English icon English

£54.4 miliwn i wella trafnidiaeth gyhoeddus a chefnogi twf economaidd yn y De-ddwyrain

£54.4m to improve public transport and support economic growth in south east Wales

Mae Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth, wedi cyhoeddi bod dros £54.4 miliwn yn cael eu buddsoddi i wella trafnidiaeth gyhoeddus a hyrwyddo twf economaidd.

Gwahoddwyd yr awdurdodau lleol i gyflwyno cynigion i Lywodraeth Cymru er mwyn iddynt gael mynd ati i wella trafnidiaeth leol yn eu hardaloedd mewn ffordd a fydd o gymorth i wireddu'r blaenoriaethau a'r amcanion yn Strategaeth Drafnidiaeth Cymru - Llwybr Newydd. Dyma rai o'r blaenoriaethau hynny:

• Mynd i'r afael ag achosion o dywydd garw yn tarfu ar y rhwydwaith priffyrdd
• Gwella diogelwch ar y ffyrdd
• Darparu llwybrau cerdded a beicio
• Gwella amseroedd teithio ar fysiau a gwella cyfleusterau aros
• Darparu seilwaith gwefru cerbydau trydan fydd ar gael i'r cyhoedd

Mae'r cymorth sylweddol hwn, y bwriedir iddo helpu cynghorau lleol i wella trafnidiaeth yn eu hardal, yn cynnwys cyllid ar gyfer Teithio Llesol a Llwybrau Diogel, Diogelwch ar y Ffyrdd, cyfleusterau gwefru cerbydau trydan, gwella gallu ffyrdd i ymdopi â thywydd garw, trafnidiaeth leol, a ffyrdd heb eu mabwysiadu.

Yn y De-ddwyrain, bydd £54.4 miliwn yn cael eu buddsoddi mewn prosiectau a fydd yn cynnwys creu cyswllt cerdded a beicio di-draffig rhwng Llan-ffwyst a chanol tref y Fenni, gan gynnwys pont newydd; pont newydd yn lle'r un bresennol ym Masaleg, a darparu gwybodaeth amser real mewn safleoedd bysiau yng Nghaerdydd.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth:

“Mae'r grantiau 'ma'n fuddsoddiad sylweddol i gefnogi twf cynaliadwy yn yr economi leol, i wella cyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus, ac i greu a gwella llwybrau a fydd yn galluogi ac yn annog rhagor o bobl Cymru i gerdded a beicio.

“Mae'r prosiectau 'ma'n enghreifftiau penigamp o'r atebion ymarferol rydyn ni wedi gofyn i'r awdurdodau lleol eu dylunio er mwyn ei gwneud yn haws i drigolion gyrraedd eu gweithleoedd a'u busnesau, ac i wneud hynny mewn ffordd fwy cynaliadwy.”

Mae'r cyllid hwn hefyd yn ychwanegu at ddyraniadau a roddwyd mewn blynyddoedd blaenorol ar gyfer camau gwahanol rhai o'r prosiectau.