English icon English
Jeremy Miles Betsan Moses cropped-2

£500,000 i helpu teuluoedd incwm is i fynychu’r Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd

£500,000 to help lower income families attend the National Eisteddfod and Urdd Eisteddfod

Heddiw, mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol o hanner miliwn o bunnoedd i’r Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd, er mwyn gwneud yr eisteddfodau eleni yn hygyrch i deuluoedd incwm is.

Mae Llywodraeth Cymru’n darparu £350,000 i’r Eisteddfod Genedlaethol a £150,000 i’r Urdd fel cyllid untro er mwyn galluogi unigolion a theuluoedd o gartrefi incwm is i fynychu’r gwyliau cenedlaethol yn Rhondda Cynon Taf a Maldwyn yr haf yma.

Mae hyn yn golygu y bydd tocynnau mynediad am ddim a thalebau bwyd ar gael i hyd at 18,400 o drigolion lleol cymwys i fynychu’r Eisteddfod Genedlaethol ym Mhonytpridd ym mis Awst.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles: “Rwy’n falch iawn o gyhoeddi’r cyllid ychwanegol yma i gefnogi ein gwyliau Cymraeg cenedlaethol.

“Mae’r eisteddfodau nid yn unig yn uchafbwynt diwylliannol yn y calendr Cymreig, ond hefyd yn gyfle gwych i bobl weld, clywed a siarad Cymraeg, a chymryd rhan yn y gwahanol gystadlaethau a digwyddiadau cymdeithasol sydd ar gael. Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac rwy am sicrhau fod pawb yn cael y cyfle i fynychu a mwynhau ein heisteddfodau.”

Dywedodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, “Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth er mwyn sicrhau fod trigolion lleol yn cael cyfle i ymweld â’r Eisteddfod eleni. Bydd y cynnig yn cynnwys tocyn am ddim i’r Maes ynghyd â thalebau bwyd. Rydyn ni’n meddwl ei bod hi'n hollbwysig ein bod ni’n gallu cynnig mwy na thocyn Maes er mwyn sicrhau bod ein gŵyl yn hygyrch i bawb sy’n dymuno dod draw i Barc Ynysangharad ddechrau Awst, mwynhau diwrnod arbennig a chael blas ar ein hiaith a diwylliant.

“Byddwn yn cyhoeddi rhagor o fanylion am y tocynnau maes o law, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu pawb atom i Rondda Cynon Taf yn fuan.”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Andrew Morgan OBE: “Rwy’n diolch i’r Gweinidog a Llywodraeth Cymru am y cyllid hael yma.

“I lawer o bobl yn Rhondda Cynon Taf, dyma’r Eisteddfod gynta iddyn nhw ei chael ar stepen y drws. Yn ystod yr argyfwng costau byw, mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn gweithio gyda’n gilydd i sicrhau bod cymaint o bobl â phosib, beth bynnag fo’u hamgylchiadau, yn gallu ymuno a chael eu hysbrydoli gan yr Eisteddfod.

“Fel Cyngor, rydyn ni wedi gweithio’n agos gyda’r Eisteddfod i greu digwyddiad cynhwysol y gall y gymuned gyfan fod yn rhan ohono, ac mae’r cyllid yma'n tanlinellu’r uchelgais hwnnw.”

Yr Eisteddfod Genedlaethol fydd yn gweinyddu’r cyllid a gwerthiant tocynnau.

Bydd yr Urdd yn cyhoeddi eu cynlluniau ar gyfer tocynnau mynediad ar y 18fed o Fawrth, ar ôl cynnal pob Eisteddfod Cylch a Rhanbarth.

Nodiadau i olygyddion

Bydd y Gweinidog yn ymweld â safle'r Eitsteddfod ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd, fore Mercher 13 Mawrth, ynghyd â Betsan Moses a'r Cynghorydd Andrew Morgan. Byddant ar gael ar gyfer cyfweliadau 8:35-8:55am gyda'r cyfryngau fydd yn bresennol y ystod yr ymweliad. I gadarnhau eich presenoldeb a gwneud cais am gyfweliad, cysylltwch â meinir.jones046@llyw.cymru