£50m i adfer cartrefi gwag
£50m to bring empty homes back to life
Heddiw (dydd Llun, 30 Ionawr), cyhoeddodd y Gweinidog Julie James gynllun newydd gwerth £50m i sicrhau bod mwy o gartrefi gwag yn cael eu hadfer.
Mae'r cynllun Grant Cartrefi Gwag Cenedlaethol, fydd yn para dros y ddwy flynedd nesaf, wedi'i ddatblygu i adeiladu ar lwyddiant mentrau blaenorol Llywodraeth Cymru fel Grant Cartrefi Gwag Tasglu'r Cymoedd.
Gallai'r Cynllun Cartrefi Gwag Cenedlaethol weld hyd at 2,000 o eiddo gwag hirdymor yn cael eu defnyddio unwaith eto. Bydd y cynllun hwn yn cael ei gynnal ochr yn ochr â chynlluniau eraill Llywodraeth Cymru fel Cynllun Lesio Cymru sydd wedi'i gynllunio i wella’r cyfle i bobl gael tai fforddiadwy mwy hirdymor yn y sector rhentu preifat.
Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James: “Rwy'n falch o gyhoeddi’r dyraniad o £50m a gaiff ei ddefnyddio i adfer mwy o eiddo gwag yng Nghymru.
“Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod dros 22,000 o eiddo gwag hirdymor yng Nghymru. Mae'r rhain yn adnodd tai sydd wedi'i wastraffu a all ddod yn bla yn ein cymunedau.
“Bydd y cyllid sy'n cael ei gyhoeddi heddiw yn cael ei ddefnyddio i leihau nifer yr eiddo gwag ac, felly, cynyddu'r cyflenwad tai.”
Bydd grant o hyd at £25,000 ar gael i berchnogion tai neu ddarpar berchnogion tai gael gwared ar beryglon sylweddol o'u heiddo i'w gwneud yn ddiogel i fyw ynddynt a gwella eu heffeithlonrwydd ynni.
Er mwyn bod yn gymwys i gael y grant, mae'n rhaid i'r eiddo fod wedi ei gofrestru fel eiddo gwag gyda'r awdurdod lleol am o leiaf 12 mis cyn cychwyn y gwaith.
Ar ôl cwblhau'r gwaith, rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus wedyn fyw yn yr eiddo hwnnw fel ei brif breswylfa a'i unig breswylfa am o leiaf bum mlynedd.
Ar wahân i berchen-feddianwyr, bydd Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, awdurdodau lleol a grwpiau tai cymunedol hefyd yn gallu cael gafael ar y cyllid ar gyfer eiddo gwag maent yn eu caffael i’w hadfer fel tai fforddiadwy.
Mae'r cynllun wedi’i ddatblygu gyda'r awdurdodau lleol ac fe fydd yn cael ei weinyddu gan Gyngor Rhondda Cynon Taf ar ran Llywodraeth Cymru.
Bydd gan bob awdurdod lleol sy'n cymryd rhan ddyraniad bob blwyddyn a bydd yn gyfrifol am gynnal arolygon o'r eiddo er mwyn nodi ac argymell y gwaith sy’n gymwys ar gyfer cyllid grant.
Gellir gweld rhestr o'r awdurdodau lleol sy'n cymryd rhan yma: https://www.llyw.cymru/gwneud-cais-am-grant-cartrefi-gwag Bydd rhagor o awdurdodau lleol yn cael eu hychwanegu at y rhestr pan fyddant yn barod i gael ceisiadau.