hanafu yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.”

"Prif amcan y polisi o'r dechrau'n deg oedd lleihau nifer yr anafiadau a helpu pobl i deimlo'n fwy diogel yn eu cymunedau ac mae data heddiw yn dangos ei bod hi'n bosibl cyflawni hyn.

"Ond, wrth i mi barhau i wrando ar sylwadau, rwy'n ymwybodol bod angen i ni fireinio'r polisi o hyd er mwyn sicrhau bod gennym y cyflymderau cywir ar y ffyrdd cywir. Rwyf hefyd yn barod i gydnabod y gallai fod angen i rai ffyrdd ddychwelyd yn ôl i 30mya. Fel rhan o'n proses o dderbyn sylwadau, byddwn yn annog pobl i gysylltu â'u cyngor lleol i ddweud ble yn eu barn nhw y dylai'r 20mya gael ei dargedu."