English icon English
Deputy Minister Julie Morgan with Marie Jones at Bridgend Carers Centre-2

Gofalwyr di-dâl yng Nghymru i dderbyn taliad o £500 fel rhan o fuddsoddiad o £29m

Unpaid carers in Wales to receive a £500 payment as part of £29m investment

Bydd mwy na 57,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru yn derbyn taliad o £500 i gydnabod y ‘rôl ganolog’ y maent wedi’i chwarae yn ystod y pandemig.

Mae’r taliad yn rhan o fuddsoddiad o £29m mewn pobl gan Lywodraeth Cymru ac yn cydnabod y caledi ariannol ac emosiynol mae llawer wedi’i wynebu.

Bydd gofalwyr di-dâl sy’n derbyn Lwfans Gofalwr ar 31 Mawrth eleni yn gymwys ar gyfer y taliad.

Gofalwr di-dâl yw rhywun sy’n gofalu am bartner, perthynas neu ffrind sydd â salwch neu anabledd.

Telir Lwfans Gofalwr i bobl sy’n gofalu am o leiaf 35 awr yr wythnos, sy’n gofalu am rywun sy’n derbyn budd-daliadau penodol ac sy’n ennill dim mwy na £128 yr wythnos.

Bydd y taliad o fudd i filoedd o’r gofalwyr di-dâl mwyaf agored i niwed yng Nghymru, sy’n aml yn gofalu am yr hiraf ac ar yr incwm isaf.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan:

“Mae gofalwyr di-dâl wedi chwarae rôl ganolog drwy gydol y pandemig ac rydym yn cydnabod y caledi ariannol ac emosiynol a wynebwyd ganddynt.

“Rwy’n gobeithio y bydd y taliad hwn o £500 o ryw gymorth iddynt yn ystod y cyfnod anodd hwn.

“Rydym yn hynod o falch o’n gofalwyr di-dâl yng Nghymru, y mae llawer ohonynt yn cael trafferth gwneud amser iddynt eu hunain oherwydd eu rôl gofalu, ac rydym yn gobeithio bydd y buddsoddiad hwn o £29 miliwn mewn pobl yn dangos cymaint rydyn ni’n gwerthfawrogi'r hyn maen nhw’n ei wneud.

“Rydym yn deall na fydd pob gofalwr di-dâl yn gymwys am y taliad hwn, gan nad yw llawer ohonynt yn derbyn Lwfans Gofalwr, a byddwn yn parhau i gefnogi gofalwyr o bob oed ym mhob ffordd y gallwn.”

Bydd gofalwyr di-dâl yn gallu cyflwyno eu cais i awdurdodau lleol yn ddiweddarach eleni. Bydd manylion pellach ar sut a phryd i gofrestru ar gyfer y taliad ar gael yn fuan.

Daw lansiad y taliad ar ôl i arolwg o fwy na 1,500 o ofalwyr di-dâl ganfod bod bron i hanner wedi gorfod defnyddio eu cynilion personol a rhoi’r gorau i weithio neu astudio i ofalu, tra bu’n rhaid i fwy na hanner roi’r gorau i hobïau neu ddiddordebau personol oherwydd eu rôl gofalu.

Ynghyd ag argyfwng costau byw – a’r ffaith y bydd llawer o’r rheini sydd mewn rôl gofalwr di-dâl yn gofalu am unigolion ag anghenion cymhleth sydd angen cartrefi cynnes, offer meddygol arbenigol a bwydydd penodol – cydnabyddir y bydd gofalwyr di-dâl yn wynebu mwy o bwysau ariannol nag eraill.

Y gobaith yw y bydd taliad o £500 yn cyfrannu rhywfaint at leddfu’r pwysau hyn, yn ogystal â chydnabod gwerth eu rôl ofalu dros y flwyddyn ddiwethaf i system iechyd a gofal cymdeithasol Cymru.

Dywedodd Kate Young, Cadeirydd Cynghrair Cynhalwyr Cymru a Chyfarwyddwr Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan:

“Mae’r Gynghrair yn croesawu’r newyddion y bydd llawer o ofalwyr di-dâl ledled Cymru yn cael eu cefnogi gan y taliad hwn.

