English icon English
Chevler1-2

£300k i ddiogelu dyfodol cwmni pecynnu papur yng Nghaerffili

£300k to safeguard future of paper packaging firm in Caerphilly

Mae cwmni pecynnu papur ar gyfer y diwydiant bwyd yng Nghaerffili wedi derbyn £300,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu 55 o swyddi a chreu 10 yn fwy.

Mae Chevler Ltd yn Hengoed yn gwneud pecynnu ar gyfer cleientiaid pobi, cigyddiaeth a lletygarwch ac mae'n bwriadu defnyddio'r cyllid i wneud ei ffatri yn addas i'r diben trwy newid to asbestos sy'n heneiddio. Mae'r cwmni'n gobeithio y bydd hyn yn lleihau costau gwresogi, allyriadau carbon yn sylweddol a gwella amodau gwaith i weithwyr.

Mae'r buddsoddiad o Gronfa Dyfodol yr Economi Llywodraeth Cymru yn cynnwys grant ad-daladwy o £150,000 a £150,000 nad yw'n ad-daladwy ac fe'i rhoddir i fusnesau i helpu i greu gwell swyddi yng nghymunedau Cymru.

Mae'r cyllid yn cael ei roi yn unol â'n contract economaidd sy'n nodi sut rydym yn gweithio gyda busnesau i ddarparu buddsoddiad cyhoeddus sy'n blaenoriaethu anghenion cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru wrth adeiladu economi ffyniannus, wyrddach a thecach.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

"Rwy'n falch o gefnogi Chevler gyda'r cyllid hwn a fydd yn galluogi'r cwmni i ddiogelu swyddi ac edrych ymlaen at y dyfodol.

"Yn dilyn colledion trwm yn ystod y pandemig, mae'r cwmni wedi gwella'n sylweddol ac mae ganddo gynlluniau i gynyddu gwerthiant a chyflogi 10 o bobl eraill unwaith y bydd ei adeilad yn addas i'r diben."

Dywedodd Stuart Whelan, Rheolwr Gyfarwyddwr Chevler:

"Mae'r gefnogaeth hanfodol hon gan Lywodraeth Cymru yn ein helpu i greu platfform y gallwn sicrhau a pharhau i ehangu ein gweithgynhyrchu yn Hengoed ohono, gan ein galluogi i gynyddu ein gweithlu medrus iawn.  Mae hefyd yn rhoi bywyd newydd i'r safle drwy ei inswleiddio i'r rheoliadau cyfredol.

"Bydd hyn yn ein helpu i gynyddu ein defnydd effeithlon o ynni yn ddramatig ac yn lleihau ein hallyriadau carbon.  Nawr bod y mater hwn wedi'i ddatrys gallwn fuddsoddi'n hyderus yn ein pobl a'n prosesau i ysgogi twf."