English icon English

£8 miliwn ar gyfer gofal cymunedol i helpu pobl i aros yn iach gartref a lleihau'r pwysau ar ysbytai

£8 million for community care to support people to stay well at home and reduce pressure on hospitals

Er gwaetha'r pwysau ariannol eithafol ar wasanaethau cyhoeddus, mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo £8 miliwn yn ychwanegol y gaeaf hwn i helpu pobl sy'n wynebu'r risg fwyaf i aros yn iach, derbyn gofal gartref neu'n agos ato, a lleihau'r pwysau ar ysbytai.  

Bydd y cyllid yn sicrhau y caiff y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau y gofal i'w helpu i osgoi derbyniadau i'r ysbyty. Mae ymchwil yn dangos bod pobl yn fwy tebygol o wella gartref nag yn yr ysbyty ac mae Llywodraeth Cymru am i bobl allu byw eu bywyd gorau mor annibynnol â phosibl yn eu cymunedau eu hunain.

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i gynyddu capasiti gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol cymunedol gyda'r nos ac ar benwythnosau gan gynnwys cynyddu oriau nyrsys cymunedol ac arbenigwyr nyrsio clinigol gofal diwedd oes.

Bydd y cyllid hefyd yn darparu gwasanaethau fel asesu'r bobl hynny sy'n eiddil neu sy'n byw gydag anghenion cymhleth eraill a chytuno ar gynllun i gefnogi eu lles a'u hannibyniaeth gartref, yn enwedig yn ystod salwch neu yn dilyn anaf. Mae'r gofal hwn wedi'i deilwra i anghenion penodol pob unigolyn a gallai gynnwys nyrsio cymunedol, ailalluogi, therapi adsefydlu, cymorth iechyd meddwl neu gyfuniad o'r gwasanaethau hyn a gwasanaethau eraill.     

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, buddsoddwyd bron i £145 miliwn drwy Gronfa Integreiddio Rhanbarthol Llywodraeth Cymru, ar brosiectau a ddarperir gan bartneriaid iechyd a gofal cymdeithasol i ddarparu gofal yn nes at y cartref.

Gwelodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, drosti ei hun sut mae'r tîm Gartref yn Gyntaf arobryn sydd wedi'i leoli yn Sir Gaerfyrddin yn cyflawni ar gyfer pobl yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Dywedodd Eluned Morgan:

"Yr hyn sy'n bwysig i bobl hŷn sydd angen gofal a chymorth yw cael gofal mewn amgylchedd cyfarwydd gyda phobl gyfarwydd. Dydyn nhw ddim am fynd i'r ysbyty oni bai bod gwirioneddol raid.

"Maen nhw hefyd yn llai tebygol o golli eu hyder a chryfder eu cyhyrau, ac yn llai tebygol o gael eu heintio nag yn yr ysbyty.

"Rydyn ni wedi ymrwymo i ysgogi newid a thrawsnewid, a mynd ymhellach, yn gyflymach i sicrhau y gall mwy o bobl gael y gofal a'r cymorth sydd eu hangen arnynt gartref neu yn eu cymuned. Er mwyn galluogi hyn, mae angen rhannu'r hyn rydyn ni wedi'i ddysgu am arfer gorau â phob rhan o Gymru.  

"Mae'r tîm Gartref yn Gyntaf yn Sir Gaerfyrddin yn enghraifft wych o system integredig sy'n darparu dull radical, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn o ran lles, gofal a chymorth yn y gymuned. Mae hyn yn helpu i osgoi achosion o fynd i'r ysbyty yn ddiangen a lleihau Oedi yn achos Llwybrau Gofal ar draws y rhanbarth."

Ychwanegodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

"Mae iechyd a lles da yn allweddol er mwyn inni allu mwynhau bywyd i'r eithaf. Mae hyn yn arbennig o bwysig i bobl yn hwyrach yn eu bywyd.

"Mae pobl hŷn wedi cronni oes o brofiad, gwybodaeth a dysg, ac mae ganddyn nhw rôl sylweddol i'w chwarae yn ein cymdeithas. Rhaid i ni ail-lunio gwasanaethau, sicrhau y gall pobl hŷn barhau i fwynhau bywyd, a sicrhau bod ein system iechyd a gofal cymdeithasol yn addas ar gyfer y dyfodol a'n poblogaeth sy'n heneiddio'n gynyddol.

"Ein gweledigaeth strategol hirdymor yw cael gwasanaeth gofal cenedlaethol yng Nghymru.”

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Gofal Cymunedol a Gofal Hirdymor ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:

"Roedden ni'n falch o allu dweud wrth y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, am y gwaith gwych sy'n cael ei wneud i gefnogi ein mentrau Gartref yn Gyntaf. Mae'n dangos gweithio mewn partneriaeth ar ei orau ac rydyn ni'n gweld rhai canlyniadau cadarnhaol iawn diolch i'r dull hwn o ymdrin â gofal iechyd. Rydyn ni'n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda Chyngor Sir Caerfyrddin, Llesiant Delta Wellbeing, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ac ystod o bartneriaid y trydydd sector."

Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

"Mae galluogi cleifion i ddychwelyd gartref yn gynharach o ysbytai a chynnig arf arall i dimau gofal cymdeithasol i gefnogi cleientiaid o bell yn y gymuned yn caniatáu ffordd fwy rhagweithiol ac ataliol o fynd ati fel y gallwn ni oedi neu hyd yn oed stopio cleifion rhag bod angen y gwasanaethau hyn. Mae'r tîm Gartref yn Gyntaf yn darparu un pwynt mynediad i sicrhau bod pobl yn cael gafael ar y rhan gywir o'r system, y tro cyntaf. Mae hyn yn cynnwys darparu dewisiadau eraill, sy'n ddiogel yn glinigol, i'r ysbyty lle bo hynny'n briodol, a chefnogi pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain gyda'r cymorth cywir.

"Mae'r elfen Llesiant Delta Wellbeing yn cefnogi cleifion i ddychwelyd gartref o'r ysbyty drwy ddarparu cymorth gofal am gyfnod byr nes bod modd dod o hyd i wasanaeth ailalluogi neu ddarparwyr tymor hir. Mae staff mewn ysbytai yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd a thimau gofal cymdeithasol y cyngor i sicrhau bod modd rhyddhau cleifion cyn gynted â phosibl drwy ddarparu cymorth hanfodol i atal derbyniadau i'r ysbyty y gellir eu hosgoi, rhyddhau capasiti gwelyau ysbyty, rhyddhau amser gwerthfawr staff, cynnal llif cleifion a sicrhau nad yw cleifion sy'n ffit yn feddygol yn aros yn yr ysbyty am hirach nag sydd ei angen. Mae hyn yn helpu'r claf i adennill ei gryfder a'i annibyniaeth ac i aros gartref cyhyd ag y bo modd."