English icon English
pexels-anna-shvets-6250930-2

GIG Cymru wedi cael ei gydnabod yng Ngwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd

NHS Wales recognised at the Advancing Healthcare Awards.

Mae gwaith staff o fewn GIG Cymru wedi cael ei gydnabod yng Ngwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd Cenedlaethol y DU 2023.

Mae’r Gwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd wedi’u cynnal ers 17 o flynyddoedd ac yn cydnabod ac yn dathlu gwaith gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, gwyddonwyr gofal iechyd a chydweithwyr eraill sydd wedi rhoi arferion gofal iechyd arloesol ar waith.

Ymhlith yr enwebeion o Gymru ar gyfer y gwobrau eleni mae:

  • Claire Madsen o Fwrdd Iechyd Addysgu Powys a enwebwyd ar gyfer y Wobr Arweinyddiaeth am ei gwaith ar hyd a lled Cymru i ddatblygu gwasanaethau COVID hir.
  • Joseph Cox o Fwrdd Iechyd Addysgu Powys a enwebwyd ar gyfer gwobr Seren y Dyfodol am ei waith ym maes Deieteg.
  • Tîm Model Adsefydlu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a enwebwyd ar gyfer Gwobr Llywodraeth Cymru ar gyfer ei fodel adsefydlu er mwyn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd drwy optimeiddio iechyd a chefnogi hunanreoli.
  • Tîm Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a enwebwyd hefyd ar gyfer Gwobr Llywodraeth Cymru am ei ddull gweithredu amlddisgyblaethol o reoli llyncu, maetheg a meddyginiaeth preswylwyr hŷn mewn cartrefi gofal.
  • Paul Thomas Lee o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a enwebwyd ar gyfer y Wobr Arweinyddiaeth ym maes Gwyddor Gofal Iechyd am ganolbwyntio ar ddiogelwch cleifion wrth ddatblygu mentrau newydd, gwaith cydweithredol a rhaglenni gwella ar gyfer hyfforddiant i ddefnyddio dyfeisiau meddygol.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:

“Rwy'n falch iawn o weld gwaith caled cydweithwyr o bob rhan o'n GIG yng Nghymru yn cael ei gydnabod yn y gwobrau ledled y DU hyn. Mae GIG Cymru yn dod o hyd i ffyrdd arloesol newydd o weithio o hyd, o ganlyniad i waith caled ac ymroddiad y rhai hynny sy’n gweithio yn ein gwasanaethau iechyd. Mae’r enwebeion hyn yn dangos eu bod yn ffynnu, er gwaethaf y pwysau enfawr y maen nhw’n ei wynebu bob dydd, er mwyn darparu’r gofal a gwasanaethau iechyd gorau posibl i bobl Cymru.”

Dywedodd Joseph Cox, Deietegydd Cymunedol a Rheoli Meddyginiaethau ar gyfer Bwrdd Iechyd Addysgu Powys:

“Cawsom syndod mawr wrth glywed am yr enwebiad hwn, ond rwy'n falch ac yn gyffrous iawn gan ei fod yn deimlad gwych cael fy nghydnabod am y rhan rwyf wedi'i chwarae yn yr amser byr rwyf wedi bod yn y rôl hon. Rwy'n ddiolchgar am y gefnogaeth rwyf wedi'i chael gan yr adran ddeieteg ehangach yn ystod fy mlwyddyn a hanner gyntaf gyda'r tîm, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ragor o flynyddoedd gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys gan ddatblygu gyda nhw.”

Dywedodd Claire Madsen, Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddor Iechyd ar gyfer Bwrdd Iechyd Addysgu Powys:

“Mae'n anrhydedd mawr i mi gynrychioli Powys a Chymru yn y Gwobrau hyn, a chodi proffil y gwaith hynod o bwysig a wneir gan bob bwrdd iechyd yng Nghymru, i gefnogi’r bobl sydd â Covid Hir.”

Dywedodd Sheiladen Aquino sy’n arwain y prosiect ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:

“Mae cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr hon yn gyfle i arddangos sut y gall gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd integredig hyrwyddo profiad positif i gleifion, gwella canlyniadau clinigol, lleihau costau a chyfrannu at amgylchedd gwyrddach.

“Gellir efelychu'r model hwn yn hawdd i ddarparu ar gyfer gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd eraill er mwyn darparu gofal cyfannol i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn y gymuned. Rydym yn gobeithio cyflwyno'r model hwn ledled Cymru a chynnwys gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd eraill. Nid yw'r dull hwn ar gyfer Therapyddion Lleferydd, Deietegwyr a Fferyllwyr yn unig. Gall pobl fel Therapyddion Galwedigaethol a Ffisiotherapyddion ddefnyddio'r model hwn i leihau cwympiadau a gwella'r broses adsefydlu.

“Rydym yn falch o gynrychioli nifer o brosiectau arloesol gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd sy'n cael eu cynnal yng Ngwasanaethau Cymunedol Integredig Pen-y-bont ar Ogwr a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.”

Dywedodd Emma Cooke, Dirprwy Gyfarwyddwr Therapïau a Gwyddor Iechyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro:

“Rwy'n falch iawn bod Tîm Adsefydlu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi cael ei enwebu ar gyfer Gwobr Llywodraeth Cymru yng Ngwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd y DU.

“Mae'r model sy'n canolbwyntio ar adfer yn effeithio’n sylweddol ar y ffordd rydyn ni'n gweithio. Mae'n creu ac yn darparu ymyriadau cymunedol wedi'u cyd-gynhyrchu a'u cyd-gyflwyno sy'n diwallu anghenion y bobl rydym yn gofalu amdanynt.

“Mae'r canlyniadau a'r buddion yn bellgyrhaeddol yn barod. Ers cyflwyno'r model, mae 5,241 yn llai o ymweliadau wedi bod i safleoedd ysbyty acíwt drwy ymyriadau yn y gymuned, mae 92% o'r cyfranogwyr yn argymell y gwasanaeth yn gryf i'w ffrindiau a'u teuluoedd, ac mae 85% wedi nodi newidiadau clinigol cadarnhaol a sylweddol.”

Dywedodd Paul Lee Rheolwr Hyfforddiant Dyfeisiau Meddygol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe:

“Roedd yn anrhydedd cael fy enwebu a 'nghynnwys ar restr fer y wobr genedlaethol hon gan ei bod yn tynnu sylw at rôl a gwaith gwyddonwyr gofal iechyd yn y GIG.

“Ni fyddwn wedi cael yr enwebiad hwn heb gymorth gwych fy rheolwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a'm holl gydweithwyr sy'n gweithio yn yr adran dyfeisiau meddygol a hyfforddiant.

“Croesi bysedd gawn ni lwyddiant, ond beth bynnag fydd y canlyniad, mae'n helpu i godi proffil a chyfraniad gwyddonwyr gofal iechyd ym maes diogelwch cleifion a gwelliannau parhaus ar draws y GIG yng Nghymru.”

Caiff enillwyr Gwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd 2023 eu cyhoeddi ar 21 Ebrill.

DIWEDD