£28 miliwn i helpu i leihau amseroedd aros hir mewn ysbytai
£28m to help cut long hospital waiting times
Heddiw (dydd Iau 24 Hydref), bydd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles yn cyhoeddi £28 miliwn i helpu'r GIG i leihau'r amseroedd aros hiraf.
Bydd y cyllid yn talu am fwy o apwyntiadau gyda'r nos ac ar benwythnosau a mwy o weithio'n rhanbarthol i dargedu amseroedd aros mewn arbenigeddau fel orthopedeg, offthalmoleg, llawdriniaeth gyffredinol a gynaecoleg.
Er mwyn i gleifion newydd gael eu gweld, bydd byrddau iechyd hefyd yn creu lle ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol drwy leihau nifer yr apwyntiadau dilynol awtomatig mewn achosion lle nad oes eu hangen.
Bydd yr ymyriadau hyn yn lleihau nifer y bobl sy'n aros dros ddwy flynedd am driniaeth, yn lleihau amseroedd aros am apwyntiadau cleifion allanol cyntaf ac yn sicrhau bod mwy o bobl yn cael profion diagnostig o fewn wyth wythnos.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles:
"Mae lleihau amseroedd aros yn flaenoriaeth genedlaethol – i bobl ledled Cymru, i ni ac i'r Gwasanaeth Iechyd. Bydd byrddau iechyd yn defnyddio'r cyllid newydd hwn i gyflawni ystod o gynlluniau a fydd yn dechrau bron ar unwaith.
"Byddan nhw'n targedu'r arosiadau hiraf ym meysydd orthopedeg, llawdriniaeth gyffredinol, offthalmoleg a gynaecoleg drwy gynyddu capasiti er mwyn i fwy o bobl gael eu gweld a'u trin y tu allan i oriau a thrwy fwy o weithio'n rhanbarthol.
"Mae'r Gwasanaeth Iechyd yn gweithio'n galed iawn i leihau'r ôl-groniad o achosion, a gynyddodd yn ystod y pandemig – mae hwn yn gyllid ychwanegol, ar ben yr arian adfer rydyn ni'n ei roi bob blwyddyn, i helpu'r Gwasanaeth Iechyd i leihau'r arosiadau hiraf a gwella mynediad at ofal wedi'i gynllunio."
Bydd yr Ysgrifennydd Iechyd yn gwneud ei gyhoeddiad yn ystod ymweliad ag Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni. Yno, bydd yn cyfarfod â thimau Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan sy'n gweithio ar restrau aros offthalmoleg ac endosgopi.
Un o'r cynlluniau a gyflwynwyd gan fyrddau iechyd i fynd i'r afael ag arosiadau hir oedd Uned Llanwenarth, a fydd yn dod yn ganolfan cataractau ranbarthol.
Dywedodd Nicola Prygodzicz, Prif Swyddog Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: "Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am y buddsoddiad sylweddol hwn a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran lleihau amseroedd aros i gleifion ledled Gwent.
"Rydyn ni wedi ymrwymo i ddefnyddio'r adnoddau ychwanegol yn effeithiol i fynd i'r afael â'r arosiadau hiraf, yn arbennig mewn meysydd lle y mae galw uchel fel orthopaedeg ac offthalmoleg.
"Mae'r buddsoddiad hwn yn cefnogi ein hymdrechion parhaus i roi gofal amserol ac o ansawdd uchel i'n cymunedau."
Diwedd