English icon English
Parent carer and son-2

Gofalwyr di-dâl yng Nghymru i elwa ar gronfa seibiant byr gwerth £9 miliwn

Unpaid carers in Wales are set to benefit from a £9m short breaks fund

Bydd gofalwyr di-dâl o bob oed yng Nghymru yn elwa ar gronfa seibiant byr ar ôl buddsoddiad gwerth £9 miliwn gan Lywodraeth Cymru.

Bydd y cynllun, a fydd yn cael ei gyllido am y tair blynedd nesaf, yn cynyddu’r cyfleoedd i ofalwyr di-dâl gymryd seibiant o’u rôl fel gofalwyr.

Bydd yn cefnogi gofalwyr di-dâl yng Nghymru i fwynhau cyfnodau rheolaidd i ffwrdd o’u cyfrifoldebau gofalu, mewn ymdrech i atal lludded a rhoi hwb i’w lles meddyliol a chorfforol. 

Bydd yn eu helpu i gymryd rhan mewn hobïau neu weithgareddau, gan gynnwys cyfle i ymweld â’r gampfa, dysgu sgìl newydd neu ymlacio drwy fynd am dro neu ddarllen llyfr.

Gallai seibiant byr hefyd fod yn amser oddi cartref gyda theulu neu ffrindiau a gallai hefyd olygu treulio amser gyda’r person y maent yn ei gefnogi ac yn gofalu amdano.

Drwy gydol dwy flynedd diwethaf y pandemig mae llawer o ofalwyr wedi cael trafferth cymryd seibiant i’w helpu i ymdopi â’r pwysau sy’n deillio o’u cyfrifoldebau gofalu.

Mae’r cyfyngiadau wedi cyfyngu ar ble y gallant fynd a’r hyn y gallant ei wneud, a hefyd wedi golygu nad oedd gofalwyr yn gallu cael cymorth gan deulu a ffrindiau, gan arwain at flinder pellach ac, mewn rhai achosion, eu hymestyn bron i’r eithaf.

Gall cymryd seibiant, boed hynny drwy gymorth, gwasanaeth neu drwy gael profiad, helpu gofalwyr di-dâl i ymdopi â phwysau a straen, gan helpu i roi gorffwys y mae mawr ei angen iddynt.

Gall hefyd eu helpu i fwynhau gweithgareddau nad ydynt wedi gallu eu gwneud, cwblhau tasgau eraill o ddydd i ddydd a dal i fyny â theulu a ffrindiau.

Canfu arolwg o fwy na 700 o ofalwyr di-dâl fod 7 o bob 10 gofalwr wedi methu â chymryd unrhyw seibiant ers mis Mawrth y llynedd. 

Canfu arolwg arall o 1,500 o ofalwyr di-dâl hefyd fod mwy na hanner wedi gorfod rhoi’r gorau i hobïau neu ddiddordebau personol oherwydd eu rôl fel gofalwyr.

Bydd y cynllun seibiant byr newydd hwn, a gaiff ei gydgysylltu gan sefydliad trydydd sector sy’n gweithio gydag eraill ar draws y sector cyhoeddus a’r trydydd sector, yn galluogi mwy o ofalwyr di-dâl ledled Cymru i gael y seibiant cywir ar eu cyfer nhw, a hynny ar yr adeg iawn.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan:

"Rwy’n gwybod bod llawer o ofalwyr di-dâl wedi cael trafferth cael seibiant byr yn ystod y pandemig a sut mae hyn wedi effeithio arnynt.

"Rydym yn buddsoddi yn y cynllun seibiant hwn gan ein bod yn cydnabod pa mor bwysig yw’r seibiannau byr hyn o’u cyfrifoldebau gofalu, gan gefnogi eu lles corfforol a meddyliol, a sut y gallant gael effaith gadarnhaol ar eu bywydau.

"Rydym am ei gwneud yn haws i ofalwyr di-dâl o bob oed ledled Cymru gael seibiant a thrwy gydweithio credwn mai dyma’r ffordd fwyaf effeithiol o wneud hynny."