£20m i wella mannau dysgu i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol
£20m to improve learning spaces for learners with additional learning needs
Yn ystod ymweliad ag Ysgol y Bedol yn Sir Gaerfyrddin, cyhoeddodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, y byddai £20m o gyllid yn cael ei fuddsoddi mewn ysgolion i drawsnewid profiadau plant anabl a'r rheini ag anghenion dysgu ychwanegol.
Mae'r £20m o gyllid cyfalaf ar gyfer 2023-24 yn cael ei ddyrannu i wella amgylcheddau dysgu fel eu bod yn fwy cynhwysol ac i greu ardaloedd tawel neu synhwyraidd, gan gynnwys uwchraddio neu brynu offer newydd fel cymhorthion synhwyraidd arbenigol. Bydd y cyllid hefyd yn cael ei ddefnyddio i wella'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’r cyllid hwn yn ychwanegol at yr £20m o gyllid cyfalaf a fuddsoddodd Llywodraeth Cymru yn 2022-23 i gefnogi dysgwyr anabl a'r rheini ag anghenion dysgu ychwanegol.
Yn 2022-23, fe ddefnyddiodd Ysgol y Bedol yn Sir Gaerfyrddin ei grant o £120,000 i ddatblygu ystafell synhwyraidd newydd a dwy ystafell ddosbarth, sydd â'r offer penodol i ddiwallu anghenion disgyblion ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth – yn ogystal ag ardal chwarae awyr agored newydd.
Dywedodd Gethin Richards, Pennaeth Ysgol y Bedol:
"Mae'r datblygiad hwn wedi sicrhau bod modd i'n disgyblion gael eu haddysg mewn amgylchedd cynhwysol. Mae'r ystafell synhwyraidd yn darparu cyfleoedd i ddisgyblion ymlacio, ac mae'r ystafelloedd addysgu yn diwallu anghenion disgyblion ag awtistiaeth. Mae mannau penodol iddyn nhw allu datblygu ymwybyddiaeth o'u hemosiynau a mannau ar gyfer dysgu, ymchwil a chwarae hefyd.
"Mae'r ardal allanol yn lle i'r disgyblion archwilio'r byd o'u cwmpas mewn ffordd sy'n gwbl ddiogel iddyn nhw. Mewn cyfnod byr, mae'r disgyblion wedi ymgartrefu yn y dosbarthiadau newydd ac wedi gwneud cynnydd enfawr o ran eu datblygiad.
"Mae'r adnodd hefyd yn ein galluogi i gynnig arbenigedd a darpariaeth arbenigol i ddisgyblion ag awtistiaeth drwy gyfrwng y Gymraeg – sy'n gwbl hanfodol i deuluoedd a phlant Cymraeg eu hiaith yn yr ardal."
Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:
"Bydd y buddsoddiad hwn o £20m yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddysgwyr anabl, a'r rheini ag anghenion dysgu ychwanegol, drwy sicrhau bod ein hysgolion yn hygyrch, a bod ganddyn nhw’r cyfleusterau i gefnogi dysgu cynhwysol.
"Mae pob plentyn yng Nghymru yn haeddu mynediad i addysg o ansawdd uchel fel y gallant gyflawni eu potensial."
Bydd y buddsoddiad hwn yn cefnogi'r gwaith o weithredu'r diwygiadau addysg yng Nghymru, sy'n cynnwys y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol, y Cwricwlwm i Gymru a'r nod o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg.
Bydd yr awdurdodau lleol yn penderfynu ar y gwelliannau sydd eu hangen ar ysgolion a lleoliadau yn seiliedig ar yr anghenion lleol.