English icon English

£24m i sicrhau nad oes yr un dysgwr yn cael ei adael ar ôl

£24m to ensure no learner left behind

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod dros £24m o gyllid ychwanegol ar gael i gefnogi dysgwyr sydd wedi teimlo’r effaith fwyaf yn sgil pandemig Covid-19.

Mae’r cyllid yn cynnwys:

  • £7.5m i gefnogi dysgwyr sydd mewn blwyddyn lle maent yn sefyll arholiadau
  • £7m i gefnogi dysgwyr y mae eu lefelau presenoldeb wedi gostwng yn ystod y pandemig
  • £9.5m i gefnogi dysgwyr addysg bellach a chweched dosbarth gyda’r cyfnod pontio i’r cam nesaf o’u addysg neu’u gyrfa

Bydd £7.5m yn cael ei ddefnyddio i ddarparu cymorth ychwanegol i ddysgwyr sydd mewn blwyddyn lle maent yn sefyll arholiadau, gydag amser addysgu ac adnoddau dysgu ychwanegol. Bydd yn helpu dysgwyr i ddatblygu’u sgiliau, eu gwybodaeth a’u hyder, yn ogystal â rhoi cefnogaeth i’r rheini sy’n bryderus am yr arholiadau. Bydd yr ysgolion hynny sydd â’r niferoedd mwyaf o ddysgwyr sy’n cael prydau ysgol am ddim yn cael eu blaenoriaethu.

Bydd dros £7m yn mynd i gefnogi dysgwyr y mae eu lefelau presenoldeb wedi gostwng yn ystod y pandemig. Bydd cymorth pwrpasol yn cael ei ddarparu i helpu disgyblion blwyddyn 11 sydd â phresenoldeb isel i gwblhau eu TGAU neu i gyrraedd y cam nesaf yn eu haddysg neu i ddechrau gyrfa, ac i gefnogi dysgwyr mewn blynyddoedd eraill. Bydd cyllid hefyd yn cael ei roi i gefnogi llesiant ac addysg i ddysgwyr mewn Unedau Cyfeirio Disgyblion.

Bydd £9.5m yn cael ei roi i golegau addysg bellach a chweched dosbarth er mwyn helpu myfyrwyr i bontio i’r cam nesaf o’u haddysg neu yrfa ac ar gyfer gweithgareddau fel sesiynau blasu gyrfaoedd galwedigaethol a diwrnodau agored.  

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:

“Rydyn ni wedi blaenoriaethu addysg trwy gydol y pandemig. Rydyn ni’n gwybod hefyd, heb os nac oni bai, bod y pandemig wedi creu anrhefn, ac mae’r dystiolaeth yn dangos bod dysgwyr penodol, gan gynnwys dysgwyr mewn blynyddoedd sy’n sefyll arholiadau a’r rhai sy’n dod o gefndir incwm isel, wedi teimlo effaith hyn yn sylweddol.

“Ni allwn ganiatáu i’r pandemig rwystro’r un person ifanc. Bydd y cyllid newydd hwn yn sicrhau bod y dysgwyr hynny sydd wedi teimlo’r effaith fwyaf yn cael y cymorth ychwanegol sydd ei angen arnynt i gymryd y cam nesaf yn eu bywydau yn hyderus.

“Mae cenhadaeth ein cenedl yn mynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol ac mae’n gosod safonau uchel i bawb. Rydyn ni am wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod pob dysgwr yn cael yr un cyfle ac yn gallu cyrraedd eu potensial llawn.”