English icon English
PO 200521 Miles 25-2

£6.82m i gefnogi cerddoriaeth a’r celfyddydau yn y cwricwlwm newydd

£6.82m to support music and arts in new curriculum

Bydd dysgwyr yng Nghymru yn cael cyfleoedd gwell i chwarae a dysgu gydag offerynnau cerdd, fel rhan o £6.82m mewn gyllid a gyhoeddwyd gan Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, i ddarparu adnoddau cerddoriaeth ychwanegol i ysgolion.

Mae'r cyhoeddiad yn cefnogi’r ymrwymiad yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru i sefydlu gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol. 

Mae’r Gweinidog hefyd wedi cyhoeddi £3m ychwanegol i ymestyn y rhaglen Dysgu Creadigol drwy'r Celfyddydau lwyddiannus am dair blynedd arall. Bydd Cyngor Celfyddydau Cymru’n rhoi arian cyfatebol i gynyddu’r buddsoddiad i £6m.  

Mae'r rhaglen Dysgu Creadigol drwy’r Celfyddydau, sydd wedi bod ar waith ers 2015, yn annog ac yn datblygu dulliau creadigol o ddysgu ac addysgu.

Mae mwy na thraean o ysgolion yng Nghymru eisoes wedi cymryd rhan yn y cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol, a bydd yr ysgolion hyn yn cael eu hannog i weithio gydag ysgolion sy'n newydd i'r rhaglen a'u cefnogi i ehangu mynediad i ddysgu creadigol.

Bydd offerynnau cerdd yn cael eu dosbarthu - yn y lle cyntaf - i ddysgwyr sy'n llai tebygol o gael mynediad atynt eisoes, fel y rhai sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. 

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:

"Rydym yn gwybod y gall cerddoriaeth a chreadigrwydd gynnig manteision i bobl ifanc ym mhob agwedd ar eu dysgu, ac ni ddylai eich cefndir eich rhwystro rhag cael mynediad at hyn. 

"Rwy'n falch o gyhoeddi'r cyllid hwn i ddarparu adnoddau cerddoriaeth i gefnogi'r cwricwlwm newydd, ac i ymestyn y rhaglen Dysgu Creadigol drwy'r Celfyddydau am dair blynedd arall, ac rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod pob dysgwr yn gallu manteisio ar y cyfleoedd hyn mewn ysgolion."

Dywedodd Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru:

"Mae ymestyn y rhaglen Dysgu Creadigol drwy'r Celfyddydau yn dyst i'w llwyddiant ers 2015.

"Mae partneru athrawon eithriadol gydag ymarferwyr creadigol proffesiynol wedi galluogi dysgwyr i brofi math newydd o amgylchedd ystafell ddosbarth, un sy'n defnyddio creadigrwydd i agor llwybrau ym mhob pwnc ysgol, ac un sy'n manteisio ar chwilfrydedd a dychymyg naturiol dysgwr ifanc i ddatrys problemau a rhyddhau eu potensial eu hunain.

Bydd trydydd cam y rhaglen yn ymgorffori dulliau creadigol ymhellach yn arferion mwy a mwy o ysgolion wrth iddynt ymateb i'r cyfleoedd cyffrous yn y cwricwlwm newydd. Mae'r bartneriaeth hon gyda Llywodraeth Cymru yn rhoi'r celfyddydau lle maent i fod, sef wrth galon cymdeithas ac er budd pawb."

DIWEDD