English icon English

Gosod paneli solar ar ysgolion ac adeiladau cyhoeddus wrth i Gymru hyrwyddo ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i'r gymuned

Schools and public buildings to get solar panels as Wales drives community owned renewable energy

Bydd tair ysgol, cartref gofal ac amlosgfa yng Nghasnewydd ymhlith yr adeiladau cyntaf i osod paneli to solar fel rhan o gymorth Llywodraeth Cymru i ehangu gwaith cynhyrchu ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i'r gymuned yng Nghymru.

Bydd y paneli hyn yn cynhyrchu dau megawat o drydan ac yn cael eu gosod gan gwmni cydweithredol ynni solar Egni, ar ôl derbyn bron i £2.35m o gyllid.

Mae Cymru’n hyrwyddo perchnogaeth leol o ynni adnewyddadwy mewn ymateb i'r argyfwng hinsawdd a hefyd yn sgil y pryderon presennol ynghylch costau byw cynyddol a diogelwch ynni byd-eang.

Rhagwelir y bydd y prosiect yn arbed tua 3,700 tunnell o garbon ac yn sicrhau arbedion sylweddol ar filiau trydan.

Mae Cymru'n arwain y ffordd drwy sicrhau bod addysgu am yr argyfwng hinsawdd yn orfodol yn ei chwricwlwm ysgol newydd - ac mae Egni wedi addo ail-fuddsoddi arian dros ben o ynni a werthir yn ôl i'r grid mewn rhagor o gyfleoedd addysg ym maes y newid yn yr hinsawdd.

Mae Ysgol Gyfun Caerllion eisoes yn elwa ar osodiad gan Egni. Wrth siarad ar ymweliad yno, dywedodd Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd:

"Mae ein gweledigaeth yn glir. Rydym am i Gymru gynhyrchu ynni adnewyddadwy i ddiwallu ein hanghenion ynni yn llawn o leiaf a defnyddio unrhyw ynni sydd dros ben i fynd i'r afael â'r argyfyngau natur a hinsawdd.

"Mae prosiectau fel hyn yn dangos y gall uchelgais sbarduno canlyniadau.

"Gyda phob adroddiad gan yr IPCC, mae’r sefyllfa o ran yr argyfwng hinsawdd yn dod yn fwy clir ac rydym am i Gymru gyfrannu at yr ymateb byd-eang drwy gyflawni Sero Net erbyn 2050.

"Er mwyn cyrraedd y targed hwnnw, mae'n rhaid i ni gynyddu cyfanswm yr ynni gwyrdd rydym yn ei gynhyrchu bum gwaith dros y 30 mlynedd nesaf.

"Ailbwysleisiodd Cymru Sero Net | LLYW.CYMRU ein hymrwymiad i drawsnewid yn sylweddol waith cynhyrchu ynni yn lleol gan leihau’r defnydd o danwydd ffosil a chynhyrchu ynni adnewyddadwy cynaliadwy.

"Mae ynni sy'n eiddo i'r gymuned yn adeiladu gwydnwch ynni lleol drwy ddulliau glanach a gwyrddach – sy'n hanfodol yn ein hymdrechion i gyflawni Cymru Sero Net erbyn 2050, a helpu ysgolion, ysbytai a chymunedau i amddiffyn eu hunain rhag costau byw cynyddol."

Mae Egni, a fydd yn berchen ar y paneli ac yn eu rheoli, eisoes wedi cysylltu paneli solar yn llwyddiannus gan gynhyrchu 4.3MW o ynni ar gyfer bron i 90 o adeiladau yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynyddu’r ynni adnewyddadwy a gynhyrchir gan gyrff cyhoeddus a grwpiau cymunedol yng Nghymru o dros 100 megawat erbyn 2026.

Dywedodd Dan McCallum o Gwmni Cydweithredol Egni:

"Rydym wedi derbyn cefnogaeth arbennig gan Lywodraeth Cymru.

"Egni yw cwmni cydweithredol mwyaf y DU ym maes paneli to solar sy'n tystio i’r ffaith y gall dull cydweithredol alluogi Cymru i gyflawni pethau gwych.

"Mae'n hanfodol bod y gwaith o gynhyrchu ynni adnewyddadwy drwy ddulliau cydweithredol yn cynyddu'n gyflym. Bydd ynni adnewyddadwy yn rhoi rhyddid i ni ac mae pobl Cymru yn haeddu dyfodol heb danwyddau ffosil."