“Mae’n gam cadarnhaol tuag at gydnabod y gofal a’r cymorth cyson y mae gofalwyr di-dâl bob amser wedi’u rhoi, ac y byddant yn parhau i’w rhoi, yn enwedig o ystyried yr heriau ychwanegol y mae cymaint o deuluoedd wedi’u hwynebu yn ystod y pandemig.”

Croesawodd Simon Hatch, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, y newyddion:

“Mae gofalwyr di-dâl wedi bod ar y rheng flaen drwy gydol y pandemig ac mae’r taliad hwn yn gydnabyddiaeth o’r oriau lawer o ofal y maent wedi’u rhoi ochr yn ochr ag ymdrechion y gweithlu cyflogedig.

“Dyma’r cam cyntaf tuag at fynd i’r afael â rhai o’r pryderon rydym wedi’u clywed gan ofalwyr di-dâl ledled Cymru, ers cyn cyfnod y pandemig, am eu brwydrau dyddiol i gael dau ben llinyn ynghyd."

Dywedodd Claire Morgan, Cyfarwyddwr Gofalwyr Cymru:

“Gofalwyr di-dâl yw trydydd piler hanfodol ein system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ac fe wnaethant ysgwyddo llawer iawn o straen a chyfrifoldeb yn ystod y pandemig.

Mae’r taliad hwn o £500 yn gam cyntaf pwysig i gydnabod, mewn ffordd ymarferol, gyfraniad dyddiol gofalwyr i’n cymdeithas ac rydym yn cymeradwyo Llywodraeth Cymru am wneud y taliadau hyn yn uniongyrchol i ofalwyr."

Nodiadau i olygyddion

  • I fod yn gymwys ar gyfer Lwfans Gofalwr, rhaid i unigolion dreulio o leiaf 35 awr yr wythnos yn gofalu, gofalu am rywun sydd yn derbyn budd-daliadau penodol ac ennill dim mwy na £128 yr wythnos.
  • Bydd awdurdodau lleol yn gallu defnyddio eu disgresiwn ynghylch ceisiadau sy’n methu’r dyddiad cymhwystra o ychydig bach neu pan fo amgylchiadau eithriadol.
  • Ni fydd y taliad untro yn drethadwy, yn ddarostyngedig i gyfraniadau Yswiriant Gwladol nac wedi’i gynnwys fel incwm wrth gyfrifo hawliadau credydau treth.
  • Bydd mwy na £520,000 yn mynd tuag at awdurdodau lleol i brosesu’r ceisiadau, tra bydd £230,000 yn mynd tuag at ymgyrch gyfathrebu i annog pobl i hawlio’r taliad.

Cymhwystra

Mae ffigurau DWP yn dangos bod 57,130 o bobl (ym mis Awst 2021) yn derbyn Lwfans Gofalwr yng Nghymru. Byddem yn anelu at ddyrannu cyllid i bob awdurdod yn seiliedig ar nifer yr hawlwyr yn eu hardal.

Dadansoddiad yn ôl awdurdod lleol

Ynys Môn / Isle of Anglesey

1,183

Gwynedd

1,489

Conwy

1,971

Sir Ddinbych / Denbighshire

2,100

Sir y Fflint / Flintshire

2,359

Wrecsam / Wrexham

2,483

Powys

1,569

Ceredigion

945

Sir Benfro / Pembrokeshire

2,336

Sir Gaerfyrddin / Carmarthenshire

3,419

Abertawe / Swansea

4,346

Castell-nedd Port Talbot / Neath Port Talbot

3,850

Pen-y-bont ar Ogwr / Bridgend

3,030

Bro Morgannwg / Vale of Glamorgan

1,818

Caerdydd / Cardiff

5,482

Rhondda Cynon Taf

5,383

Merthyr Tudful / Merthyr Tydfil

1,543

Caerffili / Caerphilly

3,993

Blaenau Gwent

1,736

Tor-faen / Torfaen

1,958

Sir Fynwy / Monmouthshire

1,068

Casnewydd / Newport

3,080

Cyfanswm

57,130