£250K ar gyfer cymorth lleferydd, iaith a chyfathrebu yn y blynyddoedd cynnar
£250K for early years speech, language and communication support
Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, wedi cyhoeddi £250,000 yn ychwanegol i helpu plant â’u lleferydd, iaith a chyfathrebu.
Bydd yr arian ar gael i fyrddau iechyd a chanolfannau arbenigol iddynt allu helpu plant ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu (SLC) ac i therapyddion ac ymarferwyr iddynt allu ymateb i anghenion a gofynion lleol.
Mae’r arian ychwanegol hwn ar gyfer 2021-22 yn dilyn yr arian adfer COVID a ddarparwyd yn 2020 i ddelio ag anghenion SLC yn ystod y pandemig.
Bydd yr arian yn canolbwyntio ar y blynyddoedd cynnar (0 – 4 blwydd 11 mis oed) ac yn cynnwys:
- Talu am adnoddau digidol a ffisegol ac ar gyfer TG at amrywiaeth o ddibenion gan gynnwys sesiynau o bell.
- Hyfforddi a datblygu ymarferwyr SLC a gweithwyr gofal plant i adnabod anghenion SLC yn fuan
- Talu am gael y llawlyfr i rieni It Takes Two to Talk i holl brif lyfrgelloedd Cymru
Dywedodd Julie Morgan:
“Mae’n bleser gen i gyhoeddi’r arian ychwanegol hwn ar gyfer lleferydd, iaith a chyfathrebu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod plant o bob cefndir yn cael y dechrau gorau posibl yn eu bywyd a’u bod yn gwireddu’u potensial. Rydyn ni’n gwybod bod y blynyddoedd cynnar yn allweddol i ddatblygiad pob plentyn. Dyma’r adeg pan fydd plentyn yn datblygu sgiliau lleferydd, iaith, cyfathrebu a llafaredd – sgiliau hanfodol ar gyfer darllen, sgrifennu a datrys problemau.
“Mae’r pandemig wedi cael effaith ar ein gwasanaethau ac rydyn ni’n parhau i weithio gyda’r GIG a’r canolfannau arbenigol i’w helpu i ddiwallu anghenion plant yn y cyfnod tyngedfennol hwn.
“Rydym am i holl blant Cymru allu manteisio ar y cymorth SLC gorau yn eu blynyddoedd cynnar os oes angen, a bydd yr arian ychwanegol hwn yn helpu i sicrhau bod ymarferwyr SLC yn gallu ymateb i’r angen yn eu hardaloedd.”
Dywedodd Jayne Hitchings, Therapydd Iaith a Lleferydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro:
“A theuluoedd wedi gorfod wynebu heriau anferth, bydd gallu manteisio ar gymorth o’r ansawdd uchaf i helpu i ddatblygu iaith plant yn gwneud gwahaniaeth go iawn i blant a’u teuluoedd. Diolch i’r arian ychwanegol yn 2020, gwnaethon ni hyfforddi Therapyddion Iaith a Lleferydd Plant ynghylch sut i wneud penderfyniadau clinigol uwch, iddynt allu helpu plant a’u teuluoedd yn y ffordd fwyaf effeithiol posibl.
“Gyda’r arian ychwanegol hwn, byddwn yn gallu hyfforddi mwy o Therapyddion Iaith a Lleferydd i gynnal y rhaglen ‘It Takes Two To Talk’ gan Haner, sy’n rhoi’r medrau i rieni a theuluoedd i helpu i ddatblygu sgiliau cyfathrebu eu plant gartref. Mae hyfforddi staff ychwanegol yn bwysig iawn ac yn sicrhau cysondeb wrth geisio lleihau effaith anawsterau lleferydd, iaith a chyfathrebu ar blant a’u teuluoedd ac yn gwneud yn siŵr eu bod yn cael y math iawn o gymorth gan y bobl iawn ar yr adeg iawn.”
Nodiadau i olygyddion
To interview Jayne Hitchings, email Chris.Seal@gov.wales
The Welsh Government’s Talk With Me: Speech, Language and Communication (SLC) Delivery Plan was published in November 2020.
Resources developed for parents include a top tips on managing your child’s behaviour, which makes the links between SLC needs and behaviour and gives practical ideas to help. These resources are available at: www.gov.wales/talkwithme