English icon English

Yr Ysgrifennydd Cabinet yn amlinellu blaenoriaethau trafnidiaeth

Cabinet Secretary sets out priorities for Transport

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth yn amlinellu ei flaenoriaethau trafnidiaeth, gan gynnwys cynlluniau ar gyfer 20 mya, yn y Senedd yfory (23 Ebrill).

Gwrando yw'r flaenoriaeth yn syth i'r Ysgrifennydd y Cabinet ar 20mya. Bydd yn dweud bydd Llywodraeth Cymru yn gwrando ar bobl Cymru ac yn gweithio mewn partneriaeth gyda chynghorau er mwyn cael newid wedi'i dargedu yng ngweithrediad 20mya. 

Bydd yn amlinellu'r camau nesaf yn y Datganiad Llafar yfory.