English icon English
school meals-4

£4.85m ar gyfer Bwyd a Hwyl yr haf hwn

£4.85m for Food and Fun this summer

Bydd gwledd o sesiynau yn darparu prydau bwyd iach a gweithgareddau addysgol i blant a phobl ifanc ar gael eto'r haf hwn drwy'r rhaglen Bwyd a Hwyl.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu hyd at £4.85m ar gyfer darparu Bwyd a Hwyl, a gynhelir gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) mewn ysgolion yn ystod gwyliau'r haf. Mae'r sesiynau yn cynnig brecwast a chinio iach i blant a phobl ifanc, yn ogystal â gweithgareddau ymarfer corff a sesiynau cyfoethogi, a gwybodaeth am fwyd a maeth.

Nod y cynllun yw rhoi cymorth i blant a phobl ifanc o ardaloedd difreintiedig. Disgwylir y bydd y cyllid yn darparu tua 8,000 o leoedd eleni ar draws 200 o garfannau. Mae hefyd ddarpariaeth ar gyfer cymorth i blant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol fel rhan o'r cynllun, gan gynnwys cymorth 1:1.

Mae gwaith gwerthuso a gynhaliwyd ar y cynllun mewn blynyddoedd blaenorol wedi dangos bod y sesiynau hyn wedi helpu i ennyn diddordeb plant a phobl ifanc yn yr ysgol, ac wedi gwella llesiant cyffredinol y plant a’r bobl ifanc hynny sy'n dod iddynt.

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:

“Mae'r gwyliau haf hir yn gallu bod yn heriol i rai pobl am wahanol resymau. Mae'n bwysicach byth ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi ein plant a'n pobl ifanc. Rydym yn gwybod bod rhai dysgwyr yn ei chael hi'n anodd y tu allan i drefn yr ysgol, a bod teuluoedd o dan bwysau oherwydd yr argyfwng costau byw.

“Mae'r cynllun Bwyd a Hwyl yn gwneud y gorau o gyfleusterau ysgolion drwy gynnig gweithgareddau sy’n hwyl yn ogystal â phrydau bwyd iach. Gall hefyd chwarae rôl wrth helpu plant mewn ardaloedd difreintiedig i adfer o effaith y pandemig drwy gefnogi eu llesiant a'u haddysg.

“Rydym yn awyddus i bob ysgol yng Nghymru fod yn Ysgol Fro sy'n ymateb i anghenion ei chymuned ac yn meithrin partneriaethau cryf â theuluoedd a gwasanaethau eraill. Mae Bwyd a Hwyl yn enghraifft wych o hyn, gan ddarparu prydau bwyd iach a gweithgareddau i blant wrth ymgysylltu â'r gymuned ehangach ar yr un pryd.”

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, llefarydd Addysg CLlLC:

“Mae CLlLC yn falch iawn o gynnal Bwyd a Hwyl ar ran Llywodraeth Cymru, sef rhaglen sy'n cefnogi teuluoedd yn ystod gwyliau'r haf, sy'n gallu fod yn gyfnod heriol i nifer o deuluoedd yng Nghymru.

“Mae'r rhaglen, sy'n rhedeg am yr wythfed flwyddyn eleni, wedi mynd o nerth i nerth ers cael ei lansio, ac mae bellach yn cefnogi mwy o deuluoedd nag erioed ledled Cymru i sicrhau deiet cytbwys a iach.

“Yn ystod gwyliau'r haf eleni, bydd Bwyd a Hwyl yn darparu lleoedd i 8000 o blant bob dydd, sef hyd at 96,000 o gyfleoedd posibl i blant fynychu’r sesiynau ledled Cymru.

“Hoffem ddiolch i Lywodraeth Cymru am gyllido'r cynllun, ac i'r holl bartneriaid yn y gwahanol awdurdodau lleol sy'n gweithio'n galed i sicrhau bod y rhaglen hon yn digwydd, ac yn llwyddo.”

Nodiadau i olygyddion

  • The Welsh Government has provided financial support for the School Holiday Enrichment Programme (SHEP) since 2017. It is a school-based scheme that provides healthy meals, food and nutrition education, physical activity and enrichment sessions to children in areas of high socio-economic disadvantage during the school holidays. The programme is managed by WLGA and is promoted to children and families under the ‘Food and Fun’ brand identity.
  • The Welsh Government has committed to support and grow the programme, with a commitment in the Programme for Government to continue to “build on” the programme. An indicative 3-year budget for funding of Food and Fun 2022 of £4.85m allows for the programme to deliver around 8,000 places in 2022.